Banc Datblygu Cymru yn croesawu aelodau bwrdd anweithredol newydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Dianne Walker & Iestyn Evans join Development Bank of Wales as non executive directors

Daw dau berson newydd â mwy na phum degawd o brofiad cyfun mewn rolau cyllid a lefel bwrdd i Fanc Datblygu Cymru.

Mae Dianne Walker ac Iestyn Evans yn ymuno â bwrdd y Banc Datblygu fel cyfarwyddwyr anweithredol o 1 Mawrth, 2022.

Mae pob un ohonynt wedi dal rolau arweiniol ac uwch ar fyrddau mewn busnesau rhyngwladol a busnesau yn y DU ac yn ymuno â’r Bwrdd wrth i’r Banc Datblygu ddod i ddiwedd ei gynllun busnes pum mlynedd cyntaf a phennu ei rôl a’i amcanion ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i geni a’i magu yng ngogledd Cymru, mae Dianne yn dod â mwy na 30 mlynedd o brofiad mewn cyllid a rolau cynghori i fwrdd i’r Banc Datblygu ac yn ddiweddar dyfarnwyd Gwobr Cyfarwyddwr Anweithredol y Flwyddyn y Sunday Times iddi.

Cyn hynny bu Dianne yn gweithio yn uwch dîm rheoli PricewaterhouseCoopers ym Manceinion ac ers hynny mae wedi bod yn gynghorydd i amrywiaeth eang o fusnesau, o CCCau amlwladol i fusnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr a busnesau a reolir gan berchnogion.

Dywedodd Dianne: “Mae’r Banc Datblygu yn adnodd unigryw yn economi Cymru ac mae ganddo rôl fawr i’w chwarae wrth gefnogi a chryfhau busnesau Cymreig.

“Fel sefydliad mae’r Banc Datblygu yn rhoi pwyslais mawr ar gynhwysiant, cynaliadwyedd ac arweinyddiaeth ac edrychaf ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol i’r Bwrdd wrth iddo ddechrau ar y cam cyflawni nesaf ar gyfer economi Cymru.

Mae gan Iestyn Evans fwy na dau ddegawd o brofiad ym myd cyllid a bancio.

Wedi'i eni yn Nhalgarth, Powys, a'i fagu yng nghymoedd de Cymru, dechreuodd ei yrfa gyda Deloitte yn y 90au hwyr.

Mae wedi dal uwch rolau gyda chyflogwyr gan gynnwys y Lloyds Banking Group (LBG), Virgin Money, Omni Partners, Amicus CLP a Monument yn ogystal ag amrywiaeth o rolau strategol ar lefel prif fwrdd.

Dywedodd Iestyn: “Mae’r Banc Datblygu yn trawsnewid y ffordd y mae’n darparu ei wasanaethau, gan sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf a gwerth am arian.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r nodau hyn gyda fy mhrofiad o reoli newid – yn enwedig ym maes rheoli newid digidol – wrth i’r daith hon barhau.”

“Arbenigedd ariannol a phrofiad ymarferol, uniongyrchol”

Dywedodd Gareth Bullock, Cadeirydd: “Rwy’n falch iawn o groesawu Dianne ac Iestyn ar y Bwrdd.

“Maen nhw’n dod ag arbenigedd ariannol pwysig yn ogystal â phrofiad uniongyrchol, ymarferol o’r mathau o gwmnïau y mae’r Banc Datblygu yn eu cefnogi gydag ecwiti a chyllid dyled.

“Hoffwn longyfarch y ddau ar eu penodiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni barhau â’n gwaith pwysig yn cefnogi economi Cymru a busnesau Cymru."