Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi lansio cronfa o £100 miliwn i gefnogi busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan yr achosion o Cofid-19.
Bydd cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau ac unig fasnachwyr sydd wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd yn gallu cael gafael ar fenthyciadau o hyd at £250,000 ar raddfa sefydlog o 2% gyda gwyliau ad-dalu llog a chyfalaf am y 12 mis cyntaf. Ni fydd unrhyw ffioedd trefnu na monitro. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu gwasanaethu lefel y ddyled cyn y coronafirws.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae argyfwng Cofid-19 yn parhau i effeithio ar ein heconomi ar gyflymder rhyfeddol.
“Mae’r cynllun benthyciad £100m hwn trwy Fanc Datblygu Cymru yn rhan gwbl hanfodol o’r Gronfa Cydnerthedd Economaidd gwerth £500 miliwn yr ydym newydd ei gyhoeddi a bydd yn hanfodol wrth gefnogi cwmnïau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i helpu busnesau i ddelio ag effaith economaidd coronafirws - ac rydym yn ymateb gyda phecyn cefnogaeth digynsail am gyfnod digynsail.”
Gellir gwneud ceisiadau ar-lein trwy wefan Banc Datblygu Cymru, bancdatlygu.cymru. Dim ond un cais y gall bob busnes ei wneud a bydd swm y benthyciad yn gyfyngedig yn seiliedig ar nifer y bobl a gyflogir gan y busnes neu ar gyfrifiad yn seiliedig ar elw neu drosiant. Mae'r Banc Datblygu wedi paratoi pob tîm i ymateb i'r galw a bydd ceisiadau'n cael eu prosesu cyn gynted â phosibl.
Er mwyn profi defnyddioldeb, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tri mis o ddatganiadau banc am fenthyciadau o £5,000 hyd at £100,000. Bydd angen cyfrifon blynyddol dwy flynedd, gwybodaeth reoli a rhagolygon llif arian hefyd ar gyfer benthyciadau o £100,000 i £250,000. Bydd y diogelwch a gymerir yn warant bersonol o 20% hyd uchafswm o £25,000 ar gyfer pob buddsoddiad ac ar gyfer bargeinion dros £100,000 bydd dyledeb hefyd yn berthnasol.
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae Cofid-19 yn cael effaith ddifrifol ar fywydau pob unigolyn yn y wlad ac yn niweidio ein rhagolygon. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein busnesau bach a chanolig sy'n anadl einioes ein heconomi yng Nghymru.
“Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi symud yn gyflym ac yn bendant i sicrhau bod y gronfa hon ar gael i gefnogi busnesau trwy'r amseroedd heriol hyn.
“Mae ystod o fesurau cymorth ariannol a chymorth eraill wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a’r DU yn ystod yr wythnosau diwethaf ac anogaf berchnogion busnesau bach i adolygu’r holl opsiynau sydd ar gael, a lle bo modd, cymerwch gyngor.
“Mae yna ffordd hir o’n blaenau ond gyda’r gefnogaeth gywir gan y llywodraeth a Banc Datblygu Cymru, fe allwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth gadw’r busnesau’n ddiogel, gan ddiogelu swyddi a gwarchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed o achos y dirywiad economaidd.
Mae'r gronfa'n gweithio ochr yn ochr â mesurau a gyhoeddwyd yn flaenorol ledled y DU fel Cynllun Benthyciad Ymyrryd ar Fusnes Coronafirws sy'n cael ei reoli gan Fanc Busnes Prydain sy’n cael ei ddarparu gan rwydwaith o bartneriaid achrededig gan gynnwys banciau'r stryd fawr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael yn:
https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws
https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-covid-19-guidance-on-business-support-grant-funding
https://www.iod.com/iod-coronavirus-support-hub
https://www.fsb.org.uk/campaign/covid19.html
Mae'r Cynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru o £100 miliwn yn ychwanegol at y gwyliau ad-dalu cyfalaf tri mis a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth.