Banc Datblygu Cymru yw banc cyntaf y DU i dreialu Perseus, cynllun arloesol dan arweiniad y diwydiant, a gynlluniwyd i alluogi busnesau bach a chanolig i awtomeiddio eu hadroddiadau ynni, galluogi cynllunio datgarboneiddio wedi'i dargedu a datgloi cyllid gwyrdd.
Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am oddeutu hanner (50%) o allyriadau a ysgogir gan fusnesau yn y DU, gyda chyfleoedd sylweddol i wella eu cynhyrchiant trwy newid ynni a mesurau effeithlonrwydd.
Mae Perseus yn darparu modd i fusnesau bach a chanolig rannu eu data mesuryddion clyfar gyda darparwyr cyfrifyddu carbon, banciau a benthycwyr, gan gadw rheolaeth dros ei ddefnydd. Mae hyn yn galluogi busnesau bach a chanolig i gael mynediad at offer adrodd a chynllunio awtomataidd a darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar fenthycwyr ar gyfer benthyca gwyrdd, yn aml ar gyfradd ffafriol.
O dan arweiniad Icebreaker One, mae Perseus wedi cael ei yrru gan grŵp diwydiant gan gynnwys y Banc Datblygu, Banc Busnes Prydain, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, NatWest a Barclays. Y Banc Datblygu bellach yw'r cyntaf i dreialu Perseus yn ei brosesau diwydrwydd dyladwy ar gyfer ei gynhyrchion benthyciadau busnes gwyrdd.
Croesawodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y cyhoeddiad. Dywedodd: “Mae enwi’r Banc Datblygu fel banc cyntaf y DU i ddefnyddio Perseus yn dangos ymhellach ymrwymiad Cymru i hyrwyddo busnes cynaliadwy a sicrhau economi carbon isel.
“Mae’n garreg filltir bwysig i’r Banc Datblygu ac rydym yn falch o’u gweld yn cymryd rhan flaenllaw wrth ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach a chanolig y DU gael mynediad at gyllid gwyrdd fel y gallwn gefnogi eu cynhyrchiant a lleihau allyriadau.”
Dywedodd Gavin Starks, Prif Weithredwr Icebreaker One, sy'n rhedeg Perseus: “Mae'r garreg filltir hon yn mynd â ni o achos defnydd i astudiaeth achos - gan ddangos y gall datgloi mynediad at ddata, gyda chaniatâd y cwsmer, helpu i gael cyllid gwyrdd i lifo i fusnesau bach a chanolig.
“Mae'n brawf pwysig y gall Cynllun Perseus alluogi data clyfar dibynadwy i lifo rhwng busnesau bach a chanolig, phlatfformau cyfrifyddu carbon, a banciau - a helpu i gyflymu mynediad at biliynau ar y ras i sero.
“Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 50% o allyriadau busnesau’r DU, ond yn aml maent yn ei chael hi’n anodd i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddatgarboneiddio. Hyd yn oed os oes ganddynt y bwriad, yn aml nid oes ganddynt yr amser, yr arbenigedd a’r arian i weithredu. Rydym am i Perseus helpu’r farchnad i ddatrys hynny: er mwyn mynd yn bell, rydym yn mynd gyda’n gilydd.”
Dywedodd Matthew Kelly, Rheolwr Cynaliadwyedd, Banc Datblygu Cymru: “Dyma’r cynllun peilot cyntaf o’i fath, gan ddefnyddio technoleg i leihau baich adrodd ar fusnesau bach a chanolig a chynyddu cywirdeb asesu a monitro lleihau carbon.
“Credwn y bydd Perseus yn helpu i ehangu cyllid gwyrdd drwy roi mynediad i ni at ddata sicr a dibynadwy. Mae'n golygu y bydd busnesau bach a chanolig yn cael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i hybu eu cynhyrchiant wrth ddatgarboneiddio, gan ein helpu felly i gyrraedd sero net yn gyflymach.”
Mae cynllun peilot Perseus yn dal i fynd rhagddo, gan weithio gyda banciau, darparwyr cyfrifyddu carbon, busnesau bach, ac eraill. Dysgwch fwy am ymuno â Perseus.