Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu yn cefnogi cynlluniau Kubos Semiconductor ar gyfer micro-LEDau newydd

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Cyllid ecwiti
Ariannu
Twf
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Kubos

Mae’r gwneuthurwr lled-ddargludyddion Kubos ar fin dod â’i ddeunydd lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd chwyldroadol i Dde Cymru, diolch i fuddsoddiad ecwiti o £670,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Mae Kubos wedi dewis adeilad Sbarc Prifysgol Caerdydd fel ei sylfaen, gan eu rhoi wrth galon eco-system lled-ddargludyddion cyfansawdd o safon fyd-eang Cymru. Bydd y busnes yn recriwtio ar gyfer pum swydd newydd gan gynnwys peiriannydd profi, rheolwr dyfeisiau ac Is-lywydd datblygu ynghyd â datblygiad technegol parhaus ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt gan yr Athro David Wallis a'i dîm.

Mae’r busnes yn gweithio ar ddeunydd lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd o’r enw galiwm nitrad ciwbig (a adwaenir yn gryno fel GaN) gyda’r nod o alluogi deuodau allyrru golau ar raddfa ficrosgopig cenhedlaeth nesaf (microLEDau), sy’n dod o hyd i ddefnyddiau mewn arddangosfeydd ar raddfa fach fel oriawr clyfar a dyfeisiau rhith-realiti.

Mae technoleg Kubos yn caniatáu i'r cwmni wella perfformiad deuodau sy'n llai na lled gwallt dynol, sy'n golygu y gellir eu defnyddio mewn sgriniau arddangos cydraniad uchel iawn ar gyfer cymwysiadau a ddefnyddir yn agos-i’r-llygad.

Trwy dyfu GaN ciwbig ar garbid silicon ardal fawr ar swbstradau silicon, gall Kubos leihau cost LEDau gwyrdd a choch effeithlonrwydd uchel, gan fynd i'r afael â phroblemau sydd ar hyn o bryd yn dal y defnydd ehangach o LEDau mewn arddangosfeydd Realiti Rhithwir ac Realiti Estynedig yn ôl, cyfathrebu data a goleuo.

Arweiniodd Banc Datblygu Cymru y rownd £2.2 miliwn ochr yn ochr â Dr Drew Nelson, sylfaenydd, a llywydd IQE plc, Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru ac angylion busnes, ynghyd â grant Innovate UK (IUK) o £700,000.

Meddai Caroline O’Brien, Prif Weithredwr Kubos : “Mae’r gefnogaeth werthfawr gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i wreiddio Kubos o fewn clwstwr De Cymru ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gan ddefnyddio’r arbenigedd a’r ecosystem sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd.”

Dywedodd Dr Carl Griffiths, rheolwr cronfa yn y tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg yn y Banc Datblygu: “ Mae gan dechnoleg berchnogol Kubos y potensial i wella profiad y defnyddiwr ar gyfer goleuo ac arddangosiadau a chyflymu mabwysiadu microLEDau ar draws ystod eang o gymwysiadau.

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda’r cwmni cyffrous hwn o beirianwyr a gwyddonwyr uchel eu clod, ac o fod wedi eu helpu i adleoli i Gymru gan ddefnyddio’r arbenigedd a’r seilwaith lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth.”