Banc Datblygu yn noddi PRIDE Cymru 2024

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Pride Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn un o gefnogwyr corfforaethol dathliadau PRIDE Cymru eleni, a gynhelir yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn, Mehefin 22 a dydd Sul, Mehefin 23.

Bydd yr ŵyl ddeuddydd, sy’n argoeli i fod y dathliad unigol Pride mwyaf yng Nghymru, yn cynnwys perfformiadau gan berfformwyr gan gynnwys The Vengaboys, Jake Shears y Scissor Sisters, Kara Marni, Côr yr House Gospel Choir, Louise Hall, Frankie Wesson ac eraill, wedi’u rhannu ar draws prif lwyfan y Principality a llwyfan cymunedol S4C.

Yn ogystal â noddi digwyddiadau eleni yn ffurfiol, bydd gweithwyr o'r Banc Datblygu hefyd yn ymuno â'r orymdaith drwy ganol dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 11yb o Stryd y Castell ac yn gorffen ar Ffordd y Brenin ger Castell Caerdydd a disgwylir iddo bara’ am fwy nag awr a hanner. 

Dywedodd Beverley Downes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi PRIDE Cymru y flwyddyn hon, ac rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â’r orymdaith eleni.”

“Mae PRIDE Cymru yn elusen weithgar a arweinir gan wirfoddolwyr, ac mae ei haelodau’n gweithio’n ddiflino i gael gwared ar wahaniaethu. Maent wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb a bod amrywiaeth yn cael ei dderbyn o fewn ein cymunedau.

“Mae’n anrhydedd i ni weithio gyda’r elusen eithriadol hon a pharhau i ddysgu gan y gymuned LGBTQ+ a ddangos ein bod yn weithlu cynhwysol ac amrywiol.”