Mae cyllid mesanîn yn fath hybrid o gyllid busnes, sy'n cyfuno nodweddion dyled (benthyciadau) ac ecwiti. Er ei fod yn fwy cymhleth na mathau eraill o gyllid, gall fod yn allweddol i fusnes gael y cyfalaf sydd ei angen arno. Felly mae'n bwysig deall beth ydyw, fel opsiwn cyllido posib ar gyfer eich cwmni.
Bydd y canllaw hwn yn egluro beth yw cyllid mesanîn a sut mae'n gweithio, y ffyrdd posibl y gall gael ei ddefnyddio, a'r manteision a'r anfanteision. Dylai hyn eich helpu i ddeall a allai fod yn addas i helpu i ariannu eich busnes chi.
Mathau o Gyllid
Mae cyllid mesanîn yn eistedd rhwng dyled ac ecwiti. Mae'n debygol eich bod eisoes yn gyfarwydd â'r mathau hyn o gyllid. Dyma grynodeb o'u nodweddion allweddol:
Cyllid dyledion
Cyllid dyledion yw'r term a ddefnyddir ar gyfer y mwyafrif o fathau o fenthyca sy'n cael ei raddio uchaf yn nhrefn yr ad-daliad ac sydd fwyaf adnabyddus i ni. Mae'r rhain yn cynnwys benthyciadau busnes, morgeisi masnachol, cyllid asedau, cyfleusterau cyfalaf gweithio (e.e. gorddrafftiau a disgowntio anfonebau) a threfniadau tebyg eraill. Gellir sicrhau cyllid dyled neu ei gael heb ei sicrhau, a dyled wedi'i gwarantu yw'r hawsaf a'r rhataf i'w chael.
Yn syml, mae cyllid dyledion yn cynnwys benthyca cyfandaliad, a delir yn ôl dros amser, ynghyd â swm llog y cytunwyd arno.
Cyllid ecwiti
Cyllid ecwiti yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r broses o godi arian trwy werthu cyfranddaliadau. Mae buddsoddwyr yn darparu cyfalaf ac yn dod yn gyfranddalwyr yn y busnes. Mae gwerth cyfran buddsoddwr mewn cwmni yn amrywio gyda gwerth y cwmni.
Mae'n bosibl i fuddsoddwr ecwiti golli arian yn ogystal â gwneud arian. Felly, mae'n fath fwy peryglus o ariannu. Yn wahanol i fenthycwyr na fydd ond o gwmpas am gyfnod arferol cytundeb benthyciad, bydd buddsoddwyr ynddo yn aml yn rhan ohono dros gyfnod hirdymor. Byddant yn edrych i barhau i ymwneud â chwmni am nifer o flynyddoedd a'i weld yn tyfu.
Cyllid mesanîn
Mae cyllid mesanîn yn disgyn yn y canol rhwng y rhain. O ran blaenoriaeth ad-dalu, mae'n sefyll y tu ôl i ddyled uwch (y ddyled sy'n cael ei thalu'n ôl yn gyntaf os aiff y cwmni o dan y don - fe'i darperir yn aml gan fanciau), ond cyn ecwiti cyffredin (y buddsoddiadau a wneir gan gyfranddeiliaid cyffredin).
Mae hyn yn golygu ei fod yn ffurf risg uwch o ddyled na benthyciadau traddodiadol ond mae'n cynnig enillion uwch - mae'r cyfraddau fel rheol o fewn yr ystod o 10% i 20% y flwyddyn.
O dan rai amgylchiadau, gall y cytundeb mesanîn gynnwys gwarchodaeth, os na all y busnes wasanaethu'r ddyled, gall y benthyciwr drosi'r benthyciad sy'n ddyledus yn gyfran ecwiti yn y cwmni.
Gall cyllid mesanîn fod yn ddefnyddiol yn strwythur cyllido cwmni, gan helpu i bontio'r bwlch rhwng dyled ac ecwiti. Mae'r diagram isod yn dangos sut y'i defnyddir yn gyffredin:
Efallai na fydd busnes yn gallu codi digon o gyfalaf o fenthyciad banc yn unig, felly gall cyllid mesanîn ddarparu'r cyfalaf ychwanegol sydd ei angen arno. Gall hefyd ganiatáu i fusnes gyfyngu ar faint o fuddsoddiad ecwiti sy'n ofynnol, sy'n fantais i'r rheini sy'n dymuno cadw rheolaeth dros eu hecwiti.
Sut mae cyllid mesanîn yn gweithio?
Y ffordd orau i egluro hyn yw trwy roi enghraifft wedi ei symleiddio. Gadewch i ni ystyried cwmni sy’n chwilio am £1,000,000 o gyllid ar gyfer prosiect. Maent wedi sicrhau benthyciad o £700,000 gan eu banc, ac mae'r cwmni a / neu ei gyfranddalwyr yn gallu darparu buddsoddiad pellach o £150,000 tuag at y prosiect. Mae hyn yn gadael bwlch cyllido o £150,000. Unwaith y bydd y prosiect wedi’i gwblhau ymhen 12 mis, rhagwelir y bydd y cwmni’n cynhyrchu incwm ychwanegol i gefnogi / gwasanaethu’r swm hwn.
Trwy gyfrwng trefniant cyllid mesanîn gallai'r busnes sicrhau'r £150,000. Bydd y cyfleuster hwn yn sefyll y tu ôl i'r ddyled banc ac yn debygol o gael ei israddio, ond gan fod cyfleuster heb ei sicrhau bydd yn arwain at gyfradd llog premiwm risg o hyd at 20% o bosibl.
Mae'n bosibl, yn dibynnu ar y risg ganfyddedig gyffredinol y gall y cytundeb mesanîn gynnwys hawliau trosi ecwiti. Mae hyn yn golygu, os yw'r busnes yn dioddef rhwystr ac yn methu â gwasanaethu'r cyfleuster, gallai'r benthyciwr geisio adfer yr hyn sy'n ddyledus iddo mewn ffordd arall - h.y. drwy drosi'r ddyled sy'n weddill yn gyfran ecwiti yn y cwmni sy'n werth yr un swm.
Ffyrdd posibl o ddefnyddio cyllid mesanîn
Efallai y bydd busnesau yn edrych tuag at gyllid mesanîn fel opsiwn cyllido mewn nifer o amgylchiadau, gan gynnwys:
- Allbryniant rheolwyr
- Ariannu prosiectau neu ariannu twf a ragwelir
- Caffaeliadau
- Datblygu eiddo
Manteision ac anfanteision cyllid mesanîn
Manteision
- Mae'n galluogi cwmni i fenthyca mwy nag y byddai'n ei gael gan fenthyciwr dyled yn unig, a sicrhau'r cyllid cyflawn sydd ei angen arno
- Mae ad-daliad o'r 'prif' yn aml yn cael ei ohirio tan yn ddiweddarach yn nhymor y benthyciad neu pan fydd yn aeddfedu. Mae hyn yn golygu mai dim ond taliadau llog sy'n ofynnol yn ystod yr amser hwnnw, sy'n caniatáu i fusnes ddefnyddio'r llif arian cynyddol i ad-dalu dyled arall neu fuddsoddi mewn cyfalaf gweithio neu dwf.
- Mae cyllid mesanîn yn gyffredinol yn cynnig hyblygrwydd i’r benthyciwr a gellir ei deilwra i anghenion a sefyllfa ariannol y busnes. Er enghraifft, gellir cyflwyno llog o bosibl i falans y benthyciad, neu ei dalu’n rhannol / ei rolio’n rhannol, yn dibynnu ar lif arian y busnes. Felly os na all busnes wneud y taliad llog rhestredig nesaf, gall ohirio talu peth neu'r cyfan o'r llog tan yn ddiweddarach
- Gall leihau'r gofyniad ecwiti ac amddiffyn cyfranddalwyr presennol rhag gwanhau eu daliadau
Anfanteision
- Gan ei fod yn gyffredinol heb ei warantu, yn ddarostyngedig i ddyled, ac yn aml yn gysylltiedig â thwf neu lwyddiant, gall benthyciadau mesanîn fod bedair i chwe gwaith yn ddrytach na benthyciad banc. Mae cyfraddau llog yn yr ystod o 10% i 20% y flwyddyn
- Oherwydd y risg uwch, gall benthycwyr mesanîn gymryd cryn dipyn o amser i ffurfioli cyllid. Mae'n debygol y bydd y broses yn cynnwys diwydrwydd dyladwy ar y cwmni
- Bydd y rhan fwyaf o gytundebau cyllid mesanîn yn cynnwys gofynion diogelwch, gwarantau a chyfamodau diogelwch llym (cyfyngiadau ar rai gweithgareddau ariannol a gweithredol y mae'n rhaid i fenthycwyr gadw atynt). Gall hyn eu gwneud yn anaddas i fusnesau llai
- Gall rhai cytundebau mesanîn gynnwys gwarchodaeth, os bydd y busnes yn methu â chyflawni ei rwymedigaethau, bydd benthyciadau sy'n ddyledus i'r benthyciwr yn cael eu trosi'n werth cyfran ecwiti. Mewn senario waethaf, gallai hyn roi budd rheoli i'r benthyciwr yn y busnes
Gobeithio bod y canllaw hwn i gyllid mesanîn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r math hwn o gyllid. Rydym yn darparu benthyciadau, buddsoddiadau ecwiti, a chyllid mesanîn i fusnesau yng Nghymru.