Beth yw cyllid ecwiti?

Mae cyllid ecwiti yn ffordd o godi cyfalaf trwy werthu cyfranddaliadau yn eich busnes. Yn wahanol i fenthyciadau, nid oes raid i chi boeni am wneud ad-daliadau, felly gellir rhoi'r holl arian y byddwch chi'n ei godi tuag at gyflawni eich cynlluniau twf.

Pam ddylai eich busnes chi ystyried ecwiti?

  • Mae'n eich galluogi i fanteisio'n gyflym ar gyfleoedd y gallech chi fel arall golli trwy'ch hunan-ariannu eich busnes
  • Gall fod yn ffordd effeithiol o alluogi twf cyflymach a chreu gwerth hir dymor
  • Nid oes unrhyw rwymedigaeth ad-dalu
  • Bydd buddsoddwyr yn dod â gwerth ychwanegol ar ffurf arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiadau

Dod o hyd i'r buddsoddwyr cywir

Gyda blynyddoedd o brofiad a hanes o gyflawni, rydyn ni'n cefnogi cwmnïau ym mhob sector ac yn ystod pob cam datblygu. Rydyn ni'n bartner ariannu sy'n gallu darparu buddsoddiad dilynol wrth i'ch busnes dyfu, a byddwn yn gweithio gyda chi i helpu'ch cwmni i lwyddo.

Gallwn gyfuno ecwiti a benthyciadau i ddarparu pecyn cyllido pwrpasol ar gyfer eich busnes. Rydym hefyd yn cyd-fuddsoddi ac yn gweithio'n agos gydag ystod o gyfryngwyr gan gynnwys banciau, arianwyr eraill, ac ymgynghorwyr cwmniau, er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael yr arian cyflawn sydd ei angen arnoch.

Beth all ecwiti ei gefnogi?

Un ffordd effeithiol o dyfu'ch busnes yw gwerthu mwy yn eich marchnad gyfredol. I gyflawni hyn, efallai y bydd angen i chi:

  • Gynyddu marchnata a hysbysebu
  • Ehangu sianeli dosbarthu
  • Gwella effeithlonrwydd gweithredol

Gall cyllid ecwiti eich galluogi i ddatblygu eich seilwaith ac ehangu adnoddau, gan eich helpu i ennill darn mwy o farchnad sy'n bodoli eisoes.

Os ydych chi eisiau tyfu eich busnes trwy werthu mewn ardaloedd daearyddol newydd neu dargedu cydrannau cwsmeriaid newydd, byddwch angen cyfalaf i gwrdd â'r costau. Gall y rhain gynnwys:

  • Adnoddau marchnata a gwerthu
  • Cynhyrchu a dosbarthu
  • Addasu neu ddiweddaru cynhyrchion

Gallwn ddarparu'r cymorth ariannol a'r wybodaeth i'ch helpu i ddatblygu a gweithredu'ch strategaeth ehangu yn llwyddiannus.

Gall datblygu cynnyrch eich helpu i aros yn gyfredol a gyrru'ch busnes ymlaen. Fe all gynnwys:

  • Gwella'ch cynhyrchion ar gyfer marchnadoedd presennol
  • Datblygu llinellau cynnyrch newydd ar gyfer marchnadoedd presennol
  • Cyflwyno cynhyrchion newydd i fynd i mewn i farchnadoedd newydd
  • Diweddaru cynhyrchion i ddiwallu deddfwriaeth neu reoliadau newydd

Gall buddsoddiad ecwiti fod yn opsiwn ariannu delfrydol yn yr achosion hyn, gan roi cyfalaf ac arbenigedd i chi allu dilyn hynt eich strategaeth datblygu cynnyrch.

Barod am ecwiti?

Rydym yn buddsoddi mewn busnesau sydd â'r potensial i dyfu, a all ddangos yr hyn a ganlyn:

  • Timau rheoli uchelgeisiol
  • Gweithredu mewn marchnad sy'n tyfu
  • Yn meddu ar fantais gystadleuol
  • Yn meddu ar gynllun busnes cryf a model busnes clir

Rydyn ni'n darparu ecwiti i fusnesau yn ystod pob cam o'u twf - felly p'un a ydych yn gwmni sy'n dechrau, yn y camau cynnar neu yn sefydledig, gallwn eich cefnogi gyda'r arian cyllido y mae eich busnes ei angen.

Ar gyfer busnesau technoleg cyn-refeniw newydd sy'n dechrau yng Nghymru, mae gennym gronfeydd penodol a thîm Buddsoddiadau Menter Technoleg (BMT) ymroddedig. 

Be' nesaf?

Am drafod ecwiti ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni.   

Contact us