Camp driphlyg ar gyfer y brand harddwch fegan wrth i Fanc Datblygu Cymru fuddsoddi am y trydydd tro yn Mallows

Kelsie-Taylor
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Cynaliadwyedd
Mallows Beauty

Mae Mallows Beauty o Lantrisant yn lansio mewn 550 o siopau Superdrug ledled y DU ac yn paratoi i ehangu i farchnad yr Unol Daleithiau gyda buddsoddiad ecwiti chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru.

Dyma’r trydydd buddsoddiad gan y Banc Datblygu ym Mallows ers 2021, gan fynd â chyfanswm y pecyn ariannu ecwiti a dyled i dros £1 miliwn. Mae’r busnes twf cyflym bellach yn cyflogi 25 ac yn cyflawni refeniw cyfradd rhedeg o dros £5 miliwn yn 2023/24 gyda chyfradd twf blynyddol cyfansawdd tair blynedd (CTBC) o dros 100%. Ymhlith y stocwyr mae Oliver Bonas, Beauty Bay a Superdrug.

Mae'r dewis o gynnyrch Mallows yn cynnwys menyn eillio, sgrwbiau corff, gofal gwallt, gofal croen a raseli. Bydd Superdrug nawr yn stocio'r menyn eillio a'r raseli a disgwylir i fwy o linellau cynnyrch gael eu hychwanegu'n fuan.

Sefydlwyd Mallows Beauty gan Laura Mallows yn 2020. Dywedodd: “Gan ganolbwyntio ar hunan-gariad, bod yn gadarnhaol ynghylch y corff a grymuso merched, mae ein cynhyrchion moesegol yn cael eu gwneud ar gyfer croen go iawn, a chyrff go iawn. Rydyn ni'n gwneud i bobl deimlo'n dda ac wrth i ni fynd i mewn i bennod nesaf ein twf, rydyn ni'n teimlo'n wirioneddol gadarnhaol am bŵer ein brand fel esiampl o newid yn y diwydiant harddwch a gofal croen.

“Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn wych. Maent wedi ein helpu i bontio reit o'r dechrau un i'r camau cynyddu graddfa, gan ddarparu cyfalaf datblygu y mae mawr ei angen ac arweiniad sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bellach mae gennym ni’r bobl, y prosesau a’r cyllid sydd eu hangen arnom i gynyddu cynhyrchiant a chyflymu ein twf yn y farchnad gofal croen fyd-eang gan ddechrau gyda’n cynnyrch yn cael ei werthu ym mhob un o siopau Superdrug ledled y DU.”

Kelsie Taylor a Sam Macalister-Smith yw'r Swyddogion Portffolio gyda'r Banc Datblygu sy'n cefnogi Mallows. Dywedodd Kelsie: “Mae gennym ni berthynas waith wych gyda Laura a’r tîm yn Mallows ac mae wedi bod yn bleser gwylio’r busnes yn aeddfedu ac yn tyfu dros y tair blynedd diwethaf. Maent wedi dangos twf refeniw proffidiol rhagorol ac yn achub ar bob cyfle i fanteisio ar y farchnad fyd-eang gynyddol ar gyfer cynhyrchion gofal croen a harddwch naturiol.

“Mae’r cytundeb gyda Superdrug yn bleidlais fawr o hyder yn y brand Mallows wrth i’r tîm barhau i ddatblygu cynhyrchion arloesol a moesegol sy’n hybu llesiant a phositifrwydd.”

Daeth y buddsoddiad ecwiti ar gyfer Mallows Beauty o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru rhwng £25,000 a £10 miliwn.