Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cerrig Granite and Slate yn lleihau costau ac ôl troed carbon gyda buddsoddiad o £30,000 gan Fanc Datblygu Cymru

James-Ryan
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Marchnata
Cynaliadwyedd
Cerrig

Mae un o brif ddarparwyr gwaith carreg pwrpasol y DU yn lleihau costau a charbon gyda chymorth benthyciad o £30,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Cerrig Granite and Slate o Bwllheli wedi gosod paneli solar / heulol gwerth cyfanswm o 70kW y disgwylir iddynt dorri costau ynni o £10,000 bob blwyddyn ac arbed 218 tunnell o CO2 dros oes 25 mlynedd y system. Mae’r gosodiad wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad y Banc Datblygu yn dilyn cyflwyniad gan Busnes Cymru.

Mae gan Cerrig Granite and Slate 22 o weithwyr sy’n arbenigo mewn technegau gwaith carreg o’r radd flaenaf, gwneud gwaith cerrig ar gyfer gwestai, bwytai, llongau mordaith, swyddfeydd a siopau yn ogystal â cherrig beddi. Mae'r cwmni eisoes yn ail ddefnyddio 95% o'i ddŵr gan ddefnyddio system ailgylchu dŵr cylchol ac mae wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon gyda buddsoddiad mewn peiriannau modern.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Hugo Were: “Un o’r meysydd twf rydy’ ni’n ei weld yw ein busnes cerrig beddi. Mae'r rhan fwyaf o gerrig beddi yn y DU yn cael eu mewnforio o India neu Tsieina ac nid ydynt yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Rydym felly’n gweld nifer cynyddol o gwsmeriaid yn dewis Cerrig oherwydd ein bod yn defnyddio carreg ddomestig sy’n fwy cynaliadwy, olrheiniadwy a moesegol.”

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein hôl troed carbon drwy gyflwyno technoleg newydd a dadansoddi ein cadwyn gyflenwi. Mae’r buddsoddiad hwn mewn ynni adnewyddadwy yn golygu y byddwn nawr yn gallu pweru hyd at 40% o’n gweithrediadau o’r haul.”

Mae James Ryan yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “ Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a, gyda marchnad ynni gyfnewidiol, ni fu erioed amser gwell i fuddsoddi i arbed a gwneud newid cadarnhaol tuag at ddyfodol gwyrddach.

“Mae ymrwymiad Cerrig i weithredu'n gadarnhaol yn galonogol, yn enwedig o ystyried pa mor garbon-ddwys yw'r sector. Rydym felly’n arbennig o falch ein bod wedi helpu i ariannu gosod y paneli solar gan y bydd y rhain yn helpu i leihau allyriadau carbon a chaniatáu i’r busnes arbed ar filiau ynni yn y dyfodol.”

Mae Daniel Thomas yn Gynghorydd Datgarboneiddio gyda Busnes Cymru ac yn gweithio’n agos gyda Cerrig. Meddai: “Mae Cerrig yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol ac yn benderfynol o gynyddu eu cynaliadwyedd cymaint â phosibl er mwyn gwella eu heffaith amgylcheddol. A minnau’n Gynghorydd Datgarboneiddio gyda Busnes Cymru, rwyf wedi gallu helpu i nodi dulliau datgarboneiddio a ffynonellau cyllid ar gyfer y busnes i helpu i leihau eu hôl troed carbon. Mae’n wych cael y cydweithrediad hwn gyda’r Banc Datblygu sy’n darparu gwasanaeth rhagorol a ffynonellau cyllid cynaliadwy i BBaChau leihau eu hallyriadau carbon a’u costau ynni ledled Cymru.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Cerrig Granite and Slate o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thelerau o hyd at 15 mlynedd.