Cwmni ynni lleol o Abertawe, Gower Electric Co, yn dod â £35,000 o fudd i’r gymuned

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Gower-Power

Fe ddechreuodd Cwmni Trydan Gŵyr yn rhan o Gower Power ac mae bellach wedi tyfu’n Gwmni Buddiannau Cymunedol annibynnol sy’n cyflenwi trydan a gynhyrchir yn lleol i nifer fach o gwsmeriaid yn Abertawe a’r cyffiniau.

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus, mae’r busnes wedi cadarnhau y bydd yn rhoi tua £35,000 o fudd i’w rannu rhwng ei gymuned o gwsmeriaid a their elusen leol.

Mewn partneriaeth â’r cyflenwr ynni gwyrdd gwobredig Ecotricity, mae Gower Electric Co yn cyflenwi trydan o’r fferm solar a’r cyfleuster storio batri yn Nyfnant, Abertawe i gwsmeriaid lleol pan fydd eu hangen arnynt.

Fel Cwmni Budd Cymunedol, mae Gower Electric Co yn defnyddio ei arian dros ben er budd y gymuned, naill ai drwy dynnu arian oddi ar filiau cwsmeriaid neu drwy roi arian i elusen.

Eleni, mewn cyfnod ariannol anodd, mae llawer o gwsmeriaid wedi dewis tynnu arian oddi ar eu biliau, gydag aelwyd nodweddiadol yn derbyn credyd o £270 i’w cyfrif o ganlyniad i’w haelodaeth o’r cynllun. Mae’n galonogol bod llawer o gwsmeriaid hefyd wedi dewis rhoi rhywfaint neu’r cyfan o’u cyfran i’r gymuned, ac mae hyn yn cynnwys Meithrinfa Goed Gymunedol Coeden Fach, Ysgol Goedwig Abertawe Castell-nedd Port Talbot a’r Felin Dwyr. Mae cyfanswm o £3,000 yn cael ei roi i'r sefydliadau hyn.

Yn ogystal â chyflenwi cartrefi pobl leol, mae Gower Electric Co yn cyflenwi trydan a gynhyrchir gartref drwy ei gwefrwyr cerbydau trydan ar y fferm solar yn Nyfnant, am bris rhesymol o 18c/kWh.

Os hoffai pobl ymuno â’r cynllun fel cwsmer, gallant gael rhagor o wybodaeth a newid eu trydan i Gower Electric Co yn www.gowerelectric.co.uk.

James Orme, sylfaenydd Gower Electric Co:

“Mae hwn yn ganlyniad gwych ac mae’n dangos ei bod yn bosibl cyflenwi 100% o ynni gwyrdd lleol a chreu budd i’r gymuned ar yr un pryd. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein cwsmeriaid a’n partneriaid sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi bod yn anodd i lawer. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu’r cynllun hwn i 2024 a’r tu hwnt."

Paul Sands, Prif Swyddog Twf yn Ecotricity

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Gower Electric Co a’u cwsmeriaid, gan gefnogi’r fenter ynni cymunedol bwysig hon ar lawr gwlad. Mae hi wedi bod yn wych gweld y prosiect yn tyfu ac rydyn ni’n credu y gallai fod yn lasbrint i lawer o bobl eraill ledled y wlad, gan gyfuno cynhyrchu ynni gwyrdd hanfodol â manteision cymunedol lleol eraill.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, “Mae defnyddio ynni a gynhyrchir yn lleol yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chadw’r budd yn ein cymunedau.Mae Gower Electric yn enghraifft wych o sut gellir datblygu prosiect ynni adnewyddadwy cymunedol gyda’r bwriad o sicrhau gwerth cymdeithasol ochr yn ochr â chynhyrchu ynni – rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar eu taith ynni cymunedol!”

Yn 2021, fe wnaeth Banc Datblygu Cymru gefnogi Gower Electric Co i lansio’r prosiect adnewyddadwy hwn. Dywedodd Nicola Griffiths: “Dyma enghraifft wych o’r gwahaniaeth y gall ein Cronfa Ynni Lleol ei wneud i brosiectau cymunedol ar lawr gwlad fel Gower Electric Co. Mae’n braf gweld bod pobl a chymunedau lleol yn elwa cymaint o’r ymdrechion hyn i greu economi sero net. Fel buddsoddwr sy’n ceisio cael effaith gyda phwrpas cymdeithasol, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i sicrhau dyfodol carbon isel i Gymru. Llongyfarchiadau i James a’i dîm.