Deall EBITDA: canllaw byr i fusnesau

Nick-Stork
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Business owner in warehouse working on laptop

Dywedir mai Pehr Gyllenhammar, cyn Brif Swyddog Gweithredu Volvo, a fathodd yr ymadrodd “Gwagedd yw refeniw, callineb yw elw” ym 1988.

Felly, wrth werthuso perfformiad ariannol busnes, mae yna nifer o fetrigau allweddol y gallwch eu defnyddio.  Mae EBIT ac EBITDA yn ddulliau tebyg iawn i fesur elw, er mai EBITDA yw’r mesur a ddefnyddir yn aml gan fuddsoddwyr a benthycwyr i werthuso cwmnïau neu i asesu eu gallu i ad-dalu dyledion.  Drwy ddeall a defnyddio EBITDA, gallwch ddatblygu dealltwriaeth fwy manwl o berfformiad ariannol eich busnes a gwneud penderfyniadau gwybodus er mwyn hybu twf a llwyddiant.

Yn yr erthygl hon byddwn yn esbonio beth yw EBITDA, pam ei fod yn cael ei ddefnyddio, sut i’w gyfrifo, a mwy.

Beth yw EBITDA?

EBITDA, sy’n cael ei ynganu fel "ee-bit-dah", yw un o’r metrigau mwyaf cyffredin a ddefnyddir i werthuso iechyd ariannol a gallu busnes i gynhyrchu llif arian.  Mae benthycwyr fel arfer yn defnyddio EBITDA i fesur gallu cwmni i ad-dalu ei ddyledion, ac mae buddsoddwyr yn aml yn ei ddefnyddio fel metrig gwerthuso i asesu gwerth busnes. 

Beth yw ystyr EBITDA?

Ystyr EBITDA yw “enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad” (“earnings before interest, taxes, depreciation and amortisation”).  Drwy gael gwared ar newidynnau treth, dibrisiant, amorteiddiad a llog, cewch ddarlun gwell o berfformiad a photensial twf cwmni, a gellir cymharu un busnes yn erbyn un arall yn fwy cywir.

Sut i gyfrifo EBITDA

I gyfrifo EBITDA, rydych yn dechrau gydag incwm net y busnes (enillion) yna ychwanegu’r treuliau llog, trethi, dibrisiant ac amorteiddiad yn ôl.  Dyma’r fformiwla ar gyfer cyfrifo EBITDA:

EBITDA = Incwm Net + Treuliau Llog + Trethi + Dibrisiant + Amorteiddiad

Gadewch i ni ganolbwyntio ar bob elfen:

- Mae enillion yn cyfeirio at yr incwm net mae eich busnes yn ei gynhyrchu.  Hwn yw cyfanswm y refeniw yr ydych yn ei ennill o werthiannau, minws y costau busnes y byddwch yn eu hysgwyddo yn ystod cyfnod penodol o amser.  Hwn yw’r ffigur llinell olaf ar y datganiad incwm

- Mae llog yn cyfeirio at gost cronfeydd benthyca.  Mae’n cynnwys taliadau llog ar fenthyciadau. Mae’n cynnwys taliadau llog ar fenthyciadau, llinellau credyd neu fathau eraill o ddyled

- Mae treuliau treth yn cynnwys treth incwm neu rwymedigaethau treth eraill y mae’n ofynnol i’r busnes eu talu am y flwyddyn

- Mae dibrisiant yn cynrychioli colled yng ngwerth asedau diriaethol, er enghraifft cerbydau a pheiriannau, dros amser

- Mae amorteiddiad yn debyg i ddibrisiant ond mae’n berthnasol yn benodol i asedau anniriaethol, er enghraifft eiddo deallusol, a fydd yn dod i ben yn y pen draw

Gallwch ganfod pob eitem llinell yn y cyfrifiad EBITDA ar ddatganiad incwm eich cwmni, a elwir hefyd yn ddatganiad elw a cholledion

Drwy ychwanegu’r treuliau cyllido (llog), trethi a’r treuliau heb fod yn arian parod (dibrisiant ac amorteiddiad) yn ôl, mae EBITDA yn galluogi asesiad cliriach o broffidioldeb craidd a pherfformiad gweithredol busnes.

EBITDA wedi’i Addasu

Mae EBITDA wedi’i addasu yn debyg i EBITDA ond mae’n gwneud addasiadau pellach i gael darlun cliriach o broffidioldeb gwirioneddol a llif arian parod gweithredol cwmni.  Mae dadansoddwyr a buddsoddwyr yn aml yn ei ddefnyddio at ddibenion gwerthuso.  Gall yr addasiadau sydd naill ai’n cael eu hychwanegu’n ôl neu’n cael eu didynnu amrywio yn ôl y diwydiant, y cwmni a’r amgylchiadau penodol, ond mae rhai addasiadau cyffredin yn cynnwys:

  • Elw neu golledion heb eu gwireddu
  • Treuliau heb fod yn arian parod
  • Incwm anweithredol
  • Elw neu golledion untro
  • Treuliau ymgyfeithra
  • Elw neu golledion ar arian tramor
  • Amhariadau ewyllys da
  • Iawndal ar sail cyfrannau

Y fformiwla ar gyfer cyfrifo EBITDA wedi’i addasu yw:

EBITDA wedi’i Addasu = EBITDA +/- Addasiadau

EBIT

Ystyr EBIT yw elw cyn llog a threth (“earnings before interest and tax”). Er y gwneir mwy o ddefnydd o EBITDA a hwn yw’r dull a ffafrir wrth gymharu cwmnïau â nifer fawr o asedau sefydlog, mae’n anwybyddu CapEx (gwariant cyfalaf) yn llwyr.  Felly, ar gyfer y busnesau asedau dwys hynny, EBIT yw’r mesur gorau i’w ddefnyddio yn gyffredinol.

Dulliau o brisio busnes

Mae yna nifer o ffyrdd o brisio busnes.  Ni fyddwn yn eu trafod yn fanwl yn yr erthygl hon, ond dyma rai o’r dulliau y gallech eu defnyddio:

  • Cyfalafu marchnad – a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer busnesau rhestredig
  • Asedau/gwerth ar y llyfrau – a ddefnyddir ar gyfer busnesau â llawer o asedau
  • Llif arian parod wedi’i ddisgowntio
  • Dull refeniw/incwm – a ddefnyddir ar gyfer busnesau technoleg yn gyffredinol
  • Lluosogwr enillion – gweler isod

EV/EBITDA

Y lluosogwr EV/EBITDA yw’r gymhareb ariannol a ddefnyddir yn gyffredin i brifio cwmnïau.  Ystyr EV yw Gwerth Menter, sy’n cynrychioli cyfanswm gwerth cwmni, gan gynnwys ei ddyledion a’i ecwiti.  Cyfrifir y lluosogwr EV/EBITDA drwy rannu’r gwerth menter gyda’r EBITDA.

Prif ddiben y lluosogwr EBITDA yw darparu prisiad cymharol i fuddsoddwyr a dadansoddwyr o gwmnïau, sy’n eu helpu i asesu gwerth cyffredinol cwmni mewn cysylltiad â’i enillion a mesur pa mor ddeniadol ydyw fel cyfle buddsoddi.

Be’ sydd nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol trwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltwch â ni