Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Nick Stork

Rwy'n rheolwr cronfa yn ein tîm buddsoddiadau newydd. Rydyn ni'n canolbwyntio ar weithio gyda busnesau Cymru i strwythuro atebion ariannu pwrpasol i'w cefnogi yn ystod pob cam o'u twf.

Rydw i wedi arfer ymdrin â busnesau ar lefel bwrdd ac edrychaf ymlaen at gynnig fy mhrofiad fel bod busnesau a thimau rheoli ar hyd a lled Cymru yn cael budd o hynny.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, gweithiais i Fanc Lloyds a HSBC mewn amrywiaeth o rolau gan ganolbwyntio ar fusnesau corfforaethol a BBaCh.

Mae gen i brofiad o dros 15 mlynedd o ariannu busnesau ar sail ddomestig a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys tair blynedd yn y maes trosoli corfforaethol.

Rwy'n Gydymaith gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.