Dirnad Economi Cymru yn adrodd am effeithiau cynnar pandemig ar Fusnesau Cymru yn Adroddiad Blynyddol 2020

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Giles Thorley at EIW launch

Mae pandemig COFID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar fentrau bach i ganolig (BBaChau) yng Nghymru, yn ôl yr ail adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Dirnad Economi Cymru (DEC) heddiw.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at effeithiau cychwynnol y pandemig ar economi Cymru ac yn manylu ar bolisïau lliniaru dilynol gan Lywodraethau'r DU a Chymru wrth i'r DU baratoi ar gyfer dirwasgiad yn 2020.

Mae'r coronafirws wedi effeithio ar economi a oedd eisoes yn arafu, gyda chynhyrchu a buddsoddi yn wynebu problemau sylweddol wrth ragweld y byddai'r DU yn gadael yr UE.

Mae DEC, a lansiwyd yn 2018, yn gydweithrediad unigryw rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r grŵp yn coladu ac yn dadansoddi data i greu mewnolwg annibynnol, cadarn a dibynadwy i helpu i gael gwell dealltwriaeth o ac i wella economi Cymru.

Mae canfyddiadau eraill yr adroddiad fel a ganlyn:

  • Cymru sydd â'r cynnydd canrannol uchaf o ddiddymiadau busnes yn y DU gan godi o 982 ym mis Mawrth 2019 i 2,359 ym mis Mawrth 2020.
  • Effeithiwyd yn ddifrifol ar y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru, ac mae'r gyfran uchel o gwmnïau yn y sector hwn a microfusnesau yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru yn gwneud y rhanbarth yn arbennig o agored i niwed.
  • Yn ôl Arolwg Effaith Busnes SYG COFID-19, ers mis Mawrth 2020, nododd 66% o BBaCh Cymru ostyngiad yn eu trosiant, gydag un o bob pedwar yn nodi crebachiad o fwy na 50.
  • Roedd tua 21% o BBaCh Cymru wedi cau neu wedi oedi masnachu dros dro, gyda'r mwyafrif o'r rhain ym maes hamdden, lletygarwch, cyfanwerthu ac adeiladu.
  • Mae cyfraddau risg credyd hefyd yn dangos bod mwy o fusnesau bach a chanolig Cymru yn dod o fewn y grŵp Risg Uchel, gan gynyddu o 2.5% ym mis Mawrth i 5.8% ym mis Mai 2020.
  • Mae'r galw am gyfleusterau credyd llif arian wedi cynyddu'n gyflym iawn gyda thraean y busnesau naill ai heb gronfeydd wrth gefn na llif arian yn weddill am ddim ond 3 mis.

 

Mae ymyrraeth y llywodraeth wedi bod yn bwysig wrth liniaru’r effaith, gyda 48% o gwmnïau’r diwydiant twristiaeth wedi gwneud cais i Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys Cynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru £100m a gyflawnwyd gan Fanc Datblygu Cymru. Mae gan Gymru hefyd y gyfradd uchaf o gwmnïau sy'n ceisio am Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU gyda thua 316,000 o weithwyr ar seibiant yng Nghymru.

Er gwaethaf y rhagolygon sy'n achosi pryder, mae rhai busnesau wedi addasu eu harferion busnes trwy droi at offerynnau digidol. Yn ôl arolwg New Horizons y FfBB, roedd 40% o’r ymatebwyr wedi cynyddu’r defnydd o dechnolegau digidol a’u presenoldeb ar-lein, gyda 35% yn ceisio newid eu harferion busnes er mwyn gallu gweithio gartref.

Mae hyn yn dangos awydd i addasu a ffynnu yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod cwmnïau o Gymru hefyd wedi cyrchu'r pecynnau cymorth sydd ar gael yn rhagweithiol.

Fodd bynnag, gan nad yw'r data cyfredol ond yn helpu i ddadansoddi'r sefyllfa sy'n dod i'r amlwg, bydd DEC yn parhau i fonitro'r data er mwyn deall yn well gwir effaith y pecynnau cymorth sydd ar gael ar economi Cymru. Ymdrinnir â hyn yn adroddiad pwrpasol nesaf DEC a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2020.

Dywedodd yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae’r adroddiad yn datgelu llawer am y cwymp disgwyliedig yng ngweithgaredd economaidd Cymru yn ystod ail chwarter eleni, ond yn bwysicach fyth yn tynnu sylw at rôl ymyriadau cyhoeddus wrth gysgodi'r rhannau mwyaf bregus o'n heconomi. Wrth i Dirnad Economi Cymru barhau i olrhain y data, bydd yn rhoi mewnolwg pellach i sut mae'r pandemig wedi effeithio ar economi Cymru.”

“Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd gan Fanc Datblygu Cymru rôl bwysig wrth gefnogi ein sylfaen o BBaCh, ond mae’r rôl hon wedi’i hatgyfnerthu yn yr ail chwarter, gyda’r Banc Datblygu yn ddarparwr benthyciadau critigol i helpu cwmnïau drwy’r argyfwng.”

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae Dirnad Economi Cymru yn parhau i ddarparu dealltwriaeth ddyfnach a llawnach o’r materion unigryw sy’n wynebu economi Cymru a’i BBaCh a fydd yn hanfodol wrth i ni barhau i ddelio â’r canlyniad yn sgil y pandemig.”

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mewnolwg gwerthfawr i effeithiau cynnar y sioc fyd-eang a ddaeth yn sgil pandemig COFID-19 a’r effaith y mae wedi’i gael ar economi Cymru. Bydd hyn ac adroddiadau dilynol yn helpu i lywio penderfyniadau polisi ar sut y gallwn helpu gydag ymyriadau tymor byr a'r atebion tymor hir i'n helpu i wella.”

I ddarllen Adroddiad Blynyddol DEC i weld data sy'n ymwneud ag effaith gychwynnol COFID-19 ar yr economi, yn fyd-eang ac yng Nghymru, ewch i https://developmentbank.wales/cy/gwasanaethau/dirnad-economi-cymru