
Mae'r gwyddiau ym Melin Tregwynt yn gweithio unwaith eto wrth i’r gwaith wehyddu ailddechrau ym Melin Tregwynt yng Nghasmorys, Sir Benfro.
Mae'r busnes teuluol wedi goroesi dau ryfel byd, dirwasgiadau niferus a phandemig Cofid-19 ers iddo gael ei sefydlu gyntaf gan y teulu Griffith ym 1912. Dyfarnwyd £95,000 o Gynllun Benthyciad Busnes Cymru Cofid-19 gan Fanc Datblygu Cymru fel rhan o Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru sy'n golygu y gall Melin Tregwynt ailagor i'r cyhoedd nawr. Ar hyn o bryd bydd hyn ar sail rota lle bydd staff yn weithredol un wythnos ac un wythnos i ffwrdd er mwyn cadw staff, cwsmeriaid a'r teulu'n ddiogel.
Fel melin draddodiadol, mae Melin Tregwynt yn cynhyrchu carthenni, blancedi gorchudd, clustogau ac ategolion arobryn sy'n cael eu hallforio ledled y Byd. Mae'r busnes yn cyflogi 30 aelod o staff.
Dywedodd y perchnogion Amanda ac Eifion Griffith: “Diolch i gefnogaeth wych ein cwsmeriaid, staff a ffrindiau, rydym wedi gallu goroesi y cyfnod clo. Rydyn ni nawr yn dechrau gwehyddu eto ac mae ein siop felin a'n caffi wedi ailagor.
“Mae ein busnes ar-lein wedi parhau i fod yn gryf ledled y byd ac mae cynhyrchion yn parhau i gael eu hanfon ledled y byd. Roeddem yn gwerthfawrogi cyflymder ymateb a chyfathrebu agored â Banc Datblygu Cymru trwy gydol y cyfnod hwn."
Dywedodd Alun Thomas sy’n Rheolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru. “Mae Melin Tregwynt yn un sy’n dangos sut y gall busnesau traddodiadol sydd gan reolwyr ymatebol i’w cwsmeriaid ac sy'n gweithio’n galed i gael y wybodaeth ddiweddaraf tra’n cadw at eu hegwyddorion nid yn unig oroesi ond ffynnu hefyd. Pan fyddwch chi'n prynu cynhyrchion Melin Tregwynt, rydych chi'n prynu cannoedd o flynyddoedd o hanes.
Mae melin wedi bod ar y safle ers yr 17eg ganrif, pan fyddai ffermwyr lleol yn dod â'u cnu i'w nyddu i edafedd a'u plethu i mewn i flancedi gwlân Cymreig o sylwedd. Mae sgiliau a gwybodaeth yr holl staff, ddoe a heddiw, yn cadw'r traddodiad o wehyddu yng Nghymru yn fyw ym Melin Tregwynt. Fel un o dros fil o fusnesau y gwnaethon ni eu helpu yn ystod y pandemig hwn, mae'n bleser pur cynorthwyo Amanda ac Eifion."