Mae fferm wynt gyntaf y DU, sy'n eiddo i ddefnyddwyr, wedi cael y golau gwyrdd i gael ei adeiladu yn dilyn cyllid nodedig o £1.1m gan Lywodraeth Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

We share relevant third party stories on our website. This release was written and issued by Ripple Energy.

  • Bydd fferm wynt Ripple yn ehangu mynediad at ynni adnewyddadwy ac yn lleihau tlodi tanwydd
  • Mae prosiect ynni gwyrdd arloesol Ripple wedi derbyn grant o £1.1m gan Lywodraeth Cymru
  • Bydd cannoedd o aelwydydd ledled y DU yn elwa o ynni gwyrdd fforddiadwy yn uniongyrchol o'u cyfran eu hunain yn fferm wynt Ripple
  • Mae’r odel perchnogaeth cydweithredol arloesol ar fin tarfu ar y farchnad bresennol, gan baratoi ar gyfer mynediad tecach a mwy fforddiadwy i berchnogaeth ynni gwyrdd

 

Heddiw, mae Ripple Energy, platfform perchnogaeth ynni glân cyntaf erioed y DU, wedi cyhoeddi ei fod wedi sicrhau £1.1m mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu fferm wynt gyntaf erioed y DU sydd ym mherchnogaeth y defnyddwyr, a fydd i'w chwblhau yn hydref 2021. Cytunwyd ar fenthyciad arall o £1.8m mewn egwyddor gan Fanc Datblygu Cymru y gellir ei dynnu i lawr yn yr haf, ar yr amod bod rhai amodau yn cael eu bodloni. Mae cwsmeriaid Ripple wedi cyfrannu ychydig dros £1.3m i’r prosiect, lle byddant yn gweld enillion trwy arbedion i’w bil trydan cartref.

Mae hyn yn arwydd o foment bwysig yn hanes ynni cynaliadwy yn y DU, gan alluogi unrhyw gartref i fod yn berchen ar eu cyfran o fferm wynt, lle byddant yn derbyn trydan glân a fforddiadwy trwy'r grid.

Bydd fferm wynt Graig Fatha, a fydd wedi'i lleoli ger Coedelai yn Ne Cymru, yn eiddo i 675 o aelwydydd cychwynnol sydd eisoes wedi cofrestru ar y platfform. Bydd pob aelod yn derbyn trydan gwyrdd yn uniongyrchol o’u cyfran o’r fferm wynt yn ddiweddarach eleni, gan arbed hyd at 25 y cant ar eu biliau trydan bob blwyddyn ar draws oes 25 mlynedd y fferm wynt.

Gall cartrefi pellach gofrestru ar blatfform Ripple a phrynu cyfran o'r fferm wynt newydd am gyn lleied â £25.

Bydd incwm a gynhyrchir o gyfran y fferm wynt a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei sianelu tuag at fentrau sy'n cefnogi pobl sy'n wynebu tlodi tanwydd yn yr ardal leol, trwy Gronfa Budd Cymunedol (CBF) y fferm wynt.

Mae'r gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn ymrwymiad clir i alluogi datblygu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i ddefnyddwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

Meddai Sarah Merrick, PW a Sylfaenydd Ripple Energy:

“Dyma’r foment rydyn ni wedi bod yn aros amdani. Pan ddaw'r Nadolig, bydd aelodau Ripple yn cael trydan gwyrdd o’u fferm wynt eu hunain. Dyma'r cyntaf i'r DU. Mae'n dangos y gall pobl chwarae rhan weithredol iawn yn nyfodol ynni glân y DU.

“Cenhadaeth Ripple yw gwneud perchnogaeth ynni glân yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am chwarae eu rhan er mwyn gwireddu hynny. Am gyfnod rhy hir, mae pobl wedi bod ar yr ymylon yn cael eu heithrio; nawr gallant rannu buddion ynni gwyrdd yn uniongyrchol. Megis dechrau rhoi’r pŵer yn nwylo defnyddwyr cartrefi ydym ni.”

Ychwanegodd David Clubb, Director, Cydweithrediad Graig Fatha: “Mae'r prosiect cyllido torfol hwn yn enghraifft wych o gysylltu cymunedau Cymru â'r adnodd ynni adnewyddadwy ar garreg eu drws. Bydd y prosiect yn creu cronfa i helpu i leddfu tlodi tanwydd yn yr ardal leol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi galluogi Graig Fatha i symud ymlaen.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi prosiect fferm wynt Graig Fatha. Mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi cynyddu 200% ers 2010, a’r llynedd cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o ynni i ddiwallu hanner anghenion trydan Cymru.

“Rydym yn agos at ein nod o gael gwerth 1GW o gynhyrchiant ynni yn nwylo lleol, gyda 825MW o gapasiti ynni adnewyddadwy yn eiddo lleol. Yn hynny o beth, mae prosiectau fel Graig Fatha, a'r model o berchnogaeth gymunedol ar gynlluniau ynni, yn chwarae rhan hanfodol yn ein symudiad tuag at ddod yn genedl sero net carbon erbyn 2050.

“Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod ynni adnewyddadwy nid yn unig yn gyfeillgar i'r amgylchedd, ond yn fforddiadwy - yn enwedig wrth i ni geisio mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cartrefi i dalu cost eu biliau ynni.

Bydd incwm a dderbynnir gan y Gronfa Budd Cymunedol yn canolbwyntio'n bennaf ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal leol o amgylch y fferm wynt, ochr yn ochr â phrosiectau amgylcheddol a gyfarwyddir gan y gymuned. Defnyddir partneriaid lleol i ddarparu arian i sicrhau bod anghenion gorau'r gymuned yn cael eu diwallu a'u deall. Rhoddir dyraniad eilaidd i elusen genedlaethol, y Fuel Bank Foundation (FBF), sy'n darparu cefnogaeth i bobl mewn argyfwng tanwydd. Gellir ystyried bod yr elfen hon o'r Gronfa Budd Cymunedol yn mynd i'r afael â phen arall y cylch tlodi tanwydd, gan helpu'r rhai sy'n canfod eu hunain mewn argyfwng er gwaethaf ymdrechion gorau rhaglenni eraill.

Mae Ripple wedi partneru gyda Co-op Energy, wedi’i bweru gan Octopus Energy i gael y trydan o’r fferm wynt i gartrefi ei berchnogion. Gall cwsmeriaid newid i Co-op Energy pan fyddant yn ymuno â'r cynllun. Gwahoddir cwsmeriaid presennol Co-op Energy ac Octopus Energy i gymryd rhan hefyd. Unwaith y bydd y fferm wynt yn weithredol, cymhwysir arbedion o'u fferm wynt i'w bil trydan. Gallwch chi ymuno â'r cynllun ar wefan Ripple yn uniongyrchol: www.rippleenergy.com