Marchnata’ch busnes yn y normal newydd

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
COVID-19
Marchnata
marketing in the new normal

Mae pandemig y coronafeirws yn cael effaith sylweddol ar y ffordd mae busnesau’n marchnata. Mae ymddygiad defnyddwyr wedi newid, mae llawer o gwmnïau wedi torri eu cyllideb marchnata, ac efallai nad yw hen sianeli a thactegau marchnatwyr yn perfformio cystal mwyach. 

Mae pethau bellach wedi dechrau ailagor, ond mae'n debyg y bydd rhai o’r newidiadau i’r tirwedd farchnata’n parhau. Mae’n glir y bydd rhaid i fusnesau ddal ati i ailfeddwl ac addasu eu strategaethau marchnata er mwyn llwyddo yn y normal newydd.

Darllenwch ymlaen i gael awgrymiadau ynghylch sut mae mynd ati’n effeithiol i farchnata'ch busnes ar gyfer eich cwsmeriaid, a datblygu’ch brand yn y sefyllfa bresennol.

Deall anghenion eich cwsmeriaid

Mae Covid-19 wedi achosi newid sydyn yn arferion ac ymddygiad defnyddwyr. Mae sut a lle rydyn ni’n treulio ein hamser ac yn gwario ein harian wedi newid. Mae sut rydyn ni'n rhyngweithio ag eraill, a beth rydyn ni'n ei werthfawrogi ac sy’n flaenoriaeth gennym hefyd wedi newid. Mae nawr yn bwysicach nag erioed deall ac ymateb i anghenion newidiol cwsmeriaid.

Edrychwch ar eich data gwerthu a rhowch sylw manwl i’r hyn mae eich cwsmeriaid yn ei ddweud. Gall gwrando’n gymdeithasol, hy rhoi sylw i negeseuon a sgyrsiau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol sy’n sôn am eich brand, eich cynnyrch, eich cystadleuwyr a’ch diwydiant, fod yn ffordd effeithiol o fesur teimladau defnyddwyr.

Dylech fonitro sut mae eich cwsmeriaid yn teimlo wrth i chi ryngweithio â nhw, o adolygiadau ac ymatebion arolygon i alwadau rheoli cyfrifon a negeseuon e-bost gwasanaeth i gwsmeriaid. Casglwch adborth ar wahanol adegau o daith y cwsmer. Os bydd cwsmer yn canslo ei danysgrifiad neu'n gadael nwyddau yn y fasged siopa, ceisiwch ganfod pam ei fod wedi gadael drwy ddefnyddio ffenestr naid neu e-bost adborth, er enghraifft, a gwneud gwelliannau i brofiad y cwsmer ar sail ei ymatebion.

Mae dadansoddeg yn adnodd amhrisiadwy a ddylai nawr chwarae rhan fwy canolog fyth yn eich strategaeth farchnata. Bydd yn caniatáu i chi dracio ymddygiad cwsmeriaid, mabwysiadu dull mwy penodol a chost-effeithiol o weithredu yn eich gweithgareddau marchnata, a chanfod cyfleoedd a risgiau cyn gynted â phosibl yn yr amgylchedd newidiol hwn.

Addasu eich negeseuon

Mae brandiau sydd wedi dangos empathi wedi gwella’n gyffredinol yn ystod yr argyfwng. Canfu Ymchwil gan Deloitte Digital fod un defnyddiwr o bob pump wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio busnes oherwydd  eu hymateb i Covid-19. Ar y llaw arall, dywedodd 19% o’r ymatebwyr eu bod wedi dechrau defnyddio brand o ganlyniad i’w hymateb, fel blaenoriaethu gweithwyr rheng flaen neu ddiogelwch gweithwyr.

Mae’r argyfwng yn cael effaith barhaol ar y rhan fwyaf o bobl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac mae’n debygol bod yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei werthfawrogi a’i ddisgwyl gan frandiau wedi newid am y dyfodol agos o leiaf. Efallai na fydd negeseuon roeddech chi wedi’u defnyddio o’r blaen yn berthnasol mwyach neu efallai y byddan nhw’n ymddangos yn anystyriol (mae gan yr erthygl hon rai awgrymiadau defnyddiol ar sut i addasu eich negeseuon yn ystod y cyfnod hwn). Mae bod yn dryloyw ac yn ddilys wrth gyfathrebu, a dangos gofal ac empathi, yn hollbwysig. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfleu’n glir y mesurau rydych chi wedi’u rhoi ar waith i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel
  • Osgoi gwerthu’n galed ac yn hytrach canolbwyntio ar sut y gallwch helpu cwsmeriaid. Pa newidiadau y gallech eu gwneud i’ch cynnig a fyddai’n gwneud eu bywydau’n haws yn ystod y cyfnod anodd hwn? Er enghraifft, dros y misoedd diwethaf, mae llawer o gwmnïau wedi dangos cefnogaeth drwy gynnig treialon estynedig am ddim, polisïau dychwelyd mwy hael, neu opsiynau talu mwy hyblyg
  • Archwilio ffyrdd eraill o ychwanegu gwerth, fel creu cynnwys ar-lein difyr neu addysgiadol neu ddarparu cyrsiau hyfforddi ar-lein

 

Cynyddu eich presenoldeb ar-lein

Mae’r pandemig wedi golygu bod mwy o bobl yn treulio llawer mwy o’u hamser ar-lein. Ac, er bod siopau brics a morter yn agor eu drysau eto, mae’n debygol bod y newid i sianeli digidol ac e-fasnach yn dal i dyfu mewn poblogrwydd. Dyma’r amser i gynyddu eich presenoldeb ar-lein i sicrhau gwelededd a hygrededd eich busnes. I gyflawni hyn, gallwch wneud y canlynol:

  • Gwneud eich safle mor gyflym â phosibl, datrys unrhyw broblemau technegol, a sicrhau bod eich safle’n gweithio’n dda ar ffonau symudol
  • Dangos neu blannu adolygiadau cwsmeriaid ar eich gwefan
  • Cynhyrchu cynnwys difyr, gwerthfawr a rheolaidd
  • Cynnal ymchwil o allweddeiriau ar gyfer SEO ac ymgorffori’r allweddeiriau hyn yn eich safle
  • Mynd yn ôl i’ch gwefan drwy greu dolenni yn ôl i’ch gwefan o flogiau gan ddefnyddwyr

 

Yn ogystal â gwella eich gwefan, dylech hefyd gynnal presenoldeb cyson ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol er mwyn cadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac adeiladu cysylltiadau. Eto, dylai eich cynnwys ganolbwyntio llai ar wthio eich cynnyrch, a dylai anelu mwy at ddarparu gwerth i gwsmeriaid, boed hynny drwy gynnig gweithgareddau ar-lein hwyliog neu rannu cynnwys addysgiadol sy’n berthnasol i’ch brand. Ceisiwch ei wneud mor rhyngweithiol â phosibl, drwy ofyn cwestiynau, cynnal cystadlaethau, neu rannu cwisiau neu bleidleisiau, er enghraifft. Bydd hyn yn helpu i roi blas personol i’ch brand a bydd hefyd yn eich galluogi i ddysgu mwy am eich cynulleidfa. Mae mwy a mwy o bobl hefyd yn troi at gyfryngau cymdeithasol i geisio cymorth pan fydd ganddyn nhw broblemau neu ymholiadau, felly mae sefydlu strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid cyfryngau cymdeithasol yn bwysig.

Defnyddio tactegau marchnata lleol

Gall marchnata ar sail lleoliad fod yn bwerus i unrhyw fusnes sydd ag un neu fwy o leoliadau ffisegol, neu fusnesau lleol sy’n teithio i gwsmeriaid mewn ardal benodol, fel plymwyr a thrydanwyr.

Gallai denu tactegau marchnata lleol fod yn fwy effeithiol fyth yn ystod y cyfnod hwn, gan fod cyfyngiadau teithio a chyfyngiadau symud eraill wedi arwain at fwy o ymdeimlad o gymuned mewn llawer o achosion.

Yn ôl ymchwil gan Deloitte Digital, mae tri defnyddiwr o bob pump yn y DU wedi defnyddio mwy o siopau a gwasanaethau lleol er mwyn eu cefnogi yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd, dywedodd 57% o ddefnyddwyr y bydden nhw’n fwy tebygol o brynu gan fusnes sy’n cynnig cynnyrch a gynhyrchir yn lleol ar ôl llacio’r cyfyngiadau symud nag y bydden nhw wedi’i wneud cyn y cyfnod clo.

Felly, sut gallwch chi ddenu mwy o gwsmeriaid lleol i’ch busnes? Dyma rai syniadau:

  • Gwneud y gorau o’ch gwefan gydag allweddeiriau perthnasol sy’n benodol i leoliad eich tudalennau ar eich tudalen neu eich tagiau meta
  • Gosod tudalennau ar Google My Business a Bing Places
  • Cael mwy o adolygiadau Google a sgoriau cadarnhaol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wella eich safle lleol ar Google yma
  • Os oes gan eich busnes sawl lleoliad ffisegol, dylech greu tudalennau glanio lleol ar eu cyfer
  • Sicrhau cysondeb NAP (enw’r cwmni, cyfeiriad a rhif ffôn) ar draws pob safle a phroffil cyfryngau cymdeithasol. Mae’r erthygl hon yn esbonio mwy am bwysigrwydd NAP
  • Rhowch wedd leol i’ch hysbysebion ar-lein drwy addasu eich targedau a chynnwys hysbysebion. Defnyddiwch enwau lleoliadau yn eich allweddeiriau ac ysgrifennwch gopi sy’n taro tant gyda’ch cynulleidfa darged
  • Mae gan rai ardaloedd lleol dudalennau hwb cymunedol ar y cyfryngau cymdeithasol. Ystyriwch ddefnyddio’r mannau hyn i gyflwyno negeseuon wedi’u teilwra ac ymgysylltu â phobl yn eich ardal leol
  • Cynnwys tagiau lleoliad a hashnodau yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Dangoswch gefnogaeth i’ch cymuned, er enghraifft drwy roi rhodd i elusen leol, noddi tîm chwaraeon lleol neu brosiect ysgol, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian. Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gweld sawl enghraifft o fusnesau’n gweithredu’n hael, fel busnesau bwyd yn rhoi prydau am ddim i staff mewn ysbytai lleol. Mae hyn yn helpu i godi eich proffil a chreu delwedd brand gadarnhaol
  • Defnyddio cyfryngau lleol – papurau newydd, cylchgronau, teledu a radio. Does dim rhaid defnyddio hysbysebion. Gallech geisio cael sylw di-dâl drwy gyflwyno straeon sy’n werth eu hadrodd i newyddiadurwyr lleol

 

Mae’r rhain yn gyfnodau heriol, ond gallai cynnal neu hyd yn oed gynyddu eich ymdrechion marchnata fod o fudd mawr i’ch busnes. Bydd deall eich cwsmeriaid, cyfathrebu ag empathi, tyfu eich presenoldeb ar-lein, ac adeiladu eich brand yn lleol, yn eich helpu i achub y blaen ar eich cystadleuwyr a’ch rhoi mewn sefyllfa i lwyddo yn y tymor hir.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o negeseuon blog fel hyn i helpu busnesau i ddelio â’r amseroedd hyn, felly cadwch lygad ar ein hadran Newyddion neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol.