Mentergarwyr ifanc yn cael cefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Marchnata
MM Electronics

Mae’r mentergarwyr ifanc Ryan a Shannon Morgan ar genhadaeth i ehangu eu busnes MM Electronics yn Noc Penfro yn dilyn micro fenthyciad trac cyflym o £40,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Gan weithredu yn y sectorau diwydiannol a gweithgynhyrchu, mae MM Electronics yn cyflenwi rhannau darfodedig ac amser arweiniol hir gan yr holl gynhyrchwyr gan gynnwys Allen Bradley, ABB, Siemens, Schneider ac Omron. Cafodd y busnes ei sefydlu gan Ryan Morgan yn 2020 ac yntau yn ddim ond yn 21 oed.

Mae’r cwpl, sydd bellach yn 24 a 26 oed, yn ymuno â mwy na 60 o fentergarwyr ifanc o dan 30 oed o dros 50 o wahanol fusnesau gan gael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt gan Fanc Datblygu Cymru wrth i’r banc gynyddu ei gefnogaeth i bobl ifanc mewn busnes.

Yn seiliedig ym Mharc Diwydiannol Morwrol, mae MM Electronics wedi mwynhau twf o flwyddyn i flwyddyn o 30% gyda sylfaen cwsmeriaid byd-eang sydd bellach yn ymestyn o Orllewin Cymru i Awstralia. Bydd y benthyciad o £40,000 gan y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio fel cyfalaf gweithio i ateb y galw cynyddol.

Meddai’r Cyfarwyddwr Ryan Morgan: “Rydw i wastad wedi bod eisiau fy musnes fy hun ac rwy’n benderfynol o lwyddo. Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn dros y tair blynedd diwethaf i gael MM Electronics i lle y mae o heddiw. Mae’r buddsoddiad gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym yn awr y cyfalaf gweithio sydd ei angen arnom i barhau â’n taflwybr twf, adeiladu ein proffil a chymryd y camau nesaf i gynyddu graddfa’r busnes fel darparwr cyfleus o rannau diwydiannol a gweithgynhyrchu darfodedig.

“Dyw hi ddim yn hawdd cymryd y naid yn ifanc ond dydw i ddim yn difaru dim o gwbl a rydw i wrth fy modd yn dod i'r gwaith. Credaf fod yn rhaid i chi achub ar bob cyfle mewn bywyd a gobeithio y byddwn yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gael yr hyder i gymryd y cam i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae mentergarwyr ifanc angen yr holl help y gallant ei gael felly mae'n galonogol gwybod bod y Banc Datblygu yn credu yn ein gallu i wneud i hyn weithio ac mae'n galonogol cael eu cefnogaeth. Maen nhw wedi bod yn help mawr. ”

Mae Emily Wood yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu ac yn llysgennad ar gyfer mentergarwyr ifanc. Meddai: “Rydym yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu mewn busnes ac rydym yn teimlo yn angerddol o blaid eu helpu i wireddu eu huchelgeisiau. Rydym hefyd yn cydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi mentergarwyr ifanc a dyna pam rydym yn darparu cyllid busnes hyblyg i bobl ifanc 18-30 oed fel Ryan a Shannon. Fel llawer o berchnogion busnes ifanc, mae ganddyn nhw egni a doniau gwych felly rydyn ni'n edrych ymlaen at gefnogi eu twf wrth iddyn nhw barhau i adeiladu'r busnes.”

Daeth y micro fenthyciad ar gyfer MM Electronics o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Gall busnesau Cymru wneud cais am fenthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti o £25,000 i £10 miliwn gyda thelerau ad-dalu hyblyg o hyd at 15 mlynedd. Ariennir Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gan Lywodraeth Cymru.