Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Perchennog newydd Forden yn adeiladu sylfeini ar gyfer y dyfodol gyda chefnogaeth gan y Banc Datblygu Cymru

James-Ryan
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Forden Concrete

Mae benthyciad o £45,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi’i ddefnyddio i ariannu’n rhannol y gwaith o allbryniant rheolwyr Forden Concrete Products Limited o’r Trallwng.

Mae’r cyfarwyddwr Shane Clee wedi prynu’r busnes oddi wrth y sylfaenydd Geoffrey Jarman a sefydlodd y cwmni concritio cyn-castio am y tro cyntaf yn 1978. Ymunodd Shane â Forden yn 2001.

Gyda deunyddiau o ansawdd uchel a thechnegau traddodiadol, mae Forden yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion concrit rhag-gastiedig ar gyfer y diwydiannau llaeth ac amaethyddiaeth gan gynnwys cafnau dŵr, cafnau porthiant, systemau slyri, stondinau buwch symudol, pyst clwyd a baddonau traed gwartheg. Mae gan y cwmni 24 o asiantau ledled y DU ac mae nawr yn gobeithio arallgyfeirio'r ystod o gynnyrch gyda chyflwyniad llinellau newydd gan gynnwys paneli wal concrit at ddefnydd gardd domestig a masnachol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Shane Clee: “Ar ôl 24 mlynedd gyda Forden, mae hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â’r busnes fy hun a gweithio gyda’n tîm clos i barhau i wneud yr hyn yr ydym yn ei garu ac yn ei wybod orau. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Geoff i adeiladu'r enw da sydd gennym ac yn awr yn edrych ymlaen at dorchi llewys a bwrw iddi gyda'n cynlluniau ar gyfer twf yn y dyfodol ond ni fyddem yn gallu gwneud hyn heb gymorth y Banc Datblygu. O’r dechrau i’r diwedd, maen nhw wedi bod yn wych ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth, cyngor ac am eu sicrwydd trwy gydol y broses.”

Mae James Ryan yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Rydym yma i helpu busnesau i sefydlu, tyfu a ffynnu. Rhan greiddiol o’n cylch gwaith yw cefnogi timau rheoli sydd am redeg eu busnes eu hunain felly rydym yn falch o fod wedi gallu helpu Shane i ddod yn berchennog newydd Forden, yn enwedig gan ei fod yn fusnes sefydledig sy’n cyflogi pobl leol. Dymunwn bob llwyddiant i’r tîm.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Forden Concrete Products Limited o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru o £25,000 i £10 miliwn.