Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Perchnogion newydd ar gyfer gwesty Neuadd Llandyfái yn dilyn cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
lamphey hall

Mae gwesty poblogaidd mewn llecyn prydferth yn Sir Benfro wedi sicrhau dyfodol newydd disglair wedi iddo gael ei brynu gan y perchennog newydd Robert Jones a rheolwr y gwesty Matthew Pugsley.

Cafodd Gwesty 10 ystafell Neuadd Llandyfai ym mhentref Llandyfai ei roi ar werth yn ddiweddar. Yn ogystal â benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru, fe wnaeth Rob a Matthew fuddsoddi eu harian eu hunain yn ogystal â sicrhau morgais personol gan NatWest. Fe wnaeth y micro fenthyciad bontio’r bwlch rhwng eu cyllid a’r pris gofynnol, a chaniatau iddyn nhw brynu’r gwesty fel busnes gweithredol. Mae’r fargen wedi eu galluogi i ddiogelu 12 o swyddi staff presennol.  

Mae’r cyn reithordy ddim ond dwy filltir o draeth Freshwater East ac mae’n boblogaidd ymysg gwesteion busnes a thwristiaid. Mae Neuadd Llandyfai yn ymfalchio yn ei far a’i dŷ bwyta bistro gyda’r nos.

Meddai’r perchennog newydd Rob Jones: “Pan ddaeth y cyfle i bryn Neuadd Llandyfai i’r amlwg, neidiodd Matthew a finnau ar y cyfle. Mae gallu bod yn berchnogion a rhedeg ein busnes ein hunain mewn rhan mor brydferth o’r byd wirioneddol yn gwireddu ein breuddwyd. Dim ond angen ychdyig o arian cyfalaf ychwanegol oedd ei angen arnom i wireddu’r freuddwyd honno, a dyna lle ddaeth Emily a’r Banc Datblygu i mewn.”

Emily Wood oedd y swyddog buddsoddi a drefnodd y benthyciad gan y Banc Datblygu ar gyfer Rob a Matthew.  “Cipiodd y cyfle fy anadl pan ddangosodd Rob a Matthew fi o gwmpas y gwesty a siarad em eu hangerdd am letygarwch a’u huchelgeisiau ar gyfer y busnes. Roedden’ nhw eisoes wedi sicrhau y rhan fwyaf o’r arian yr oedden’ nhw ei angen i wneud y pryniant ac roeddem ninnau wrth ein bodd ein bod yn gallu eu helpu i alluogi iddyn nhw gyrraedd lle’r oedden’ nhw angen bod.”

Daeth y benthyciad o Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru, sy’n cynnig benthyciadau gyda thelerau o hyd at 10 mlynedd o £1,000 i £50,000. 

Mae Neuadd Llandyfai wedi ail agor o dan y berchnogaeth newydd ac maen nhw’n paratoi ar gyfer y cyfnod gwyliau prysur.

“Rydyn’ ni’n edrych ymlaen at groesawu ein holl westeion ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ystod ein tymor dathlu cyntaf yn dal yr awenau,” ychwanegodd Rob. “Rydyn’ ni’n teimlo yn gyffrous ac mae ein staff profiadol yn barod i wneud yn siŵr fod pawn yn cael hwyl ac yn cael arhosiad cofiadwy yn Neuadd Llandyfai.”