Portman Travel Group yn prynu Inspiresport

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Inspiresport.

Heddiw mae Inspiresport Group Limited wedi cyhoeddi ei fod wedi cael ei brynu gan Portman Travel Group.

Inspiresport yw'r trefnydd teithiau datblygu chwaraeon mwyaf blaenllaw yn y diwydiant, sy'n cynnig mynediad heb ei ail i glybiau, hyfforddwyr a chyfleusterau o'r radd flaenaf i fynd â chwaraewyr ifanc o bob gallu ar deithiau rhyfeddol yn y byd chwaraeon.

Bydd y trefniant yn sefydlu ymhellach gynlluniau ehangu Portman Travel Group i'r farchnad teithiau chwaraeon yn dilyn lansio dau fusnes yn llwyddiannus yn 2019, sef Clarity Sports sy'n darparu gwasanaethau teithio gorau o'u bath i dimau a busnes ar gyfer clybiau proffesiynol ar draws amrywiaeth o chwaraeon, a sportsbreak.com, gweithredwr profiad teithio chwaraeon wedi'i anelu at gefnogwyr a defnyddwyr.

Meddai Steve Butchart, Prif Swyddog Gweithredol inspiresport:

“Mae'r tîm a minnau'n teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â cham nesaf y cynlluniau i ehangu inspiresport o dan ein perchnogaeth newydd, a fydd yn gwella ymhellach ein safle fel arweinwyr y farchnad yn y sector teithiau chwaraeon i ysgolion a chlybiau, ond hefyd yn cyflymu ein cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol drwy gyflwyno partneriaid newydd a chwaraeon newydd i ychwanegu at ein portffolio trawiadol cyfredol.

“Rydym wedi tyfu’n sylweddol dros y degawd diwethaf ac, er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i’r diwydiant teithio, mae gallu cwblhau’r trefniant hwn yn dyst i gryfder sylfaenol ein busnes a gwaith caled y tîm cyfan.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda thimau Clarity Sports a Sportsbreaks.com i ategu eu gweithgareddau o fewn y busnes, ac i barhau i ddarparu'r teithiau datblygu chwaraeon gorau o'u bath y mae inspiresport yn adnabyddus amdanynt.”

Meddai Pat McDonagh, Prif Weithredwr Clarity Travel:

“Mae inspiresport yn fusnes yr ydym wedi bod yn ei edmygu ers amser maith ac mae'r trefniant caffael hwn yn ein helpu i adeiladu portffolio cryf iawn o gynnyrch yn y farchnad arbenigol hon.

“Rydym wrth ein bodd bod Steve a’r tîm yn inspiresport yn ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud dros y blynyddoedd gyda phartneriaid, cwsmeriaid a chydweithwyr, ac ehangu'r busnes yn y dyfodol."