Mae 585 o fusnesau ledled Cymru wedi derbyn cyllid gwerth cyfanswm o £36 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru ers lansio Cynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru ddydd Llun y 30ain o Fawrth.
Mae 585 o fusnesau ledled Cymru wedi derbyn cyllid gwerth cyfanswm o £36 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru ers lansio Cynllun Benthyciad Busnes Cofid-19 Cymru ddydd Llun y 30ain o Fawrth.
Mae'r £36 miliwn a gymeradwywyd hyd yma yn cynnwys 533 o fenthyciadau o lai na £100,000 a 222 ohonynt yn llai na £25,000. Gyda mwy na 80% o’r ceisiadau a broseswyd wedi cael eu cymeradwyo, mae 567 o fenthyciadau wedi mynd i fusnesau bach a meicro ledled Cymru gan ddiogelu tua 4571 o swyddi. Maint y bargeinion ar gyfartaledd yw £61,000 ac mae'r amser cytuno ar benderfyniad cyllid ar gyfartaledd yn oddeutu deng niwrnod. Mae dros 90% o ymgeiswyr yn newydd i Fanc Datblygu Cymru.
Derbyniwyd mwy na 1,600 o geisiadau yn ystod yr wythnos gyntaf ar gyfer y cynllun £100 miliwn a chytunwyd ar y benthyciadau cyntaf ddydd Iau yr 2il o Ebrill dri diwrnod yn ddiweddarach. Cyrhaeddodd yr arian cyntaf yr ymgeiswyr ddydd Gwener y 3ydd o Ebrill.
Yr Hand yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog ger Llangollen oedd un o'r busnesau cyntaf i sicrhau cyllid. Gwnaeth y perchennog Jonathan Greatorex gais o fewn awr i gyhoeddiad y Prif Weinidog am y gronfa newydd ar 30 Mawrth. Derbyniwyd cynnig o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru ar yr 2il o Ebrill a throsglwyddwyd yr arian ar y 4ydd o Ebrill. Meddai: “Mae’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru wedi bod yn wych ac rydym mor ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Mae'r cynllun wirioneddol wedi bod yn achubiaeth i ni. Gyda 25 aelod o staff, mae’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu bod eu swyddi a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn llawer mwy diogel.”
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwyf am dalu teyrnged i staff Banc Datblygu Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r pecyn cefnogaeth mwyaf cynhwysfawr ar gyfer busnes yn y DU yn fy marn i.
“Mewn cyfnod mor fyr maent yn prosesu tair gwaith nifer y ceisiadau am gymorth a dderbynnir mewn blwyddyn fel arfer. Trwy wneud hynny maent wedi darparu arian hanfodol i gwmnïau sy'n ffurfio anadl einioes economi Cymru gyda'r cyflymder a'r effeithlonrwydd mwyaf, gan helpu i ddiogelu miloedd o swyddi.
“Rwy’n credu bod llawer y gallai Llywodraeth y DU a banciau’r stryd fawr ddysgu o sut mae Banc Datblygu Cymru wedi addasu ei bolisïau a’i brosesau i gael cyllid a chefnogaeth i fusnesau.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley: “Mae'r rhain yn amseroedd eithriadol o anodd i fusnesau o bob maint a sector ledled Cymru. Dyna pam rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gael arian allan yn gyflym i fusnesau, gan helpu i amddiffyn bywoliaethau a diogelu swyddi.
“Mae pob unigolyn sydd ar gael yn ein tîm yn canolbwyntio ar brosesu ceisiadau cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gallwn gael cefnogaeth i'r busnesau hynny sy'n wynebu heriau llif arian anodd na welwyd eu tebyg o'r blaen o ganlyniad i Cofid-19. Mae pob diwrnod yn cyfrif pan rydych chi'n ysu am gyfalaf gweithio i gadw busnes i fynd a gwarchod swyddi. Rwy’n falch o ddweud bod pob busnes a wnaeth gais bellach yn y broses a’n gobaith yw y byddwn yn gallu cael arian allan i bob ymgeisydd llwyddiannus erbyn diwedd y mis.”
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol gydag FfBB Cymru: “Ar ddechrau’r argyfwng hwn, clywsom am y problemau gwirioneddol ac uniongyrchol a wynebir gan fusnesau sy’n brwydro i sicrhau bod eu busnesau a swyddi eu gweithlu yn goroesi. Felly, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld pa mor gyflym y mae'r Banc Datblygu wedi symud i gefnogi rhai o'r busnesau hyn. Rydym yn gwybod bod y cyllid hwn yn cynrychioli achubiaeth i'r busnesau hyn.
Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y gronfa hon wedi’i gordanysgrifio yn ystod yr wythnos gyntaf yn dangos maint yr her a’r galw ac mae’n anochel y bydd angen cefnogaeth bellach wrth inni lywio drwy’r argyfwng digynsail hwn.