£500,000 i dyfu busnes garddwriaeth Aberystwyth

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
phytoponics

Mae Phytoponics, sydd â'i bencadlys yn Aberystwyth wedi codi cyllid ecwiti o £500,000 i gynnal treialon masnachol ar raddfa fawr o'i ddatrysiadau tyfu Dwrfeithrin Dwfn arloesol heb swbstrad.

Fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Adam Dixon a Luke Parkin pan oeddynt yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, - mae Phytoponics yn arbenigo mewn datblygu technoleg dwrfeithrin dwfn hydroponeg. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy trwy gynyddu cynnyrch, defnyddio llai o ddŵr, dim plaladdwyr a gostwng ôl troed carbon o'i gymharu â dulliau traddodiadol.

Daw’r buddsoddiad o £500,000 gan nifer o gyfranddalwyr presennol, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru fel buddsoddwr sefydliadol cyntaf Phytoponics.

Yn flaenorol, mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Twf Carlam a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, Prifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd a'r Sefydliad Bioleg, Amgylcheddol a Gwyddorau Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r ddau olaf yn sefydliadau ymchwil blaenllaw ym meysydd ffermio dan do a garddwriaeth.

Dechreuodd ymchwil a phrofi cychwynnol yn Aberystwyth yn 2017 gyda threialon masnachol cyfredol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Dechnoleg Stockbridge, y canolbwynt arloesi ymchwil garddwriaethol ac amaethyddiaeth enwog. Disgwylir y bydd datrysiadau tyfu Dwrfeithrin dwfn heb swbstrad yn cynhyrchu gwell cnwd nag sy'n bosibl trwy gyfrwng dulliau confensiynol sy'n seiliedig ar dai gwydr.

Dywedodd Cyd-sylfaenydd Phytoponics Adam Dixon a Phencampwr Ifanc y Ddaear y Cenhedloedd Unedig yn 2017: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau'r cyllid hwn sy'n rhoi'r arian gweithredol angenrheidiol i ni i gynyddu treialon ein technoleg a’n galluogi i arloesi ymhellach wrth i ni symud yn agosach at wireddu potensial masnachol yr hyn rydyn ni wedi'i ddatblygu. Rwy'n teimlo'n gyffrous am y dyfodol wrth i ni symud gam yn nes at gyflawni ein cenhadaeth o gyflawni buddion cynaliadwy amaethyddiaeth hydroponig ar raddfa trwy ddefnyddio ein datrysiadau tyfu Dwrfeithrin Dwfn di swbstrad yn fyd-eang. Dyfeisiau arloesol fel hyn fydd yr unig ffordd i ateb y galw amaethyddol yn y dyfodol."

Dywedodd y Prif Weithredwr, Andy Jones: “Ymunais â Phytoponics yr haf diwethaf ac rwy’n hynod o falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud dros y naw mis diwethaf. Mae'r canlyniadau a gyflawnwyd yn ein gwydr-dai Stockbridge wedi arwain at ddiddordeb masnachol sylweddol o du rhai chwaraewyr mawr yn y diwydiant ac mae hyn wedi ennyn hyder mawr mewn buddsoddwyr sy'n dymuno ariannu cam nesaf y busnes.”

Ychwanegodd David Blake, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel y buddsoddwr sefydliadol cyntaf yn Phytoponics, rydym yn falch iawn o gefnogi'r cynnydd hwn yng ngraddfa a masnacheiddio'r dechnoleg. Mae'r cyrhaeddiad posibl ar gyfer y datrysiad newydd cyffrous hwn yn fyd-eang gyda chyfleoedd ledled y DU a rhyngwladol eisoes yn amlwg a dymunwn bob llwyddiant i'r tîm."

Ychwanegodd Mark Hindmarsh, Cadeirydd Phytoponics: “Rwyf wedi cefnogi llawer o fusnesau newydd dros y blynyddoedd a dim ond ychydig iawn rydw i wedi eu gweld sydd wedi cyrraedd y pwynt mae Phytoponics wedi'i gyrraedd gyda chyn lleied o adnoddau, o'i gymharu â rhai o’u cyfoedion yn y sector. Nid yn unig rydym wedi gwella ac ehangu ein cynnig technoleg ers y treialon arbrofol cynnar gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, ond rydym wedi profi'n llwyddiannus ei fod yn gweithio ar draws nifer o fathau o gnydau. Mae cwblhau unrhyw lefel o gyllid yn yr amseroedd ansicr hyn yn ystod pandemig COFID-19 yn gamp fawr ac felly hoffwn ddiolch yn bersonol i'n buddsoddwyr newydd a'n cyfranddalwyr presennol am eu cefnogaeth a'u cred barhaus ym mhotensial y busnes ar gyfer y dyfodol."

Rheolwyd proses fuddsoddi Phytoponics yn fewnol ac fe'i cefnogwyd gan gynrychiolydd cyfreithiol y cwmni, Acuity Law a Blake Morgan ar ran Banc Datblygu Cymru.