RLDatix yn caffael cwmni meddalwedd o Drefynwy

Michael-Bakewall
Dirprwy Pennaeth Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Marchnata
Gwerthu busnes
Busnesau newydd technoleg
Carebeans

Mae Banc Datblygu Cymru wedi gadael Carebeans, cwmni meddalwedd gweithrediadau gofal iechyd arloesol.

Carebeans o Drefynwy wedi'i gaffael gan RLDatix, arbenigwr mewn meddalwedd a gwasanaethau gweithrediadau gofal iechyd cysylltiedig. Gan ddarparu buddion a swyddogaethau unigryw i wahanol ddefnyddwyr, mae Carebeans yn cynnig system cwmwl ar gyfer cartrefi gofal preswyl a nyrsio a'r sbectrwm llawn o ran byw gyda chymorth gan gynnwys gofal cartref, anabledd, a gwasanaethau iechyd meddwl.

Sefydlwyd Carebeans gyntaf gan y Prif Weithredwr Nick Lawford yn 2019. Dywedodd: “Roedd y ffit o ran gwerth rhwng Carebeans ac RLDatix yn glir yn syth bin – nid yn unig yr ymrwymiad i ddarparu atebion iechyd a gofal integredig, ond y ffocws a rennir ar rymuso darparwyr i ddarparu gofal ansawdd-uwch a mwy diogel i gleifion a'r rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol. Mae ein hadnoddau cyfun, ein harbenigedd strategol a’n cynnyrch arloesol yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous am lwybr ein diwydiant yn y dyfodol.”

Dywedodd Jeff Surges, Prif Weithredwr RLDatix: “Wrth i ni ymdrechu i gael gweithrediadau gofal iechyd sydd wedi’u cysylltu’n well yn lleoliadau iechyd a gofal ehangach y GIG, mae cydgysylltu gofal yn holl bwysig. Mae meddalwedd Carebeans yn galluogi RLDatix i ddarparu galluoedd ychwanegol i'r farchnad trwy integreiddio â'n datrysiadau cydymffurfio QCS arobryn.”

Michael Bakewell yw Dirprwy Reolwr Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Dywedodd: “Fel buddsoddwyr ecwiti cam cynnar, roedd bob amser yn amlwg i’n tîm buddsoddi pa mor arloesol yw llwyfan meddalwedd Carebeans yn y diwydiant gofal cynyddol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu darparu’r cyllid angenrheidiol i ddarparu’r newid sylweddol yr oedd ei angen ar Carebeans i ehangu yng Nghymru. Wedi’r ymadawiad erbyn hyn, dymunwn bob llwyddiant i Nick a’r tîm gyda cham nesaf eu taith.”