Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Twf sylweddol yn y defnydd o gyllid allanol ymhlith busnesau llai yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
SME Report

Tyfodd y defnydd o gyllid allanol ymhlith busnesau llai yng Nghymru yn sylweddol ar ddiwedd 2024 i 57% o 49% ar ddiwedd 2023, yn ôl Adroddiad Mynediad at Gyllid BBaCh Cymru 2025.

Nod yr adroddiad gan Fanc Busnes Prydain a Dirnad Economi Cymru, yw olrhain y cyflenwad a’r galw am gyllid ar draws busnesau llai yng Nghymru o fewn cyd-destun economaidd ehangach Cymru, a chyd-destunau economaidd isranbarthol. Mae’n seiliedig ar arolwg pwrpasol o 500 o fusnesau llai yng Nghymru, a gynhaliwyd am yr eildro ym mis Hydref 2024.

Nodwyd cardiau credyd fel y math o gyllid a ddefnyddir amlaf ymhlith busnesau llai yng Nghymru, gyda chyfradd defnydd o 25%. Dilynwyd hyn gan fenthyciadau Covid (23%) a gorddrafftiau busnes (16%).

Datgelodd yr adroddiad hefyd fod 21% o fusnesau llai yng Nghymru yn rhagweld y bydd angen cyllid ychwanegol arnynt dros y flwyddyn nesaf, i fyny o 16% yn y flwyddyn flaenorol.

O’r busnesau llai hyn a oedd yn edrych i sicrhau cyllid, dywedodd 56% eu bod yn ystyried benthyciadau busnes a 37% o grantiau, gyda bron i hanner (46%) angen cyllid ar gyfer cyfalaf gweithio tra bod 39% ei angen ar gyfer gwariant cyfalaf. Er bod hyn o bosibl yn creu darlun mwy cadarnhaol ar gyfer twf ymhlith busnesau llai Cymru, mae hefyd yn datgelu bod angen cyllid ar gyfran fwy ohonynt i oroesi.

Tueddiadau rhanbarthol

Er bod 57% o fusnesau llai yng Nghymru yn defnyddio cyllid allanol erbyn diwedd 2024, ffigur tebyg i wledydd datganoledig eraill y DU, mae tueddiadau rhanbarthol gwahanol yn datgelu amrywiadau mewn hyder ariannol, gofynion a rhwystrau.

Roedd cyfraddau defnydd cyllid allanol yn gyson ar y cyfan ledled Cymru, ond gwelodd De-ddwyrain Cymru nifer sylweddol is o bobl yn manteisio ar grantiau (3%) na rhanbarthau eraill. Gallai hyn adlewyrchu ffocws y rhanbarth ar fusnesau sy’n cael eu harwain gan arloesi yng Nghaerdydd a Chasnewydd, lle mae llawer o gwmnïau’n ceisio cyllid ecwiti i gefnogi ymchwil a datblygu, yn ogystal â mynediad haws at ystod ehangach o fathau o gyllid a darparwyr o gymharu â busnesau mewn lleoliadau mwy anghysbell neu wledig.

Roedd maint y gofynion ariannu hefyd yn amrywio rhwng rhanbarthau. Roedd gan Dde-orllewin Cymru, sy’n gartref i ganolbwynt arloesi cynyddol Abertawe, gyda chysylltiadau busnes ac academaidd cryf â Phrifysgol Abertawe, gyfran uwch o fusnesau’n ceisio cyllid mwy sylweddol, gydag 16% o fusnesau yr oedd angen cyllid arnynt dros y flwyddyn nesaf yn bwriadu ceisio mwy na £250k, gan gynnwys ar gyfer ymchwil a datblygu. Ar y llaw arall, busnesau llai yng Ngogledd Cymru oedd y lleiaf tebygol o fod angen mwy na £250k mewn cyllid (4%), a allai adlewyrchu mynychder mentrau llai mewn twristiaeth a manwerthu.

Yn y cyfamser, roedd gan Ganolbarth Cymru, gyda'i heconomi wledig ac amaethyddiaeth, lai o fusnesau yn rhagweld yr angen am gyllid ychwanegol (14%), gan awgrymu amgylchedd busnes mwy sefydlog gyda llai o alw uniongyrchol am gyfalaf ehangu.

Er gwaethaf safbwyntiau tebyg ar rwystrau i gael mynediad at gyllid ledled Cymru, roedd busnesau llai yn Ne Orllewin Cymru ychydig yn fwy tebygol o adrodd am anawsterau (26%), o gymharu â Gogledd Cymru (20%), De-ddwyrain Cymru (20%) a Chanolbarth Cymru (15%). Gellid priodoli hyn i drawsnewidiad economaidd parhaus y rhanbarth o sectorau traddodiadol fel amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu i ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg fel gwyddorau bywyd a thechnoleg forol.

Yng Ngogledd Cymru, mae’r adroddiad yn canfod bod 18% o fusnesau llai sydd â dyled yn teimlo bod eu baich dyled yn anhydrin, o bosibl oherwydd natur dymhorol ei heconomi sy’n cael ei gyrru gan dwristiaeth. Er bod mentrau buddsoddi fel Bargen Twf Gogledd Cymru a statws porthladd rhydd Ynys Môn yn anelu at ysgogi twf economaidd, mae'n bosibl bod busnesau yn y rhanbarth yn dal i wynebu ansicrwydd ariannol.

Hyder i sicrhau cyllid

Mynegodd busnesau yn rhanbarth y De Orllewin hefyd yr hyder mwyaf (75%) i sicrhau'r cyllid yr oedd ei angen arnynt dros y flwyddyn nesaf, er eu bod yn fwy tueddol o adrodd am anawsterau wrth gael gafael ar gyllid na'u cymheiriaid mewn mannau eraill. Gallai’r optimistiaeth hon fod yn gysylltiedig â phrosiectau seilwaith mawr fel y Celtic Freeport a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y disgwylir iddynt ddatgloi cyfleoedd buddsoddi newydd.

Yn Ne-ddwyrain Cymru roedd y gyfran uchaf o fusnesau (29%) yn disgwyl twf. Roedd disgwyliadau perfformiad busnes yn dilyn patrymau tebyg ledled Cymru, ond gyda rhai gwahaniaethau nodedig, lle mae busnesau llai yn elwa ar seilwaith datblygedig a rhwydweithiau cymorth cryf.

I'r gwrthwyneb, roedd gan Ogledd Cymru gyfran uwch o fusnesau llai yn rhagweld crebachiad (18%) neu anawsterau masnachu (8%), a allai fod yn gysylltiedig ag ansicrwydd economaidd mewn twristiaeth a manwerthu.

Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi dadansoddiad amserol a manwl o’r sefyllfa ariannol gyfredol ar gyfer busnesau bach yng Nghymru.”

“Mae’n galonogol gweld bod mwy o fusnesau Cymreig yn cael mynediad at gyllid allanol, a bod llawer yn bwriadu tyfu dros y flwyddyn i ddod. Gwelwn â’n llygaid ein hunain y gwahaniaeth y gall y cyllid cywir ar yr amser iawn ei wneud a thros y pum mlynedd diwethaf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi 3,402 o fusnesau ledled Cymru, gan fuddsoddi’n uniongyrchol dros £705 miliwn a sicrhau £335 miliwn yn ychwanegol mewn buddsoddiad preifat— gan gyfrannu dros £1 biliwn i economi Cymru. Mae ein timau yn seiliedig mewn cymunedau ar draws Cymru ac yn barod i gefnogi mwy o fusnesau gyda benthyciadau a buddsoddiad ecwiti.

“Rydym wedi croesawu’r cyfle hwn i Dirnad Economi Cymru gydweithio â Banc Busnes Prydain i wella’r sylfaen dystiolaeth ac, felly, y ddealltwriaeth o faterion mynediad at gyllid yng Nghymru gyfan, yn ogystal ag ym mhob un o ranbarthau Cymru.”

Dywedodd Susan Nightingale, Cyfarwyddwr Rhwydwaith y DU ar gyfer y Gwledydd Datganoledig ym Manc Busnes Prydain: “Mae Cymru’n gartref i gyfoeth o fusnesau bach amrywiol a deinamig, gyda chwmnïau’n gweithredu ar draws ystod eang o sectorau, o dechnolegau ariannol a gwyddorau bywyd blaengar, i weithgynhyrchu, twristiaeth ac amaethyddiaeth.

“Mae’r Adroddiad hwn ar Fynediad at Gyllid i BBaChau Cymru yn amlygu anghenion ac uchelgeisiau ariannol unigryw busnesau llai ar draws gwahanol ranbarthau Cymru, pob un wedi’i siapio gan ei chryfderau a’i heriau economaidd ei hun.

“Mae'n galonogol gweld mwy o fusnesau bach Cymreig yn defnyddio cyllid allanol, gan ddangos awydd cryf am fuddsoddiad a thwf. Wedi dweud hynny, mae lefelau uchel o ddefnydd o gardiau credyd yn awgrymu bod dewisiadau cyllid yn cael eu hysgogi gan yr hyn sydd fwyaf priodol ar gyfer anghenion a hirhoedledd y busnes. Mae gennym ni i gyd waith i’w wneud, i barhau i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o opsiynau cyllid sydd ar gael a sicrhau bod gan fusnesau, waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yr un wybodaeth a mynediad at gyfalaf.”