Y Banc Datblygu yn cefnogi cyn-gystadleuydd MasterChef

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Gower Deli

Mae’r cogydd Groegaidd Christos Georgakis, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi agor siop delicatessen, caffi a becws newydd yn Southgate ar Benrhyn Gŵyr gyda chymorth benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru. 

Cyrhaeddodd Christos rownd gynderfynol cystadleuaeth Masterchef y BBC a chystadleuaeth Cogydd y Flwyddyn Cymru ar ôl dechrau gweithio fel cogydd preifat yn 2017 a chyn hynny fel Prif Gogydd mewn amrywiaeth o fwytai a gwestai lleol. Mae’n cynnig gwasanaeth arlwyo i bobl yn eu cartrefi eu hunain, clybiau swper a bwyd stryd Groegaidd traddodiadol, ac erbyn hyn mae hefyd wedi llwyddo i wireddu ei freuddwyd oes drwy agor siop delicatessen, caffi a becws. 

Mae’r gwaith o baratoi ‘The Gower Deli’, yn ogystal â phrynu cyfarpar cegin masnachol, wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Banc Datblygu. Mae’r amrywiaeth o gynhyrchion lleol gan gynnwys cig wedi’i halltu o ansawdd uchel, caws artisan, bara arbenigol, olewydd a detholiad o winoedd, cwrw arbenigol a choffi artisan eisoes yn boblogaidd iawn ymysg y trigolion lleol ac ymwelwyr ac mae’r nosweithiau bwyd stryd Groegaidd wythnosol bob nos Iau a’r brecwast Cymreig gwahanol yn boblogaidd iawn hefyd. Mae nosweithiau blasu gwin ar gael nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul ble ceir cyfle i flasu gwin, cwrw, caws a chig wedi’i halltu. 

Meddai Christos: “Rwy’n gwirioni ar fwyd ac rwy’n gwirioni ar y gornel fach hardd hon o Gymru, felly mae cael cyfle i agor delicatessen, caffi a becws yn Southgate yn gwireddu fy mreuddwyd. Fodd bynnag, gall sefydlu busnes lletygarwch o’r cychwyn cyntaf fod yn ddrud felly roedd angen cyllid arnom er mwyn gwneud hynny. Mae’r cymorth a gawsom gan y Banc Datblygu wedi gwneud byd o wahaniaeth ac ni fyddwn wedi gallu llwyddo heb hynny.” 

Mae Emily Hunter yn Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Christos yn gogydd enwog sy’n llawn angerdd a chymhelliant. Mae’n feistr ar ei grefft, yn ffynnu o dan bwysau ac yn paratoi bwyd anhygoel yn ogystal â meddu ar sgiliau entrepreneuraidd cadarn.  Rydym yn falch iawn o’i gefnogi wrth iddo ddatblygu ei fusnes yn Southgate.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Gower Deli o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa’n ariannu buddsoddiadau rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer busnesau Cymru am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.