Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Clinig cymorth busnes rhithiol

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn sicrhau'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i dyfu eich busnes presennol.

Yn y sesiwn hon, gallwch ddarganfod mwy am gymorth lleol sydd ar gael i'ch busnes gan y sefydliadau uchod. Gan weithio gyda'n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P'un a ydych chi'n fusnes cychwynnol neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

E-bostiwch Claire.vokes@bancdatblygu.cymru i archebu slot 20 mun.

Fel arall gallwch ei ffonio hi ar 02920 801728.

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi