Rheolwr Cyfleusterau/Swyddfa

Rydyn ni’n cyflogi rhywun ar gyfer swydd Rheolwr Cyfleusterau/Swyddfa yn Wrecsam

Pwrpas y swydd

Rydyn ni’n fanc datblygu sy’n rhoi potensial Cymru wrth galon ein penderfyniadau. Rydyn ni’n ariannu busnesau sydd am wneud cyfraniad ariannol, cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol at ein cymunedau a’r byd ehangach. Rydyn ni’n mynd ati bob dydd i sbarduno posibiliadau a gwireddu dyheadau. 

Rydyn ni hefyd yn gweithredu yng ngogledd Lloegr fel FW Capital, gan arbenigo mewn cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Rydyn ni’n gweithio o 11 swyddfa gyda’r tîm cyfleusterau wedi’i leoli’n bennaf yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, sef ein swyddfa fwyaf.

Bydd y Rheolwr Cyfleusterau/Swyddfa yn gweithio o’n prif swyddfa yn Wrecsam, gan gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau rheoli swyddfa a chyfleusterau yn swyddfa Wrecsam ac mewn lleoliadau swyddfeydd ledled Cymru a gogledd Lloegr. 

Mae’r dyletswyddau’n cynnwys gwaith gweinyddol swyddfa, gwasanaethau blaen tŷ, gweithio gyda landlordiaid a darparwyr gwasanaethau cyfleusterau, rheoli contractau a chaffael, iechyd a diogelwch, rheoli risg, ac agweddau cyffredinol ar reoli cyfleusterau.

Mae hon yn swydd ar y safle sy’n gofyn am bresenoldeb yn swyddfa Wrecsam a theithio o bryd i’w gilydd i leoliadau swyddfeydd eraill ledled Cymru a gogledd Lloegr.  Mae gweithio o gartref o bryd i’w gilydd yn bosibl, ond rhaid i hyn gyd-fynd ag anghenion y busnes.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

Gwasanaethau

  • Sicrhau bod y swyddfeydd yn rhedeg yn effeithlon o ddydd i ddydd.
  • Darparu gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid yn uniongyrchol yn swyddfa Wrecsam, gan gynnwys cefnogi cyfarfodydd bwrdd ac arlwyo/lluniaeth.
  • Rheoli offer ac adnoddau swyddfa, gan sicrhau eu bod ar gael gymaint ag y bo modd a’u bod yn gweithio’n iawn.
  • Rheoli deunyddiau traul a rheoli stoc.
  • Datblygu a chynnal perthynas waith gadarnhaol gyda phob adran, gan nodi a diwallu anghenion cwsmeriaid 

 

Iechyd a diogelwch/Tân

  • Rheoli gofynion iechyd a diogelwch a thân gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni a’u cofnodi yn unol â deddfwriaeth.
  • Cynnal asesiadau Cyfarpar Sgrin Arddangos.
  • Cynnal sesiynau cynefino ar iechyd a diogelwch i staff newydd.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu asesiadau risg iechyd a diogelwch o fewn y fframwaith rheoli risg.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal hyfforddiant iechyd a diogelwch.
  • Cefnogi’r gwaith o weinyddu asesiadau risg contractwyr, datganiadau dull a thrwyddedau i weithio.
  • Cefnogi’r gwaith o recriwtio a rheoli wardeniaid tân a staff personél cymorth cyntaf.

 

Adeiladau/Safleoedd

  • Rheoli’r berthynas o ddydd i ddydd gyda’r landlord a’i asiantau ar bob agwedd ar reoli cyfleusterau a’r amgylchedd gwaith.
  • Rheoli gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i gynllunio a gwaith cynnal a chadw adweithiol, gan sicrhau bod tasgau’n cael eu cyflawni’n foddhaol.
  • Rheoli gwasanaethau diogelwch, glanhau, adeilad, gwastraff a glanweithdra.
  • Rheoli’r gwaith o gynllunio a symud ac adnewyddu swyddfeydd.
  • Cefnogi’r gwaith o reoli prydlesi swyddfa, trwyddedau ac ardrethi busnes.

 

Contractau/Cyflenwyr/Prynu

  • Rheoli’r gwaith o gaffael a chyflawni contractau cyflenwyr i gynnwys perfformiad yn erbyn cytundebau lefel gwasanaeth a rheoli cyllidebau.
  • Rheoli prynu eitemau o ddydd i ddydd.
  • Cefnogi’r gwaith o reoli contract teithio’r grŵp.

 

Cynaliadwyedd

  • Cefnogi gweithgareddau cynaliadwyedd y grwpiau, gan gynnwys adrodd ar weithgareddau yn ymwneud â chyfleusterau.

 

Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Cyfleusterau Grŵp i fodloni anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Sgiliau hanfodol

  • Profiad amlwg o reoli swyddfa
  • Profiad amlwg o reoli risgiau iechyd a diogelwch ar safle
  • Profiad amlwg o reoli gwasanaethau cyfleusterau
  • Gallu darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid mewn amgylchedd cefnogol
  • Gallu defnyddio TG a gwybodaeth ymarferol lawn o MS Office
  • Gwybodaeth ymarferol am offer TG/clyweledol sylfaenol
  • Sgiliau cyfathrebu gwych wyneb yn wyneb ac mewn galwadau ffôn/fideo
  • Profiad amlwg o hunanreoli
  • Profiad amlwg o gydweithio ag aelodau tîm ar draws swyddfeydd
  • Siaradwr Cymraeg
  • Diddordeb brwd mewn iechyd a diogelwch, lles a diwylliant swyddfa
  • Yn awyddus i ddatblygu ym maes rheoli cyfleusterau

 

Sgiliau dymunol

  • Wedi’i hyfforddi mewn diogelwch tân a chymorth cyntaf
  • IOSH - Rheoli’n Ddiogel

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio