Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Gwobrau Dechrau Busnes Cymru 2023

Mae’r Gwobrau Dechrau Busnes yn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr Gwobrau Entrepreneur Prydain Fawr - rhaglen genedlaethol sefydledig sy'n derbyn dros 5,000 o geisiadau'r flwyddyn - a Gwobrau Dechrau Busnes Cymru, yr unig wobrau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd.

Mae’r Gwobrau Dechrau Busnes yn cydnabod cyflawniadau'r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi gweld y cyfle ac wedi mentro lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Eisoes wedi ennill eu plwyf ac yn ffynnu yng Nghymru, mae Gwobrau Dechrau Busnes bellach yn cymryd yr angerdd a'r awch i ddathlu busnesau newydd ac yn ymestyn ledled y Deyrnas Unedig gyfan.

Rydym yn falch o noddi’r Wobr Dechrau Busnes Gwyrdd sy'n cydnabod y rhai sy'n datblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau sy'n arwain at welliannau amgylcheddol sylweddol.

Pwy sy'n dod