Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cyfrifydd Perfformiad Buddsoddiadau

Rydym am benodi Cyfrifydd Perfformiad Buddsoddiadau yn seiliedig yng Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Pwrpas y rôl yw cynorthwyo i ddatblygu a gwella Gwybodaeth Reoli a dadansoddiadau perthnasol eraill, yn ogystal â chyfrannu at gyflawni amcanion ehangach y Timau Cyllid.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Bod yn gyfrifol am gynhyrchu gwybodaeth reoli fisol (gan gynnwys yr Adroddiad Rheoli Gweithredol) ac adolygiadau dadansoddol misol.
  • Nodi a chyflwyno pwyntiau diddordeb lefel uchel o'r adroddiadau niferus y mae'r Cwmni yn eu cynhyrchu i gefnogi dehongliad o'r canlyniadau misol.
  • Bod yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiadau ariannol chwarterol ar gyfer rhai Cronfeydd.
  • Deall y setiau data amrywiol sydd gan y Cwmni mewn perthynas â'i fuddsoddiadau a'i gwmnïau y buddsoddir ynddynt gan gyfeirio at ddehongli perfformiad buddsoddi.
  • Bod yn gyfrifol am goladu, cysoni ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) i Lywodraeth Cymru.
  • Arwain ar a dwyn ynghyd y wybodaeth ar berfformiad cyllidebol Llywodraeth Cymru i'w hadolygu gan yr uwch dîm cyllid.
  • Gweithio gyda systemau adrodd (ee, Fframwaith, Pancredit, CRM ac ati) er mwyn adolygu mewnbynnau i sicrhau cywirdeb ac optimeiddio'r wybodaeth sydd ar gael ac i fewnbynnu i reolaeth data strategol cyffredinol y Cwmni.
  • Dealltwriaeth dda o'r modelau a'r technegau modelu sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y Cwmni a diweddaru (yn fisol/chwarterol ac ati) modelau ariannol rhagolygon amrywiol cronfeydd Banc Datblygu Cymru i'w hymgorffori yng nghyllideb reolaidd Llywodraeth Cymru ac adrodd ar berfformiad alldro.
  • Gweithredu fel cyswllt rhwng y Tîm CRh&C a'r Tîm Cyfrifon Rheoli i sicrhau adroddiadau cydgysylltiedig i randdeiliaid.
  • Dirprwyo ar ran y Cyfrifydd Rhagolygon a Chynllunio yn ôl yr angen.
  • Gweithio gyda'r Tîm Cyllid i ddatblygu a gwella'r systemau cyfrifyddu a systemau cysylltiedig (gan gynnwys awtomeiddio adrodd gan ddefnyddio Power BI ac offer tebyg) yn unol ag arfer gorau.
  • Cefnogi'r gwaith o reoli gweithdrefnau cyfrifyddu a rheolaeth ariannol sy'n diogelu asedau'r cwmni. Nodi meysydd gwendid yn rhagweithiol a gweithio ar draws adrannau er mwyn nodi / gweithredu gwelliannau.
  • Cydweithredu ag archwilwyr, cynghorwyr a rhanddeiliaid yn ôl yr angen.
  • Paratoi tasgau ad hoc ac adroddiadau cyfrifyddu yn ôl yr angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Prif Swyddog Ariannol i gwrdd ag anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad 

Hanfodol

  • Yn meddu ar gymhwyster cyfrifyddiaeth cydnabyddedig yn y DU gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso.
  • Y gallu i baratoi rhagolygon ariannol integredig.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
  • Yn llythrennog mewn TG/PC gyda gallu uwch i ddefnyddio cyfres o gynhyrchion Microsoft Office (gan gynnwys Excel ar lefel uwch).
  • Gwybodaeth ymarferol o Power BI neu offer rheoli data eraill.
  • Meddylfryd rheoli cryf a llygad graff am fanylion tra hefyd yn gallu gweld y darlun mawr.
  • Gwybodaeth dda o ddiwydiant a masnach.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Sgiliau gweithio mewn tîm ac agwedd agored a brwdfrydig tuag at waith.
  • Gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau cyfrifyddu technegol.
  • Trefnus iawn a'r gallu i weithio yn unol â therfynau amser tynn gyda rhanddeiliaid lluosog.

Dymunol

  • Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ymwybyddiaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Yn gyfarwydd â defnyddio Sage 200 neu becynnau cyfrifyddu tebyg eraill
  • Yn gyfarwydd â systemau rheoli portffolio (ee Pancredit, Framework neu debyg).

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda