Capten Grŵp Anrhydeddus Sally Bridgeland i Gadeirio Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Sally Bridgeland

Mae’r Capten Grŵp Anrhydeddus, Sally Bridgeland FIA, wedi cael ei chyhoeddi’n Gadeirydd Anweithredol newydd Banc Datblygu Cymru. Bydd yn ymgymryd â’r swydd ym mis Medi 2024 pan fydd y Cadeirydd presennol, Gareth Bullock OBE, yn cwblhau ei gyfnod o naw mlynedd.

Mae rolau anweithredol presennol Sally yn cynnwys Cadeirydd yn Impax Asset Management Group plc a BelleVie Care Ltd, Dirprwy Gadeirydd Partneriaeth Pensiwn Brunel a chyfarwyddwr anweithredol yswirwyr Pension Insurance Corporation a Royal and Sun Alliance. Enillodd Wobr Cyfarwyddwyr Anweithredol 2023 – FTSE AIM am ei rôl yn Impax, sy’n dod i ben ym mis Gorffennaf 2024. Bydd yn dod yn Gadeirydd Partneriaeth Pensiwn Brunel ym mis Hydref 2024.

Mae ei gyrfa ddiweddar hefyd wedi cynnwys rolau fel Prif Weithredwr cynllun pensiwn BP, cyfarwyddwr anweithredol yn y Royal London, ac ymddiriedolwr a chadeirydd y pwyllgor buddsoddi yn y Gronfa Rhwymedigaethau Niwclear, NEST Corporation a chynlluniau pensiwn Banc Lloyds. Roedd hi’n Gadeirydd y gronfa pensiynau llywodraeth leol gyntaf, Local Pensions Partnership Investments (LPPI) Limited rhwng 2015 a 2023.

Ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg o Goleg Imperial a hyfforddi gydag ymgynghoriaeth Bacon & Woodrow fel actiwari, mae Sally yn Gymrawd o Sefydliad yr Actiwariaid ac mae wedi gwasanaethu’r proffesiwn actiwaraidd ar ei Chyngor a’i phwyllgorau proffesiynol. Dyfarnwyd Cymrawd er Anrhydedd CFA UK iddi yn hydref 2023, gan gydnabod ei chyfraniad at syniadau’r proffesiwn actiwaraidd am fuddsoddiadau cynaliadwy.

Mae hi'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Gymdeithas Frenhinol ar Addysg Mathemateg (ACME) ac mae hi’n Gadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol y Ganolfan Gwybyddiaeth Mathemategol ym Mhrifysgol Loughborough.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: “Hoffwn groesawu’r cyhoeddiad y bydd Sally Bridgeland yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Banc Datblygu Cymru. Bydd Sally’n ymuno ar adeg ddeinamig, gan ddod â thoreth o brofiad a gwybodaeth heb ei ail i’r Banc Datblygu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Sally pan gaiff ei phenodi ym mis Medi i barhau i gryfhau a datblygu portffolio'r banc ac adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i wneud dros y 7 mlynedd diwethaf.

“Bydd Sally yn cymryd lle’r Cadeirydd presennol, Gareth Bullock, o fis Medi ymlaen, gyda’r cyfnod hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi proses bontio effeithiol.”

Dywedodd Gareth Bullock OBE: “Rydw i’n falch o bopeth rydym ni wedi’i gyflawni yn ystod saith mlynedd gyntaf y Banc Datblygu. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i fusnesau Cymru, ond rydym wedi datblygu enw da gyda chwsmeriaid a’n rhwydwaith ehangach fel ffynhonnell gredadwy, ddibynadwy a gwerthfawr o gyllid i fusnesau.

“Rydym ni hefyd wedi cymryd camau pwysig fel buddsoddwr cyfrifol, gan gynyddu’r cyflenwad o ddyled a chyllid ecwiti sy’n cael effaith gymdeithasol, ar yr un pryd â hyrwyddo dyfodol mwy gwyrdd. Rwy’n siŵr y bydd Sally yn cael ei chroesawu gan bawb yn y Banc Datblygu ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arni i helpu i wneud Cymru yn wlad ddeniadol i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi.”

Dywedodd Sally Bridgeland: “Mae’r Banc Datblygu yn adnodd unigryw i Gymru; yn hyrwyddo arloesedd, yn cynyddu ffyniant, ac yn cefnogi’r broses o newid i economi gynaliadwy. Mae’n Fanc Datblygu sydd â phwrpas clir ac enw da am wneud y peth iawn. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd a’r tîm ehangach i gynnal rhagoriaeth o ran cyflawni a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor economi Cymru er budd pobl Cymru.”

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Pwrpas y Banc Datblygu yw gwireddu dyheadau a sbarduno posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Fe’i lansiwyd ym mis Hydref 2017 ac mae’n sefydliad craidd ar gyfer cyflenwi cynnyrch ariannol y sector cyhoeddus, gan gefnogi busnesau micro i ganolig yng Nghymru a chynyddu’r cyflenwad cyllid. Mae’n hyrwyddo datblygu economaidd drwy fodel cyflenwi y gellir ei addasu sy’n ymateb i anghenion y farchnad ar yr un pryd â darparu gwerth parhaus am arian ar gyfer cyllid cyhoeddus. Mae’n cyflawni amcanion polisi allweddol Llywodraeth Cymru, wedi’u mesur drwy dargedau perfformiad a darparu gwasanaethau rheoli a chefnogi buddsoddiadau ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd.