£1 miliwn yn newid y dirwedd gystadleuol yn gyfan gwbl i SPORTTAPE

Bethan-Knight
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Twf
SPORTTAPE

Mae SPORTTAPE o Gaerffili yn paratoi ar gyfer twf byd-eang yn dilyn buddsoddiad o £1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu gan y Cyfarwyddwyr Kate-Anne Kelly a Carl Austin yn 2010, mae SPORTTAPE yn cynnig amrywiaeth o dapiau buddugol ar gyfer chwaraeon. Mae eu hystod o dapiau chwaraeon yn cael eu defnyddio gan dros 1,000 o glybiau a miliwn o athletwyr yn amrywio o Glybiau Cynghrair Sul lleol i'r Uwch Gynghrair a'r Gemau Olympaidd. Gyda thîm o 12, mae gan y cwmni ddosbarthwyr mewn 16 o wledydd ac mae'n addysgu mwy na 10,000 o bobl sut i ddefnyddio tâp bob blwyddyn.

Mae benthyciad cychwynnol o £250,000 gan y Banc Datblygu yn 2022 i ariannu cyfalaf gweithio wedi helpu SPORTTAPE i dyfu trosiant o £1 miliwn i dros £4 miliwn mewn dim ond dwy flynedd. Ar ôl symud yn ddiweddar i uned 10,000 troedfedd sgwâr newydd yn Stad Ddiwydiannol Pant Glas ym Medwas, bydd y cwmni nawr yn defnyddio’r buddsoddiad ecwiti a dyled diweddaraf o £1 miliwn i ariannu cam nesaf y twf gyda’r nod o dreblu’r trosiant i £12. miliwn.

Dywedodd y cyfarwyddwyr Kate-Anne Kelly a Carl Austin: “Rydym yn fusnes bach ac mae chwaraeon yn rhan o’n DNA ni ac rydym yn canolbwyntio ar wneud un peth yn dda  - sef gwneud tapiau chwaraeon gorau'r byd. Rydym bellach wedi gwerthu dros bum miliwn metr o'n tâp cinesioleg blaenllaw ac rydym yn addysgu technegau a sgiliau i athletwyr ledled y byd i feistroli defnyddio tâp yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

“Fe wnaethon ni hunan-ariannu ein 10 mlynedd gyntaf mewn busnes ond yna fe wnaeth benthyciad gan y Banc Datblygu yn 2022 helpu i drawsnewid ein twf trwy ddarparu cyfalaf gweithio i fuddsoddi mewn datblygu cynnyrch a marchnata. Mae eu cefnogaeth wedi gwneud i ni wireddu ein potensial felly mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn gam nesaf naturiol ar ein taith. Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am gredu yn SPORTTAPE a darparu’r cyllid a fydd nawr yn ein galluogi i dargedu sylfaen cwsmeriaid mwy byd-eang gyda buddsoddiad mewn marchnata, datblygu cynnyrch a stoc.”

Mae Bethan Knight yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Ein gwaith ni ydi darparu cyllid dyled ac ecwiti cynaliadwy i fentergarwyr yng Nghymru i’w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Mae Kate-Anne a Carl wedi gwneud y gwaith sylfaenol o adeiladu busnes gwych sydd â photensial gwirioneddol i ddod yn stori allforio lwyddiannus i Gymru.”

Darparodd Chris Thomas o SME Finance Partners gefnogaeth ar y fargen a bydd yn parhau i gynghori SPORTAPE wrth i’r cwmni ehangu. Daeth cyllid ar gyfer SPORTTAPE o Gronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru. Ariennir y gronfa £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael.