Bethan Knight

Fe wnes i ymuno â’r busnes yn 2023 ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi busnesau lleol, gan eu helpu i ddatgloi twf a chyflawni eu potensial.

Rwy’n gweithio yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelli, sy’n rhoi cyfle i mi gefnogi amrywiaeth o fusnesau lleol yn Ne Cymru. Mae fy mhrofiad fel cyfrifydd cymwysedig gyda chefndir mewn Ailstrwythuro ac Ansolfedd yn golygu mod i’n gallu darparu cymorth wedi’i deilwra gyda’r nod o sicrhau twf hirdymor. 

Roeddwn i’n arfer gweithio mewn Gwasanaethau Adfer Busnes yn PwC ac mae gen i radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cyfrifeg a Chyllid o Brifysgol Abertawe.