Mae Awen Oncology, sy'n gwmni deillio Prifysgol, wedi cael buddsoddiad ecwiti sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru a’r cyd-fuddsoddwyr Start Codon, i ddatblygu ymhellach ystod arloesol o gyffuriau gwrth-ganser sy’n targedu mathau amrywiol o ganser. Daw hyn â chyfanswm yr arian a godwyd gan Awen Oncology i dros £1 filiwn.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol gyda grant gan Cancer Research UK ac wedi'i leoli ym mharc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, M-SParc yng Ngaerwen, mae Awen Oncology yn gwmni deillio o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd. Sefydlwyd y cwmni therapiwteg newydd gan y cyd-sylfaenwyr Doctor Ramsay McFarlane, Doctor Jane Wakeman a'r Athro Andrea Brancale, arweinydd byd mewn cemeg feddyginiaethol gyfrifiadurol. Mae'r cwmni hefyd yn cael cymorth gan dimau clinigol ledled y DU.
Mae’r Banc Datblygu wedi gwneud buddsoddiad ecwiti chwe ffigur ochr yn ochr â buddsoddiad chwe ffigur pellach gan Start Codon, datblygwr mentrau gwyddor bywyd arbenigol. Bydd Start Codon hefyd yn cefnogi Awen Oncology drwy ei Raglen 'START' arloesol, a gynlluniwyd i feithrin cwmnïau cyfnod cynnar a chynyddu eu siawns o lwyddo. Mae Awen Oncology hefyd yn cael cefnogaeth ariannol gan Cancer Research UK, Innovate UK a rhaglen gyfalaf SMART Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hynny, mae’r cwmni wedi cael ei ddewis i'w ddatblygu ymhellach drwy Innovate UK Business Growth, rhaglen ehangu ar gyfer busnesau arloesol sy’n llywio datblygiad economaidd.
Mae’r llwyfan arloesol a ddatblygwyd gan Awen Oncology yn mynd i’r afael ag angen sylweddol sydd heb ei ddiwallu yn y maes oncoleg, drwy ganolbwyntio ar enynnau datblygiadol dynol nas targedwyd o’r blaen sy'n segur mewn meinweoedd iach ond sy'n ymddwyn yn annisgwyl pan fydd canser yn dechrau ac yn datblygu.
Meddai cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Awen Oncology, Doctor McFarlane: “Mae ein technoleg yn torri tir newydd o ran darganfod cyffuriau oncoleg, i drin amrywiaeth o ganser malaen, gan gynnwys mathau prin nad oes opsiynau triniaeth effeithiol ar gael ar eu cyfer ar hyn o bryd. Rydym yn hyderus bod y cyfuniad o gefnogaeth gan y Banc Datblygu a Start Codon, ochr yn ochr â’r prifysgolion ac M-Sparc, yn golygu bod gennym bellach y cymorth i ddilyn llwybr cyflym i droi ein gwyddoniaeth arloesol yn fenter fasnachol fyd-eang lwyddiannus a allai helpu i drin canser.”
Meddai Dan Rooke, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu Start Codon: “Mae Awen Oncology yn gwmni hynod gyffrous, gyda thechnoleg drawsnewidiol sydd, yn ein barn ni, yn meddu ar y pŵer i ddatgloi triniaethau canser newydd a gwella canlyniadau i gleifion yn sylweddol. Rydym yn falch iawn o fuddsoddi ochr yn ochr â’n cyfeillion ym Manc Datblygu Cymru – y tro cyntaf i Start Codon wneud hynny – ac rydym yn edrych ymlaen at helpu tîm Awen i ddatblygu'r dechnoleg a thyfu’r cwmni i fod yn arweinydd yn y maes therapiwteg canser.”
Mae Tom Davies yn Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: “Gydag arbenigedd academaidd sy'n arwain y byd ym maes bioleg ffactorau datblygiadol oncogenig, mae Awen Oncology yn arloesi gyda chyffuriau oncoleg newydd a allai o bosibl drin sawl math gwahanol o ganser a helpu i ddatblygu’r diwydiant biofferyllol yng Nghymru. Mae cefnogaeth arbenigol Start Codon fel cyd-fuddsoddwyr, ochr yn ochr â’n cronfeydd ni, yn golygu bod y cwmni mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â’r gwaith o ymchwilio i gyffuriau a'u datblygu a denu cyllid pellach gan fuddsoddwyr blaenllaw yn y diwydiant.”
Daeth y buddsoddiad ecwiti hwn yn Awen Oncology o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sy'n werth £500 miliwn. Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru ac maent yn amrywio o £25,000 i £10 miliwn.