Arian i’r Amrannau

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Labardi Lashes

Mae Labardi Lashes yn mynd o nerth i nerth ar ôl agor stiwdio newydd ar gyfer triniaethau blew’r amrannau ar Donald Street, Caerdydd. Mae’r stiwdio wedi cael ei hariannu’n rhannol gan fenthyciad micro gan Fanc Datblygu Cymru.

Cafodd y busnes ei sefydlu yn 2018 gan Vanessa Mensah, y technegydd cymwys i greu blew’r amrannau, ac mae bellach yn paratoi i ehangu ei busnes gyda buddsoddiad yn ei stiwdio ei hun. Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi cael ei ddefnyddio i ariannu’r gwaith o osod a phrynu stoc ychwanegol, gan gynnwys nwyddau ôl-ofal.

Dywedodd Vanessa: “Rydw i wrth fy modd yn creu blew’r amrannau anhygoel, ac rydw i’n defnyddio technegau sy’n dal yn newydd i’r DU. Mae fy sylw i fanylion ynghyd â’r nwyddau rwy’n eu defnyddio yn golygu fy mod wedi cael trafferth ymdopi â’r galw, ond mae fy stiwdio newydd yn fy ngalluogi i gynnig oriau agor mwy hyblyg er mwyn i mi fod yn gallu gweld rhagor o gwsmeriaid hyd at 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ond, fyddwn i ddim yn gwneud hyn heb gymorth gan y Banc Datblygu. Dydw i erioed wedi cael benthyciad o’r blaen felly doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond mae’r broses wedi bod yn hawdd iawn ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y cymorth.”

Mae Donna Strohmeyer yn Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae galw mawr am wasanaethau Vanessa ac mae wedi creu sylfaen ffyddlon o gwsmeriaid, felly roedd hi’n bryd iddi symud o ystafell ar log i’w heiddo ei hun.  Erbyn hyn, hi sy’n rheoli twf y busnes yn y dyfodol, a dymunwn bob llwyddiant iddi.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Labardi Lashes o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sydd werth £500 miliwn, ac ariennir y gronfa gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti rhwng £25,000 a £10 miliwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.