Donna Strohmeyer

Rwy'n gweithio fel swyddog gweithredol benthyciadau, yn y tîm Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy (SALS) sydd newydd gael ei ffurfio. 

Bwriad y cynnig hwn gan Fanc Datblygu Cymru yw cefnogi busnesau ffermio wrth iddynt drosglwyddo i fodelau mwy cynaliadwy o gynhyrchu bwyd a rheoli tir.

Rwyf wedi gweithio ym Manc Datblygu Cymru ers 2008 mewn rolau a thimau amrywiol, lle rwy’n parhau i adeiladu ar fy ngwybodaeth o weithio gyda busnesau Cymreig.