Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu yn ymuno â datblygwyr tro cyntaf ar brosiect adeiladu cartrefi ym Merthyr Tudful

James-Brennan
Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Marchnata
Grove Park

Mae datblygwr eiddo cynyddol wedi cwblhau ei ddatblygiad preswyl adeiladu newydd cyntaf yn llwyddiannus yng nghanol Merthyr Tudful, diolch i fenthyciad o £1.2 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Gwelodd Bishop Bayliss Developments gyfle i adeiladu pedwar cartref newydd ar Grove Park, Maesnynant, yn 2023. Roedd gwaith seilwaith eisoes wedi’i wneud ar y safle gan berchennog cynharach, ac roedd Bishop Bayliss yn awyddus i ddefnyddio’r prosiect i gwblhau eu set gyntaf o gartrefi wedi’u hadeiladu o’r newydd.  ar ôl iddynt ganolbwyntio cyn hynny ar ail-ddodrefnu neu adnewyddu eiddo a oedd yn bodoli’n barod.

Aethant at Fanc Datblygu Cymru er mwyn gallu talu’n rhannol am brynu’r plotiau ac ariannu’r gwaith o adeiladu’r cartrefi newydd yn llawn gyda benthyciad o Gronfa Eiddo Cymru. Mae pob un o'r pedwar eiddo newydd eisoes wedi gwerthu oddi ar y cynllun, gyda'r benthyciad wedi'i ad-dalu'n llawn.

Dywedodd Adam Meah, Cyfarwyddwr Masnachol yn Bishop Bayliss Developments: “Roeddem yn awyddus i weithio ar adeiladu o’r newydd, ond roedd yn anodd i ni ddod o hyd i fenthyciwr a fyddai’n ein cefnogi.

“Credodd Banc Datblygu Cymru ynom ni ac roeddent yn gallu gweld ein gweledigaeth ar gyfer y safle, ac fe wnaethon nhw ein rhoi ni ar ben ffordd; dydyn ni ddim yn gwybod ble fydden ni hebddyn nhw.”

Dywedodd James Brennan, Swyddog Datblygu Eiddo gyda’r Banc Datblygu: “Mae’r datblygwyr wedi rhoi tai newydd o safon uchel ar safle sydd angen ei ddatblygu mewn ardal breswyl boblogaidd, a dangosir hynny gyda lefel uchel y galw am yr eiddo.

“Rydym yn falch bod ein cefnogaeth wedi golygu bod Bishop Bayliss Developments wedi gallu prynu a dechrau gwaith yn gyflym ar y safle, gyda chefnogaeth ein buddsoddiad trwy Gronfa Eiddo Cymru, sy’n bodoli’n union er mwyn rhoi hwb i ddatblygiadau fel yr un ym Maesynant.”

Darparwyd gwasanaethau monitro ar gyfer y Banc Datblygu gan RPA Quantity Surveyors.

Meddai Paul Griffiths o RPA Quantity Surveyors: “Er mai gwaith adeiladu o’r newydd cyntaf Bishop Bayliss oedd y datblygiad hwn, roedd ganddynt ymagwedd a oedd yn dangos lefel uchel o aeddfedrwydd tuag at y cynllun. Roeddent yn fodlon gwrando ar gyngor a herio ar sail gyfartal.

“Roedd yr yamgwedd hon, ynghyd â pharodrwydd y Banc Datblygu i chwilio am atebion yn hytrach na chreu rhwystrau pellach i Dderbynnydd y Benthyciad, yn creu perthynas glos rhwng yr holl bartïon. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Banc Datblygu a Bishop Bayliss ar brosiectau yn y dyfodol.”