Mae canlyniadau hanner blwyddyn a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 26 Tachwedd) gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos bod 221 o fusnesau a 3,245 o swyddi wedi'u cefnogi gyda buddsoddiad gwerth cyfanswm o £61.8 miliwn yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024. Mae cyd-fuddsoddiad wedi taro £42.1 miliwn ar gyfer cyfanswm effaith economaidd o £103.9 miliwn yn chwe mis cyntaf y flwyddyn.
Gydag amcanion craidd i hwyluso diwylliant entrepreneuraidd, cefnogi cynhwysiant ariannol a blaenoriaethu effaith gymdeithasol, mae gan y Banc Datblygu £2 biliwn mewn cronfeydd o dan rheoliant, a phortffolio o 3,378 o gwsmeriaid. Fel sefydliad cyllid cyhoeddus sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, mae'r Banc Datblygu yn darparu benthyciadau ac ecwiti i fusnesau, pobl a chymunedau Cymru i gefnogi amcanion economaidd ehangach y Llywodraeth gan gynnwys trosglwyddo i economi carbon isel a datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol.
Mae Lineat, busnes technoleg gynaliadwy sy'n arbenigo mewn ailgylchu ffibr carbon yn un o’r busnesau sydd wedi elwa. Mae'r cwmni wedi symud i Gas-gwent yn dilyn codiad ecwiti gwerth £1.4 miliwn dan arweiniad y Banc Datblygu a Green Angel Ventures.
Yng ngogledd Cymru, mae'r cyfanwerthwr ffrwythau a llysiau o Wynedd, Bwydydd Oren Foods, yn lleihau costau cynhyrchu carbon ac ynni gyda gosod arae panel solar 60MWh a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Ariannwyd hyn drwy fenthyciad o £60,000 gan y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.
Cymerodd Sally Bridgeland FIA yr awenau fel Cadeirydd newydd Banc Datblygu Cymru ym mis Medi 2024. Dywedodd: "Ar ôl treulio 25 mlynedd ar flaen y gad ym marchnad fuddsoddi'r DU, rwy'n angerddol am ddefnyddio offerynnau ariannol arloesol i sicrhau twf economaidd hirdymor gyda gwerth cymdeithasol clir.
"Mae hybu twf a datgloi buddsoddiad yn flaenoriaeth i lywodraethau yng Nghymru a San Steffan. Gyda chreu'r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol a cham cyntaf Adolygiad Buddsoddi Pensiwn Llywodraeth y DU bellach ar y gweill, mae gennym gyfle gwirioneddol yma yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar gyfalaf hirdymor i Gymru fel offeryn ar gyfer gwella lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Dyma beth fydd yn creu newid cadarnhaol, hirhoedlog.
"Mae'r canlyniadau hanner blwyddyn hyn yn dangos y gwahaniaeth y mae'r Banc Datblygu yn ei wneud i economi Cymru, gan gefnogi swyddi a chefnogi cymunedau ffyniannus ledled Cymru."
Giles Thorley yw Prif Weithredwr y Banc Datblygu. Dywedodd: "Fel buddsoddwr effaith, rydym yn darparu cyllid hygyrch i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y busnesau yr ydym yn eu hariannu wrth hyrwyddo'r uchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwyrdd yng Nghymru.
"Yn wir, wrth i ni fyfyrio ar hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, mae cynnydd amlwg yn y galw am gyllid ac rydym yn arbennig o falch o weld cynnydd mewn cyd-fuddsoddiad o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd. Rydym yn adolygu ac yn datblygu ein harian yn barhaus ynghyd â'n prosesau gweithio i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion busnesau Cymru ac yn gwella profiad ein cwsmeriaid. Rydym wedi ymrwymo i'w gwneud mor gyflym a hawdd â phosibl i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, mabwysiadu technolegau newydd a chreu cyfleoedd cyflogaeth.
"Rydyn ni yma i gefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru a byddwn yn parhau i chwarae ein rhan wrth helpu i sicrhau ffyniant economaidd hirdymor er budd pawb."