Mae cwmni newydd yng nghanolbarth Cymru sy’n bwriadu gwneud technoleg profi DNA mor hawdd i’w defnyddio â ffôn clyfar wedi cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ecwiti o £350,000 gan Fanc Datblygu Cymru.
Mae Amped PCR, sydd wedi'i leoli ym Mhowys, yn datblygu PurifAI , system profi DNA arloesol a gynlluniwyd i chwyldroi sut mae diwydiannau'n canfod pathogenau niweidiol.
Mae'r labordy modiwlaidd y gellir ei ddefnyddio yn integreiddio awtomeiddio datblygedig a deallusrwydd artiffisial, gan wneud profion DNA yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn hygyrch y tu allan i leoliadau labordy traddodiadol.
Yn dilyn buddsoddiad gan Gronfa Sbarduno Technoleg y Banc Datblygu, nod y cwmni yw dod â system PurifAI , ochr yn ochr â'i adweithydd Amped Universal, i farchnad ehangach. Mae gan y sylfaenydd Ben Davis fwy na 15 mlynedd o brofiad yn y sector, ac mae wedi ymrwymo i wneud profion DNA yn hygyrch ac yn effeithlon ar draws diwydiannau.
Cefnogwyd y buddsoddiad hefyd gan £185,000 gan fuddsoddwyr technoleg o Lundain SFC Capital.
Mae adwaith cadwynol polymeras - a elwir yn fwy cyffredin fel PCR - yn dechneg a ddefnyddir i chwyddo symiau bach fel arfer o DNA i feintiau llawer mwy, gan ganiatáu i unrhyw un sy'n profi neu'n dadansoddi DNA gynyddu maint y sampl sydd ar gael, gan ei gwneud yn haws i'w dadansoddi ymhellach. Mae Amped PCR yn mynd â'r broses hon gam ymhellach trwy ei hymgorffori yn system PurifAI , sy'n caniatáu i brofion DNA symud o labordai arbenigol i amgylcheddau'r byd go iawn fel safleoedd cynhyrchu bwyd neu gyfleusterau monitro amgylcheddol.
Mae system PurifAI wedi cael ei chynllunio i fynd i'r afael â heriau hanfodol megis galw bwyd yn ôl proffil uchel a'r angen cynyddol am brofion amgylcheddol a dŵr effeithiol yn y frwydr yn erbyn pathogenau niweidiol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Trwy alluogi canfod pathogenau fel Salmonela, Listeria a Campylobacter yn y fan a’r lle, mae PurifAI yn grymuso cynhyrchwyr bwyd, asiantaethau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill i ymateb yn gyflym ac yn rhagweithiol, gan leihau risgiau a diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae Ben Davis, sylfaenydd Amped PCR, yn dod â phrofiad masnachol sylweddol mewn diagnosteg DNA, ar ôl arwain prosiectau gweithgynhyrchu PCR ac ymgynghori ar gyfer arweinwyr biotechnoleg byd-eang. “Rydym am wella profiad y defnyddiwr fel bod defnyddio’r dechnoleg hon yn teimlo mor reddfol â defnyddio ffôn clyfar. Mae gan bron bawb ffôn clyfar y dyddiau hyn ac mae'r dechnoleg sy'n sail iddynt yn soffistigedig iawn, ond yn y rhan fwyaf o achosion nid oes angen i'r defnyddiwr terfynol wybod sut mae hynny i gyd yn gweithio - mae'n gweithio. Mae PurifAI yn ymwneud â rhoi pŵer profi blaengar yn uniongyrchol yn nwylo defnyddwyr, ble bynnag y bônt a beth bynnag yw eu cwestiwn DNA.”
Mae'r cyd-sylfaenydd Aysha Shah yn dod â chefndir mewn dylunio cynnyrch a phrofiad y defnyddiwr i sicrhau bod system PurifAI yn hawdd ei defnyddio. “Mae fy ffocws ar wneud PurifAI yn reddfol i ddefnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr.” Eglurodd Aysha. “Trwy flaenoriaethu hygyrchedd a defnyddioldeb, rydym yn creu offeryn a all fynd i’r afael â heriau byd-eang mawr wrth ffitio’n ddi-dor i lifoedd gwaith presennol.”
Ychwanegodd Ben: “Roeddem yn ffodus iawn i weithio gyda Banc Datblygu Cymru ac roedd y gefnogaeth a gawsom gan Linzi yn arbennig o bwysig. Gyda’i chefndir gwyddonol, roedd hi’n gallu gweld beth rydyn ni’n ceisio’i wneud ac roedd hi’n allweddol wrth wthio’r cyflymder yn ystod trafodaethau cyfreithiol ac ariannol.”
Dywedodd Linzi Plant, swyddog buddsoddi cynorthwyol yn y tîm Buddsoddi mewn Mentrau Technoleg yn y Banc Datblygu:
“Roedd yn bleser gweithio gyda Ben ac Aysha yn Amped PCR wrth iddynt geisio cychwyn a dod â’u hadweithydd i farchnad ehangach. Mae’r defnydd posibl o’u cynnyrch yn enfawr ac mae’n wych gweld cwmni bach o Gymru yn meddwl am yr hyn a allai fod yn ddatrysiad chwyldroadol mewn cymaint o feysydd profi DNA.”
Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn darparu buddsoddiad ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 i gwmnïau technoleg yng Nghymru.
Dywedodd Adam Beveridge o SFC Capital: “Rydym bob amser yn chwilio am gwmnïau llai neu rai newydd sydd â photensial cryf ar gyfer twf - boed hynny gyda chynhyrchion arloesol neu dechnolegau aflonyddgar. Mae’r atebion sy’n cael eu cynnig gan Amped PCR yn y gofod profi yn wych ac mae lle gwirioneddol i dyfu wrth i dechnoleg y busnes gael ei chymhwyso i ystod ehangach o sectorau.”
Mae Amped PCR yn gwahodd cwmnïau a rhanddeiliaid i ymuno â'i raglen mynediad cynnar i brofi potensial trawsnewidiol PurifAI yn uniongyrchol.
“Mae hon yn foment dyngedfennol i ddiwydiannau sy’n wynebu pwysau cynyddol oherwydd rheoliadau diogelwch bwyd a heriau amgylcheddol,” meddai Ben Davis. “Rydym yn chwilio am bartneriaid sy’n rhannu ein gweledigaeth o ddyfodol mwy diogel, mwy cynaliadwy.”