Mae busnes technoleg sy’n darparu datrysiadau ap y gellir eu haddasu i gwmnïau yswiriant ceir mawr wedi cwblhau rownd chwe ffigur, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru a buddsoddwyr Cymreig proffil uchel.
Dechreuodd Driverly fel platfform technoleg gan ei gwneud yn haws i yrwyr ifanc gael mynediad at yswiriant car, gan ddefnyddio data a gasglwyd ar yrwyr unigol i helpu i ostwng eu cyfraniadau yswiriant. Ers hynny mae'r busnes wedi newid i fodel BiB, gan ddarparu ei blatfform y gellir ei addasu i nifer o yswirwyr, a all ddefnyddio Driverly fel sail i'w aps eu hunain i gasglu a darparu data ar yrwyr. Gall system Driverly gael ei diweddaru a'i newid yn gyflym gan eu cleientiaid, gan alluogi darparwyr yswiriant i addasu eu aps yn unol â gofynion cwsmeriaid.
Ymunwyd â’r Banc Datblygu, sy’n buddsoddi o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru a Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, gan syndicet o dan arweiniad y cyn-fuddsoddwr a sylfaenydd Rebel Syndicate, Simon Bell, ynghyd â gwneuthurwr bargeinion busnes hirdymor ac aelod Merched Angylion Cymru Annie Finlayson; Angel Busnes y Flwyddyn DU Peter Saunders OBE a'r mentergarwr Darryl Morton. Cafwyd buddsoddiad cyfatebol gan y syndicet gan Gyd-Gronfa Angylion Cymru.
Ymunodd angylion eraill â chefndir proffesiynol mewn cyllid a thechnoleg, cyn fentergarwyr cyfresol a chyd-raddedigion Mr Kia o raglen MBA Prifysgol Manceinion â'r grŵp hefyd.
Bydd y buddsoddiad diweddar yn caniatáu i Driverly dyfu ei sylfaen cwsmeriaid yn y flwyddyn i ddod, gan ddarparu ei ap i fwy fyth o fusnesau, a datblygu ei dechnoleg perchnogol.
Dywedodd Armin Kia, Prif Weithredwr Driverly: “Rydym wrth ein bodd gyda lefel y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Angylion Buddsoddi Cymru a’r syndicet cyd-fuddsoddi o dan arweiniad Simon. Mae cael angylion fel Simon, Annie, Peter a Darryl yn ymuno â ni yn rhoi mynediad i ni at gronfa enfawr o brofiad busnes gan gyn-fentergarwyr sydd wedi dechrau, cefnogi ac ymadael â nifer o fusnesau ledled Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y pethau y byddwn yn gallu eu cyflawni gyda'n gilydd.
“Rydym wastad wedi bod yn awyddus i gadw cydbwysedd manwl rhwng cadw ffocws ar ein busnes craidd, tra hefyd yn barod i ymateb i ofynion y farchnad. Mae honno'n dasg bwysig i unrhyw dîm arwain. Gall Banc Datblygu Cymru a’n buddsoddwyr newydd weld y farchnad ehangach a’n helpu ni gyda hynny.”
Dywedodd Simon Bell, prif fuddsoddwr: “Mae gennym ni lawer o brofiad cryf yn y syndicet hwn, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i wneud defnydd da o’r cymysgedd hwnnw o arbenigedd yn Driverly. Mae eu tîm yn cynnwys arbenigwyr, ond maen nhw hefyd yn ostyngedig ac yn barod i wneud newidiadau pan fo angen.
“Ac fe wnaed argraff fawr ar bob un ohonom gyda cholyn diweddar Driverly o fusnes BiC i fodel BiB, gan drosoli eu gwaith a’u mewnwelediadau presennol mewn ffordd wahanol. Mae eu model yn galluogi busnesau yswiriant i addasu a mireinio eu ap heb orfod ei wreiddio mewn adran TGCh fawr, sy’n golygu y gallant ei addasu’n gyflym i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.”
Dyma’r ail rownd o fuddsoddiadau y mae’r busnes wedi’u derbyn gan Fanc Datblygu Cymru, yn dilyn buddsoddiad o £250,000 mewn ecwiti yn ystod rownd fuddsoddi cyn-had yn 2022, ynghyd â Manuel Santiago a Duncan Russell, cyn Brif Swyddog Ariannol yn Admiral Financial Services.
Meddai Linzi Plant, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru : “Mae Driverly wedi profi eu gallu i addasu a’u dyfeisgarwch yn gyson mewn marchnad sy’n esblygu’n barhaus, ac rydym yn falch bod ein cefnogaeth wedi gallu ysgogi cyd-fuddsoddiad gan rai buddsoddwyr Angel proffil uchel iawn, a fydd yn ychwanegu eu doniau a’u profiad at dîm craidd Driverly.”
Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru II yn agored i fusnesau technoleg Cymreig, a busnesau sy’n barod i adleoli i Gymru, gyda buddsoddiad ecwiti rhwng £50,000 a £350,000 ar gael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld www.bancdatblygu.cymru