Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu yn cefnogi menter ar y cyd rhwng bragwr crefft a siop bwyd stryd i lansio lleoliad newydd yn yr Eglwys Newydd

Janet-Speck
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Dechrau busnes
Kegbelly

Mae dau fusnes wedi dod at ei gilydd i greu bar a bwyty newydd cyffrous yng Nghaerdydd, gyda chymorth benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Ymunodd bragwyr hirsefydlog Flowerhorn Brewery â gwerthwyr bwyd stryd Mr Croquewich yn gynharach eleni i agor Kegbelly, yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Mae'r ddau fusnes wedi bod yn boblogaidd ers amser maith gyda dilynwyr bwyd stryd da a chwrw crefft ar safle a rennir yn The Bridge Studios, Western Avenue, ac roeddent am ymuno i agor lleoliad newydd yn yr Eglwys Newydd.

Cefnogwyd agoriad Kegbelly  gyda micro fenthyciad o £30,000 o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, gan alluogi'r ddau fusnes i adnewyddu safle Kegbelly's ar Park Road. Dyma’r eildro i’r bragdy dderbyn cymorth gan y Banc Datblygu, ar ôl derbyn benthyciad o £25,000 yn 2022.

Trwy ddod ag amrywiaeth eang o gwrw crefft Flowerhorn Brewery at ei gilydd, ac arlwy bwyd amrywiol a ddarperir gan y gegin sy’n cael ei rhedeg gan Mr Croquewich – gan gynnwys tôstis wedi’u llenwi’n dda a sglodion arbennig parmesan wedi’u ffrio ar yr ochr – mae’r partneriaid yn anelu at wneud Kegbelly yn gyrchfan i ddilynwyr bwyd a diod da yng Nghaerdydd.

Dywedodd Andrew Traynor, cyfarwyddwr yn Flowerhorn Brewery ac un o gyd-gyfarwyddwyr Kegbelly  - ochr yn ochr â phartner Flowerhorn Arran McHugh a pherchnogion Mr Croquewich Emma Carter a Darren Lewis - fod Kegbelly  wedi cynnig cyfle i’r busnesau ehangu tra’n dod a’u cryfderau i gyd at ei gilydd.

Dywedodd: “Roedden ni wedi bod yn chwilio am ofod ar gyfer bar newydd, ac roedd Darren ac Emma yn chwilio am ofod newydd i Mr Croquewich mewn rhan wahanol o Gaerdydd. Un o fanteision mawr y lleoliad newydd hwn oedd bod ganddo gegin fawr, ac roeddem yn ffodus iawn ei fod wedi dod ar gael pan wnaeth.

“Mae'r hyn rydyn ni'n ei gynnig yn gryf iawn oherwydd rydyn ni wedi gallu dod â'r fath gymysgedd o sgiliau at ei gilydd. Gyda'u bwyd a'n cwrw, rydym wedi gallu llenwi bwlch mawr yn y farchnad a chynnig rhywbeth newydd a chyffrous mewn ardal y tu allan i ganol y ddinas. Ac rydym wedi bod yn boblogaidd iawn ers i ni agor – mae pethau wedi mynd yn llawer gwell nag yr oeddem wedi meddwl.”

Ychwanegodd Andrew: “Heb y benthyciad, ni fyddem wedi gallu lansio’r prosiect hwn. Fe wnaeth y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru ein helpu i gymryd y cam nesaf hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu manteisio ar y cyfle hwn gyda’u buddsoddiad nhw.”

Dywedodd Janet Speck, cynorthwyydd portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae’r hyn y mae Flowerhorn Brewery a Mr Croquewich wedi gallu ei gyflawni drwy agor Kegbelly  yn enghraifft wych o’r math o gyfleoedd y gall busnesau eu gweld pan fyddant yn dod at ei gilydd, a llunio cynllun newydd bwyd a diod sydd eisoes wedi bod yn boblogaidd gyda rhai sy’n bwyta allan yng Nghaerdydd.

“Gall ein micro-fenthyciadau helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd wedi’u targedu ar gyfer ehangu neu wella ymhellach – byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl efallai eu bod wedi gweld cyfle o’r fath i gysylltu â ni.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bancdatblygu.cymru