Mae un o gwmnïau deillio technoleg yr Alacrity Foundation wedi cau rownd cyn-hadu o fuddsoddiad ecwiti chwe ffigur dan arweiniad SFC Capital, Banc Datblygu Cymru a syndicet o angylion busnes.
Mae Lumin Solutions yn cael ei redeg gan y Cyfarwyddwyr Piers Oliphant sy'n 25 oed, Ben Gretton sy’n 23 oed, a Ben Miller sy'n 24 oed. Cyfarfu'r tri entrepreneur ifanc gyntaf wrth gymryd rhan yn Rhaglen Entrepreneuriaeth yr Alacrity Foundation ac maen nhw bellach wedi datblygu system rheoli achosion i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal cymdeithasol plant.
Mae cynnyrch meddalwedd arloesol Lumin yn system gofnodi a chynllunio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer darparwyr gofal, y mae llawer ohonynt yn dal i weithio ar bapur yn bennaf. Mae'n cynnig Cynorthwyydd Gofal Digidol sy'n gwella profiad a chanlyniadau i’r defnyddiwr, yn lleihau costau ac yn gwella cydymffurfiaeth reoleiddiol drwy dracio tystiolaeth. Mae nodweddion allweddol yn cynnwys cynlluniau gofal, asesiadau ac adroddiadau rheolaidd. Bydd dadansoddeg wedi'i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn galluogi defnyddwyr i ddadansoddi eu data a'u cofnodion yn gyflym, gyda’r gallu i’w haddasu, gan gynnig mewnwelediadau i'w sefydliad a'u harferion gofal i wella canlyniadau a pharatoi ar gyfer arolygiadau.
Bydd y cyllid gan SFC, y Banc Datblygu a'r syndicet o angylion busnes dan arweiniad y prif fuddsoddwr Darryl Morton yn cael ei ddefnyddio i ehangu prosesau datblygu, gwerthu a marchnata cynnyrch.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Piers Oliphant: "Mae strategaeth ddigidol y DU yn gwthio darparwyr gofal i fabwysiadu systemau cofnodi gofal digidol a chadw cofnodion priodol erbyn 2025. Gyda 60% o ddarparwyr gofal yn dal i fod yn gweithio ar bapur neu'n rhannol ddigidol, mae hon yn farchnad sy'n tyfu'n gyflym.
"Bydd ein technoleg yn helpu i gynnig dull cydlynol sy'n cael ei yrru gan ddata i ddarparwyr gofal lleol, gyda llwybr archwilio clir. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i ddarparwyr gofal ganolbwyntio ar ddarparu gofal o safon, gan wella gofal plant yn y pen draw.
"Mae'r Rhaglen Alacrity wedi ein helpu i baratoi at fuddsoddiad fel y gallwn sicrhau'r cyllid sydd ei angen i ehangu ein gweithrediad, ond yr hyn rydyn ni'n gyffrous iawn amdano yw gallu cael mynediad at wybodaeth a phrofiad ein buddsoddwyr, yn enwedig Darryl, sydd wedi sefydlu, ehangu ac ymadael â busnesau technoleg tebyg."
Dywedodd y Prif Fuddsoddwr, Darryl Morton o Summit Venture: "Mae'r farchnad gofal cymdeithasol plant wedi’i thanwasanaethu gan systemau meddalwedd rheoli gofal o safon. Mewn cyfnod byr o amser, mae'r tîm yn Lumin eisoes wedi datblygu system graidd ac wedi profi hyn gyda nifer o bartneriaid yn y diwydiant, a nawr, gyda chefnogaeth ariannol drwy’r rownd fuddsoddi hon, maen nhw’n barod i ddatblygu'r feddalwedd ymhellach a helpu i godi safonau o fewn y sector. Mae'n gyfle cyffrous iawn i fod yn rhan ohono."
Dywedodd Adam Beveridge o SFC Capital: "Un o'r heriau mwyaf i unrhyw fusnes newydd yw sicrhau cyllid cychwynnol. Mae'n dyst i'r tîm yn Lumin a'u hymrwymiad i ddatblygu meddalwedd arloesol sy'n mynd i'r afael â phroblemau go iawn yn y diwydiant fod y rownd cyn-hadu hon wedi bod mor llwyddiannus. Rydyn ni’n falch o'u hychwanegu at ein portffolio buddsoddi o dros 400 o egin fusnesau ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi ochr yn ochr â'r Banc Datblygu a Darryl fel ein cyd-fuddsoddwyr."
Dywedodd Hannah Mallen, Swyddog Gweithredol Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu: "Mae hwn yn dîm deinamig a brwdfrydig sy'n rhannu ymrwymiad i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae ’na farchnad glir ar gyfer datrysiad digidol Lumin sy'n canolbwyntio ar bobl wrth i ddarparwyr gofal cymdeithasol plant gydnabod sut mae technolegau sy'n dod i'r amlwg yn galluogi ymyrraeth gynnar, asesu risg, a phenderfyniadau gwell mewn perthynas â lles plant. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn buddsoddi ochr yn ochr â SFC a defnyddio ein Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru i ychwanegu grym go iawn at fuddsoddiad Darryl a'r syndicet o angylion busnes."
Daeth y buddsoddiad ecwiti ar gyfer Lumin Solutions gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru a Chronfa Sbarduno Technoleg Cymru, sydd werth £20 miliwn. Wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn cynnig buddsoddiadau ecwiti rhwng £100,000 a £350,000 i fusnesau technoleg Cymru, a'r rhai sy'n barod i adleoli i Gymru, ar gam prawf cysyniad.