Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn croesawu buddsoddiad o £24.5 miliwn ym mhrosiect adeiladu Cymru

Cenydd-Rowlands
Cyfarwddwr Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Parc Eirin

Mae cwmni datblygu eiddo yng Nghaerdydd wedi sicrhau buddsoddiad o £17.5 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru a £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu adeiladu 114 o gartrefi newydd yn Nhonyrefail. Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed i'r Banc Datblygu ei wneud.

Mae gwaith ar Barc Eirin, sef prosiect datblygu preswyl deiliadaeth gymysg carbon isel mawr gan Tirion Homes wedi dechrau gyda’r contractwr Morganstone yn cwblhau’r gwaith adeiladu erbyn diwedd 2027. Bydd pob un o’r 114 o gartrefi’n cyflawni gradd A EPC ac yn cynnwys nodweddion arbed ynni megis paneli solar, storfa batri cymunedol a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd 81 o gartrefi dwy a thair ystafell wely ynghyd â 33 o fflatiau un ystafell wely wedi’u rhannu i’w gwerthu a’u rhentu ar draws y farchnad agored a rhenti cymdeithasol. Mae Tirion Homes wedi cwblhau prosiectau tai tebyg yn y Felin yng Nghaerdydd ac yn Royal Victoria Court, Casnewydd.

Mae’r buddsoddiad o £17.5 miliwn ar gyfer y prosiect wedi dod o Gronfa Eiddo Cymru y Banc Datblygu a Chronfa Safleoedd Segur Cymru gyda £7 miliwn pellach mewn grantiau o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i gynnwys £3.6 miliwn o’r Gronfa Carbon Isel a £3.9 miliwn drwy’r Gronfa Dulliau Adeiladu Modern.

Mae Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi croesawu dechreuad y gwaith hwn ym Mharc Eirin. Wrth ymweld â’r safle, dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac o ansawdd da ledled Cymru. Mae gennym darged i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn 2026.

“Nid yn unig y mae safleoedd fel Parc Erin yn cefnogi darparu cartrefi cynaliadwy ac ynni-effeithlon, ond maent hefyd yn creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn helpu i hybu economïau lleol.Dyma’r union fath o fuddsoddiad a all roi gwerth cymdeithasol ac economaidd i deuluoedd ac unigolion ledled Cymru.”

Ychwanegodd David Ward, prif weithredwr Tirion Homes: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r buddsoddiad nodedig hwn gan Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru fel y gallwn barhau i gefnogi nod y llywodraeth i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, carbon isel o ansawdd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Mae’r partneriaethau hyn yn hanfodol i’n gallu i gyflymu’r gwaith o gyflawni prosiectau adfywio mawr ledled Cymru.”

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Morganstone i ddarparu Parc Eirin, a fydd yn gyfle nid yn unig i ddarparu cartrefi fforddiadwy ond hefyd gartrefi i’w gwerthu. Mae cymunedau wrth galon yr hyn a wnawn a bydd partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru a Morganstone , yn ein helpu i gyflawni ein nod o ddarparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel yn y Rhondda.”

Cenydd Rowlands yw Cyfarwyddwr Eiddo y Banc Datblygu. Dywedodd: “Fel y Banc Datblygu, dyma ein buddsoddiad mwyaf erioed, felly mae’n arbennig o braf bod ein cronfeydd yn cael eu defnyddio i gefnogi’r diwydiant adeiladu a pherchnogaeth tai yng Nghymru.

“O dan arweiniad Rheolwr y Gronfa Eiddo Nicola Crocker ochr yn ochr â Karl Jones, Uwch Swyddog Datblygu Eiddo, mae hwn wedi bod yn ymdrech tîm gwych sy’n dangos ein gallu i ddarparu ystod o opsiynau cyllid wedi’u teilwra ar gyfer datblygwyr bach a chanolig i ddod â datblygiadau masnachol, preswyl a defnydd cymysg sy’n cefnogi twf economaidd a chymdeithasol ledled Cymru ymlaen.

Mae’r Banc Datblygu yn darparu cyllid datblygu eiddo preswyl, defnydd cymysg a masnachol tymor byr rhwng £150,000 a £10 miliwn o ystod o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a’r Cymhelliant Datblygu Gwyrdd.