Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Entrepreneur ifanc yn disgleirio ym Merthyr Tudful

Jessica-White
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Sparkles Bar

Mae Freya Curtis, sy'n 21 oed, wedi agor y bar thema LHDTC+ cyntaf ym Merthyr Tudful gyda chymorth benthyciad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru i ariannu rhan o'r costau cychwynnol. 

Gyda sioeau byw, nosweithiau karaoke a sioeau drag, mae Sparkles eisoes yn boblogaidd ymysg y gymuned leol. Mae pedair swydd ran-amser wedi'u creu. 

Yn ferch i Marnie a Matthew Curtis sy’n rhedeg Clwb Llafur Merthyr Tudful, mae Freya wedi cael ei magu yn y diwydiant lletygarwch. Bu'n gweithio i'w rhieni cyn penderfynu mentro a dechrau ei busnes ei hun. 

Dywedodd Freya: “Rwyf wedi dysgu llawer gan fy rhieni am sut i redeg busnes lletygarwch llwyddiannus. Fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i sefydlu fy musnes fy hun ac fel aelod o'r gymuned LHDTC+ leol, roeddwn i'n gwybod bod bwlch mawr yn y farchnad ar gyfer bar thema ym Merthyr. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth. 

“Efallai mai dim ond 21 ydw i ond mae cael cefnogaeth fy rhieni a’r Banc Datblygu wedi rhoi’r hyder i mi fentro ar fy mhen fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd fy stori yn ysbrydoli eraill i ddechrau eu taith eu hunain fel entrepreneur ifanc.”

Mae Jessica White yn Uwch Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae ein cyllid hyblyg ar gael i entrepreneuriaid ifanc i’w helpu i ddechrau busnesau llwyddiannus yng Nghymru. Yn wir, rydym wedi cefnogi dros 100 o bobl ifanc 18-30 oed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd, fel Freya, â chynllun busnes cryf a digon o angerdd i droi eu breuddwyd o fod yn hunangyflogedig yn realiti. Mae entrepreneuriaid ifanc uchelgeisiol fel Freya yn rhan bwysig o’n heconomi, felly rydym yn falch o gefnogi’r mentrau busnes newydd hyn a dymunwn pob llwyddiant iddi.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Sparkles Bar o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gael ar gyfer benthyciadau rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymreig gyda thymhorau o hyd at 15 mlynedd.