Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Grŵp gofal yn cymryd perchnogaeth o seithfed cartref newydd gyda chefnogaeth y Banc Datblygu

Gavin-Reid
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Ariannu
Twf
Marchnata
Bankhouse Care Home

Mae gan gartref gofal yng Nglynebwy berchennog newydd, diolch i fenthyciad o £2.97 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Cartref Gofal Bankhouse, yn Beaufort, yn darparu gofal preswyl, gofal nyrsio a gofal dementia i 54 o breswylwyr. Ar ôl cyfnod ar y farchnad, prynwyd y cartref gofal gan Oxford Care Group o'r Fenni, gyda chymorth benthyciad o £2.97 miliwn o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

BP Khanal a Rama Khanal Guragain yw perchnogion Oxford Care Group. Dyma'r trydydd tro i'r cwmni gael cymorth gan y Banc Datblygu, ar ôl cael cyllid i brynu Cartref Gofal Sketty House yn Abertawe, a Chartref Nyrsio Cefn Lodge yng Nghastell-nedd yn y gorffennol. Yn sgil prynu Cartref Gofal Bankhouse, mae BP a Rama bellach yn berchen ar gyfanswm o saith o gartrefi ledled Cymru a Lloegr.

Meddai'r ddau: “Mae’r buddsoddiad a gawsom gan y Banc Datblygu wedi ein galluogi i ddiogelu dyfodol y cartref hwn. Heb gefnogaeth y Banc Datblygu, mae risg wirioneddol y gallai Cartref Gofal Bankhouse fod wedi cau'n barhaol – gan olygu y byddai angen symud y preswylwyr presennol i rywle arall a cholli tua 90 aelod o staff, yn ogystal ag effeithio ar gyflenwyr a masnachwyr lleol.

“Mae ethos y Banc Datblygu o ymrwymo i fuddsoddiadau sy’n ymwneud â mwy na chreu elw wastad wedi creu argraff arnom. Mae'r gefnogaeth a gawsom ganddo i ehangu a chwblhau pryniannau yn y sector hynod bwysig hwn wedi bod yn wych.”

Dywedodd Gavin Reid, Uwch Weithredwr Portffolio yn y Banc Datblygu: “Mae cartrefi gofal fel Bankhouse yn darparu gwasanaeth hanfodol, mawr ei angen mewn cymunedau ledled Cymru. Felly rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Oxford Care Group gyda phrynu Cartref Gofal Bankhouse, gan ddiogelu gofal a swyddi yn y gymuned leol.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Grŵp Gofal Rhydychen o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru. Mae'n cynnig benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.