Bwrdd
Cylch Gorchwyl 2026
Adolygwyd a chymeradwywyd gan y Bwrdd: 28.04.2026
1. CYFANSODDIAD
1.1 Mae grŵp Development Bank of Wales (“y Grŵp”) yn cynnwys Development Bank of Wales Plc (“DBW”) ynghyd â’i is-gwmnïau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
1.2 Mae’r ddogfen hon yn nodi rôl a chyfrifoldebau Bwrdd DBW (“y Bwrdd”) yn unol â’r Erthyglau Cymdeithasu a fframwaith Llywodraeth Cymru.
1.3 Mae cyfrifoldebau’r Bwrdd yn cynnwys cadw at amserlen ffurfiol o Faterion a Gedwir i’w penderfynu gan y Bwrdd.
2. PWRPAS
2.1 Pwrpas y Bwrdd yw darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad effeithiol i’r Grŵp, gan sicrhau ei lwyddiant a’i gynaliadwyedd tymor hir. Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 ac wrth ystyried UK Corporate Governance Code 2024, mae’r Bwrdd yn gyfrifol am:
2.1.1 Hyrwyddo llwyddiant y Grŵp
Gweithredu’n ddidwyll er budd aelodau DBW yn eu cyfanrwydd, gan ystyried:
- goblygiadau tymor hir penderfyniadau
- buddiannau cyflogeion
- perthnasoedd busnes â Llywodraeth Cymru, cyflenwyr, cwsmeriaid ac eraill
- effaith gweithrediadau ar gymunedau a’r amgylchedd
- cynnal safonau uchel o ymddygiad busnes
- trin aelodau’n deg
2.1.2 Gosod cyfeiriad strategol
Diffinio a datblygu cyfeiriad strategol y Grŵp, gosod amcanion heriol, a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.
2.1.3 Sicrhau rheoli risg a rheolaethau mewnol effeithiol
Sefydlu a chynnal fframwaith effeithiol a’i fonitro’n rheolaidd.
2.1.4 Cydymffurfiaeth ac atebolrwydd
Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol a chynnal safonau llywodraethu corfforaethol uchel.
2.1.5 Monitro perfformiad
Goruchwylio perfformiad y Grŵp a sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion a’i dargedau.
3. AELODAETH A PHRESENOLDEB
3.1 Penodir aelodau’r Bwrdd yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 ac Erthyglau Cymdeithasu DBW. Bydd mwyafrif aelodau’r Bwrdd yn Gyfarwyddwyr Anweithredol Annibynnol.
3.2 Dim ond aelodau’r Bwrdd sydd â’r hawl i fynychu cyfarfodydd, ond gall eraill gael gwahoddiad.
3.3 Bydd y Bwrdd yn penodi Cadeirydd. Bydd y Cadeirydd, ar adeg penodi, yn NED annibynnol. Yn absenoldeb y Cadeirydd, caiff cadeirydd ei ethol gan yr aelodau presennol. Ni ystyrir Cadeirydd y Bwrdd yn NED annibynnol at ddibenion y ddogfen hon.
3.4 Gall y Bwrdd wahodd unigolion eraill i fynychu heb hawl pleidleisio.
3.5 Caiff pob aelod wybod am fusnes y cyfarfodydd.
4. YSGRIFENNYDD
4.1 Bydd Ysgrifennydd y Cwmni neu ei enwebai yn gweithredu fel ysgrifennydd y Bwrdd ac yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu’n brydlon.
5. CWORWM
5.1 Y cworwm lleiaf fydd tri aelod, gyda dau ohonynt yn NED annibynnol.
6. AMLDER CYFARFODYDD
6.1 Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o leiaf bum gwaith y flwyddyn.
7. RHYBUDD O GYFARFODYDD
7.1 Caiff cyfarfodydd eu galw gan Ysgrifennydd y Cwmni ar gais y Cadeirydd neu aelod.
7.2 Bydd rhybudd, agenda a phapurau ategol yn cael eu dosbarthu o leiaf pum diwrnod gwaith ymlaen llaw.
8. COFNODION
8.1 Cedwir cofnodion llawn o gyfarfodydd.
8.2 Dosbarthir cofnodion drafft i aelodau’r Bwrdd a’r rhai sy’n mynychu.
8.3 Cofnodir unrhyw wrthdaro buddiannau.
9. YMGYSYLLTU Â CHYFRANDEILIAID
9.1 Bydd y Cadeirydd yn mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac yn ymateb i gwestiynau cyfranddalwyr ac yn ymgysylltu â nhw ar faterion sylweddol, gan ddarparu sicrwydd i Weinidogion Cymru ynghylch gweithredu’r fframwaith tâl.
10. DYLETSAWDDAU
10.1 Bydd y Bwrdd yn datblygu cynllun strategol/cynllun corfforaethol sy’n cyd-fynd ag amcanion polisi’r llywodraeth.
10.2 Yn ogystal â dyletswyddau Deddf Cwmnïau 2006, mae rôl y Bwrdd yn cynnwys:
- Darparu arweinyddiaeth effeithiol
- Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol
- Monitro perfformiad
- Sicrhau bod Gweinidogion a’r Tîm Partneriaeth yn cael eu hysbysu’n briodol
- Hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a rheoli risg
- Cefnogi’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu
- Gwneud penodiadau uwch drwy’r Pwyllgor Penodiadau
- Sicrhau cydraddoldeb cyfle wrth wneud penderfyniadau
10.9 Nid yw cyfrifoldeb personol y Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn lleihau dyletswyddau’r Bwrdd.
10.10 Gall y Bwrdd ddirprwyo gweithgareddau dyddiol ond mae’n parhau’n atebol yn y pen draw.
10.11 Dylai’r Bwrdd ystyried gofynion Senior Managers and Certification Regime yr FCA.
12. ADRODD
12.1 Bydd y Cadeirydd yn rhoi adborth i gyfranddalwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
12.2 Bydd y Bwrdd yn cynnwys disgrifiad o’i waith yn yr Adroddiad Blynyddol yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 a UK Corporate Governance Code 2024.
13. MATERION ERAILL
Bydd y Bwrdd yn:
13.1 Adolygu ei berfformiad a’i gylch gorchwyl yn flynyddol
13.2 Sicrhau hyfforddiant ac ymsefydlu priodol i aelodau
14. AWDURDOD
14.1 Gall y Bwrdd gael cyngor proffesiynol annibynnol ar gost DBW os oes angen, drwy Ysgrifennydd y Cwmni.
DARLLEN PELLACH
Deddf Cwmnïau 2006
https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/46/contents
Erthyglau Cymdeithasu
Cod Llywodraethu Corfforaethol FCA
https://www.frc.org.uk/library/standards-codes-policy/corporate-governance/uk-corporate-governance-code/
Canllawiau FCA ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol
https://www.frc.org.uk/library/standards-codes-policy/corporate-governance/corporate-governance-code-guidance/
Adrodd yn Effeithiol i’r Bwrdd
https://www.cgi.org.uk/resources/technical-library/guidance-notes/corporate/effective-board-reporting/