Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cyllid wedi'i deilwra ar gyfer datblygwyr eiddo preswyl

Drwy Gronfa Eiddo Preswyl Cymru rydym yn cynnig benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl a chymysg eu defnydd yng Nghymru.

Dim ond prosiectau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru y gallwn eu cefnogi.

Cyn y gallwn eich helpu, bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:

  • Cyfeiriad yr eiddo rydych chi'n bwriadu ei ddatblygu.
  • Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a'ch costau rhagamcanol.
  • Dadansoddiad o'r Gwerth Datblygu Gros disgwyliedig (h.y. y gwerthoedd terfynol ar ôl ei gwblhau).
  • Crynodeb o brofiad datblygu blaenorol i chi a'r unigolion allweddol dan sylw.

Sut i wneud cais am fenthyciad eiddo preswyl

press icon

Cam 1

Cysylltwch â'n tîm eiddo i drafod eich prosiect

pc icon

Cam 2

Gyda'n gilydd byddwn yn trafod eich gofynion a'r camau nesaf

tick icon

Cam 3

Byddwn yn anfon dolen atoch i wneud cais am eich benthyciad

wallet icon

Cam 4

Cynhelir adolygiad manwl o'ch cynigion wedi'i gynnal, mae'r broses diwydrwydd dyladwy a chymeradwyaeth credyd yn dechrau

Ateb eich cwestiynau

Os ydych chi'n adeiladu eiddo preswyl o'r dechrau, gallai benthyciad datblygu eiddo eich helpu gyda chostau prynu cychwynnol a thrwy gydol y gwaith o adeiladu'r prosiect. Caiff arian ei ryddhau drwy gydol y rhaglen adeiladu yn dilyn ymweliad â'r safle gan ein syrfëwr monitro annibynnol a fydd yn ardystio costau hyd yma ac yn cyhoeddi tystysgrif ar gyfer taliad, fel arfer yn fisol.

Gallwch fenthyca isafswm o £150,000 ac uchafswm o £10 miliwn, gyda swm y benthyciad yn cael ei bennu gan werth yr eiddo.

Gallwn ni helpu gyda chostau prynu cychwynnol, os yw metrigau'r prosiect yn caniatáu hyn ac os oes caniatâd cynllunio ar waith. Rydym yn creu dull wedi'i deilwra i gyd-fynd â phob prosiect unigol.

Gellir defnyddio'r benthyciad i ariannu datblygiad eiddo preswyl yng Nghymru.

Y tymor hiraf yw 48 mis ar gyfer eiddo preswyl.

Nid oes unrhyw lefelau penodol, ond rydym yn disgwyl i gwsmeriaid rannu'r risg ariannol. Yn aml, mae cronfeydd prynu tir yn ddigonol.

Mae'r benthyciad i gefnogi datblygiad cartrefi newydd hyd at eu cwblhau ac mae naill ai'n cael ei ad-dalu o werthiant yr unedau wedi'u cwblhau, o ailgyllido, neu gymysgedd o'r ddau. Mae hyn yn golygu y gallwn ail fenthyca'r arian i gefnogi datblygiad eiddo pellach.

Be’ nesaf?

Cysylltwch â'n tîm eiddo ymroddedig i ddarganfod sut y gallai benthyciad eiddo preswyl gefnogi eich prosiect

 

Cysylltu â ni