Y gweithwyr yn cymryd perchnogaeth o Lloyd & Gravell wrth iddo baratoi ar gyfer twf yn y dyfodol

Arushi-Jolly
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Prynu busnes
Marchnata
Lloyd + Gravell

Mae Lloyd & Gravell, contractwr adeiladu yn Sir Gaerfyrddin sy'n cyflawni prosiectau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, wedi cwblhau trafodiad Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (YPG) mewn cam nodedig i'r busnes, sy'n sicrhau ei ddyfodol ac yn ei baratoi ar gyfer twf pellach. Cyhoeddwyd y newyddion ar draws y cwmni mewn digwyddiad diweddar ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Wedi'i gefnogi gan gyllid a ddarparwyd gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, a chynghorir gan y GS Verde Group, mae Lloyd & Gravell bellach yn eiddo 100% i ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr, gan gydnabod a sicrhau cyfraniad ei dîm wrth gryfhau dyfodol hirdymor y busnes.

Cafodd y symudiad i berchnogaeth gan weithwyr ei yrru gan awydd i ddiogelu etifeddiaeth y cwmni, sicrhau parhad a chreu strwythur sy'n gwobrwyo'r bobl sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y contractwr adeiladu arobryn, sydd wedi meithrin enw da am ansawdd, cydweithio a pherthnasoedd hirdymor â chleientiaid ledled Cymru.

Cynghorodd y GS Verde Group ar bob agwedd ar y cytundeb gan gynnwys cyllid corfforaethol, strwythuro cyfreithiol a threthi.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Rob Charles a'r Cyfarwyddwyr presennol, Paul Lloyd a Kevin Gravell:

“Ased mwyaf unrhyw gwmni yw eu gweithlu, ac roedden ni eisiau sicrhau bod ganddyn nhw ran yn ein llwyddiant yn y dyfodol gan eu bod nhw wedi bod yn ganolog i’n twf a’n cyflawniadau. Ers ein sefydlu, ein hethos fu gadael gwaddol parhaol yn y cymunedau lle rydyn ni’n byw ac yn gweithio. Mae Ymddiriedolaeth Perchnogaeth y Gweithwyr yn sicrhau parhad i gleientiaid a phartneriaid wrth ddarparu diogelwch i’r tîm cyfan.”

“Mae’r newid hwn yn nodi dechrau pennod newydd i Lloyd & Gravell, gyda’r busnes mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ei sylfeini cryf a pharhau i gyflawni prosiectau o ansawdd uchel i’w gleientiaid.”

Mae perchnogaeth gweithwyr yn parhau i ennill tyniant ledled y DU fel ateb olyniaeth, gan alluogi perchnogion busnesau i gadw annibyniaeth wrth rymuso gweithwyr a chefnogi twf cynaliadwy hirdymor.

Dywedodd Arushi Jolly, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru:

“Mae ein cyllid yn sicrhau dyfodol hirdymor y busnes wrth rymuso’r gweithlu i gymryd rhan lawn yng ngwobrau llwyddiant y busnes yn y dyfodol. Mae’n gam gwych ymlaen, gan ategu mwy o ymgysylltiad gan weithwyr a chadw swyddi yng Nghymru.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, gwerth £500 miliwn, yn cefnogi busnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael o £25,000 i £10 miliwn.