Cynhyrchydd bwyd o Jamaica yn sicrhau micro fenthyciad o £50,000 gan y Banc Datblygu i helpu gyda thwf

Dylan-Evans
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
The Pattyman

Mae cynhyrchydd bwyd crefftus o Gaerdydd ar fin cynyddu cynhyrchiad ei ystod o fwydydd wedi'u hysbrydoli gan Jamaica ar ôl sicrhau micro fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru i ddiwallu'r galw cynyddol gan gwsmeriaid a masnach.

Wedi'i sefydlu gan Leroy Williams yn 2021, dechreuodd The Pattyman fel menter gartref wedi'i hysbrydoli gan ei rieni diweddar – tad o genhedlaeth Windrush a mam o’r Cymoedd yng Nghymru. Gan dynnu ar ryseitiau teuluol traddodiadol, aeth Leroy ati i greu busnes bwyd sy'n dathlu dwy ochr ei dreftadaeth trwy gynhyrchion dilys wedi'u hysbrydoli gan Jamaica wedi'u dylanwadu gan ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.

Bydd y micro fenthyciad, a ddarperir drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, yn helpu Leroy i gryfhau gweithrediadau'r busnes ac adeiladu capasiti wrth i'r galw am ei gynhyrchion barhau i dyfu. Gan weithredu o Ystâd Ddiwydiannol Tremorfa yng Nghaerdydd, mae'r busnes yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion crefftus gan gynnwys Jeli Pupur Coch arobryn, sawsiau, relish, marinadau jerk, punch rym a phatis Jamaicaidd. Mae'r busnes yn cyflenwi cwsmeriaid yn uniongyrchol tra hefyd yn gwasanaethu marchnadoedd cyfanwerthu a masnach ledled Cymru a thu hwnt.

Wrth wraidd y brand mae'r cysyniad Cymreig o gynefin, sy'n golygu ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â lle.

Dywedodd Leroy Williams, sylfaenydd a pherchennog The Pattyman:

"Dechreuodd The Pattyman fel ffordd o anrhydeddu fy rhieni a dathlu'r diwylliannau a'm lluniodd. Daeth fy nhad i Gymru fel rhan o genhedlaeth Windrush ac roedd fy mam o Gymoedd Cymru, felly roeddwn i eisiau creu rhywbeth a fyddai'n dod â'r rhannau hynny o fy hunaniaeth at ei gilydd."

"Mae bwyd wastad wedi ymwneud â theulu, cymuned a chysylltiad. Mae gan bob rysáit stori y tu ôl iddi ac mae pob cynnyrch yn adlewyrchu'r traddodiadau a drosglwyddwyd i mi."

"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi'r platfform inni adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Bydd yn ein helpu i gynyddu capasiti, cefnogi twf yn y dyfodol a pharhau i rannu'r blasau a'r dreftadaeth sy'n gwneud The Pattyman yn unigryw gyda mwy o gwsmeriaid."

Darparwyd y cyllid gan Fanc Datblygu Cymru fel rhan o'i gefnogaeth i fusnesau Cymru sy'n tyfu. Gall micro fenthyciadau helpu busnesau sefydledig i fuddsoddi mewn ehangu, gwella cynhyrchiant a manteisio ar gyfleoedd newydd, gan eu helpu i gymryd y cam nesaf yn eu taith twf.

Dywedodd Dylan Evans, Swyddog Buddsoddi Gweithredol Cynorthwyol ym Manc Datblygu Cymru:

"Mae'r Pattyman yn enghraifft wych o fusnes Cymreig gyda chynigiad nodedig, gwerthoedd cryf ac uchelgeisiau twf clir. Mae Leroy wedi adeiladu brand sy'n sefyll allan trwy ansawdd ei gynhyrchion a'r stori y tu ôl i rheiny."

"Mae busnesau fel The Pattyman yn dangos sut y gall buddsoddiadau llai wneud gwahaniaeth ystyrlon o ran cynyddu capasiti, datblygu gweithrediadau a chefnogi twf cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at gefnogi Leroy wrth iddo symud y busnes ymlaen."

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn yn cefnogi busnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael o £25,000 i £10 miliwn.