Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Cylch Gorchwyl
Grŵp Datblygu Banc Cymru ("y Grŵp")
Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
    


Cyfansoddiad
    

  • 1.    Mae Bwrdd Banc Datblygu Cymru ccc ("y Bwrdd") wedi sefydlu Pwyllgor o'r Bwrdd a elwir yn Bwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ("y Pwyllgor").
  • 2.    Mae Grŵp Datblygu Banc Cymru yn cynnwys Banc Datblygu Cymru ccc a'i holl is-gwmnïau sy'n eiddo yn gyfan gwbl iddo.

    


Aelodaeth a phresenoldeb
    

  • 3.    Penodir y Pwyllgor gan Gadeirydd y Bwrdd o blith aelodau'r Bwrdd a bydd yn cynnwys o leiaf dau aelod. Dylai'r aelodau fod yn annibynnol o Reolaeth Weithredol ac yn rhydd o unrhyw fusnes neu unrhyw berthynas a allai ymyrryd yn sylweddol wrth ymarfer eu barn annibynnol.
  • 4.    Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn penodi Cadeirydd y Pwyllgor. Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor bydd yr aelodau sy'n weddill yn bresennol yn ethol un ohonynt hwy eu hunain i Gadeirio'r cyfarfod.
  • 5.    Nid oes gan unrhyw un heblaw aelodau'r Pwyllgor yr hawl i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Fel arfer bydd y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddiaeth yn ogystal ag Adran Weithredol Adnoddau Dynol yn bresennol ac eithrio pan drafodir materion yn ymwneud â'u cydnabyddiaeth ariannol hwy eu hunain.
  • 6.    Os na all aelod rheolaidd fynychu oherwydd absenoldeb, salwch neu unrhyw achos arall, gall Cadeirydd y Pwyllgor gyfethol cyfarwyddwr annibynnol arall o'r Cwmni i wasanaethu fel aelod amgen yn eu lle.
  • 7.    Yn ôl eu disgresiwn, bydd y Pwyllgor yn gwahodd personau eraill i fynychu'r cyfarfodydd i ddarparu gwybodaeth er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd gan y cyfryw bersonau hawl i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau gan y Pwyllgor.
  • 8.    Hysbysir holl aelodau'r Pwyllgor am y busnes sydd i'w drafod mewn unrhyw gyfarfod hyd yn oed os na allant fod yn bresennol.
  • 9.    Bydd Ysgrifennydd y Cwmni neu ei enwebai yn gweithredu fel Ysgrifennydd y Pwyllgor.

    


Amlder cyfarfodydd a chworwm
    

  • 10.    Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac ar adegau eraill y bydd yn ofynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor.
  • 11.    Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd fydd 2 aelod yn bresennol drwy'r cyfarfod naill ai'n bersonol neu dros y ffôn. Bydd cyfarfod a drefnwyd yn briodol o'r Pwyllgor lle mae cworwm yn bresennol yn gymwys i arfer pob pŵer a disgresiwn gan y Pwyllgor.

    


Cyfarfodydd
    

  • 12.    Bydd Cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu galw gan Ysgrifennydd y Cwmni ar gais unrhyw un o'i aelodau.
  • 13.    Bydd Ysgrifennydd y Cwmni yn cofnodi gweithrediadau'r holl gyfarfodydd gan gynnwys enwau'r rhai sy'n bresennol a'r rhai sy'n mynychu.
  • 14.    Bydd cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu dosbarthu'n brydlon i holl aelodau'r Pwyllgor.

    


Dyletswyddau
    

  • 15.    Bydd y pwyllgor yn: 
  • 15.1    Penderfynu a chymeradwyo'r fframwaith neu'r polisi cyffredinol ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol Cyfarwyddwyr a Thîm Rheoli Gweithredol y cwmni gan na fydd unrhyw Gyfarwyddwr yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau ynghylch eu taliadau eu hunain.
  • 15.2    Wrth bennu polisi o'r fath, gan ystyried pob ffactor sydd yn ei farn o yn angenrheidiol. Amcan polisi o'r fath fydd sicrhau bod aelodau'r Tîm Rheoli Gweithredol yn cael cymhellion priodol i annog gwell perfformiad ac yn cael eu gwobrwyo mewn ffordd deg a chyfrifol am eu cyfraniadau unigol i lwyddiant y sefydliad.
  • 15.3    Cymeradwyo dyluniad unrhyw gynlluniau tâl sy'n gysylltiedig â pherfformiad i'w gweithredu gan y sefydliad a chymeradwyo cyfanswm y taliadau blynyddol a wneir o dan gynlluniau o'r fath. 
  • 15.4    O fewn telerau'r polisi a gytunwyd ac mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr fel y bo'n briodol, penderfynu ar gyfanswm y pecyn cydnabyddiaeth ariannol unigol ar gyfer pob aelod o'r Tîm Rheoli Gweithredol.
  • 15.5    Goruchwylio unrhyw newidiadau mawr yn strwythurau buddion gweithwyr ar draws y sefydliad cyfan.

    


Cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr
    

  • 16.    Er budd eglurder mae dyletswyddau Prif Weithredwr y Grŵp sy'n deillio o'r Trefniad Rheolaeth, wedi cael eu gosod allan yn Atodiad A.

    


Cyfrifoldebau adrodd
    

  • 17.    Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn rhoi adborth i'r bwrdd ar ei drafodion ar ôl pob cyfarfod ar bob mater o fewn ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.
  • 18.    Bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd fel y bernir yn briodol ar unrhyw faes o fewn ei gylch gwaith lle mae angen gweithredu neu welliant.

 

Arall
    

  • 19.    Bydd y Pwyllgor o leiaf unwaith y flwyddyn yn adolygu ei berfformiad, ei gyfansoddiad a'i gylch gorchwyl ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu ar ei orau o ran effeithiolrwydd a bydd yn argymell unrhyw newidiadau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i'r Bwrdd eu cymeradwyo.

    


Awdurdod

  • 20.    Mae'r Pwyllgor wedi'i awdurdodi gan y Bwrdd i ofyn am unrhyw wybodaeth y mae'n ei gwneud yn ofynnol gan unrhyw weithiwr cyflogedig o'r sefydliad er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau.
  • 21.    Mae gan y Pwyllgor awdurdod i gael cyngor proffesiynol annibynnol ar draul y Grŵp os yw'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol. Dylai'r trefniadau ar gyfer y cyngor hwn gael eu sianelu trwy Ysgrifennydd y Cwmni. 

 


ATODIAD A


Dyletswyddau Prif Weithredwr y Grŵp

Y Prif Weithredwr sy'n gyfrifol am reoli staff yn bersonol a dylai sicrhau:

  •  Bod lefel a strwythur staffio gymesur â'i swyddogaethau a gofynion effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac economi; 
  •  Bod recriwtio staff yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored;
  •  Bod system ar gael ar bob lefel sy'n gwerthuso perfformiad staff yn foddhaol ar gyfer dibenion tâl perfformiad a dyrchafiad ble bo hynny'n briodol;
  • Bod cyflogau priodol, lwfansau, pensiynau, treuliau busnes a thaliadau diswyddo yn cael eu gwneud i staff; 
  • Bod y trefniadau pensiwn priodol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer staff; 
  • Bod polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol yn cael eu cynnal a'u diweddaru a'u bod yn gyson â'r gofynion cyfreithiol cyfredol;
  • Bod arfer gorau yn y sector gwasanaethau ariannol yn cael ei asesu a'i gymhwyso i'r sefydliad lle bo hynny'n berthnasol;  
  • Bod rhaglen datblygu staff ar gael; 
  • Bod gweithdrefnau cwyno a disgyblu yn cael eu sefydlu ar gyfer y Grŵp; 
  • Bod ystyriaeth lawn yn cael ei roi i bolisi cyfle cyfartal; a;
  •  Bod ymgynghori priodol yn cael ei gynnal gyda staff y Grŵp ar faterion sy'n effeithio arnynt.


Mae cyfrifoldebau staffio a rheoli personél y Prif Weithredwr yn seiliedig ar adran 4 o'r Trefniad Rheoli sy'n llywodraethu'r berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Banc Datblygu Cymru ccc.