Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

HS Bassett yn Cwblhau Pryniant o'r Cwmni gan y Rheolwyr

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
HJ Bassett

Mae Philip Evans wedi cwblhau'r broses pryniant y cwmni gan y rheolwyr gydag un o brif ddosbarthwyr a gwneuthurwyr blaenllaw laminiadau addurnol a systemau bwrdd wal yn y DU.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu ym 1964, roedd HS Bassett & Son Limited (HSBSL) sy'n seiliedig yn Abertawe yn un o ddosbarthwyr Formica cyntaf yn y DU. Ymunodd Philip Evans â'r busnes sy'n eiddo i'r teulu yn 2000 ac fe ddaeth yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2006. Mae benthyciad gan Banc Datblygu Cymru bellach wedi ei alluogi i gwblhau pryniant rheoli gyda'i fab Scott Evans, sy'n beiriannydd cymwysedig ac yn ddefnyddiwr Dyluniad gyda Chymorth Cyfrifiadurol (a adwaenir fel CAD yn aml yn y diwydiant) ac mae'n gweithio ochr yn ochr ag ef.

Gyda 21 o staff a throsiant o oddeutu £2 filiwn, mae'r cwmni'n arbenigo mewn gwneuthuriad ciwbiclau toiled, unedau gwagedd, bariau a chownteri pwrpasol. Mae'r cleientiaid yn cynnwys y Coastal Housing Group, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, yr Atlantic College, darparwyr dodrefn swyddfa, ymddiriedolaethau gofal iechyd a chwsmeriaid eraill ar hyd a lled y DU.

Dros y blynyddoedd, ehangwyd ystod y cynnyrch i gynnig systemau paneli waliau ac ategolion yn ogystal â chownter masnach. Maen nhw'n cyflenwi i ddosbarthwyr ar hyd a lled y DU, ac mae'r brandiau'n cynnwys Axiom, Aquamura, Duropal, Formica a Polyrey.       

Meddai Philip Evans: "Mae ein henw da am grefftwaith a gwasanaeth o ansawdd yn dyddio'n ôl dros 50 mlynedd. Rydym wedi tyfu ac arallgyfeirio'n sylweddol dros y blynyddoedd ond mae ein gwerthoedd traddodiadol yn dal i fod wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud.

"Dyna sy'n fy ngwneud i mi mor falch nawr ein bod ni'n arwain gwedd nesaf ein taith. Rydym yn ffodus iawn bod gennym dîm hynod fedrus ac ymroddedig sy'n rhannu ein hymrwymiad i fod yn rhagorol. Gyda chefnogaeth y banc datblygu, rydym mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ein treftadaeth a chyflawni twf yn y dyfodol er budd pawb."

Mae Alun Thomas yn Rheolwr Rhanbarthol gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: "Fel busnes sy'n eiddo i'r teulu, mae HSBSL wedi buddsoddi'n barhaus i fod yn arweinwyr yn eu maes. Mae eu sylfaen cwsmeriaid yn dyst i'w gwaith caled a'u crefftwaith o safon.

"Mae annog a hwyluso pryniant cwmnïau gan y rheolwyr yn allweddol i feithrin doniau entrepreneuraidd a diogelu swyddi yng Nghymru. Dyna pam ein bod ni mor falch o gefnogi Phil a dymuno pob llwyddiant iddo ef a Scott wrth iddynt ymgymryd ag arweinyddiaeth HSBSL fel arweinydd yn y farchnad."

Cynghorodd Sheraz Akram o DJM Solicitors a Nick Bassett o Harris Bassett Accountants Philip Evans. Cynghorodd Michael Williams o JCP Solicitors y gwerthwr. Meddai Nick Bassett: "Roeddem wrth ein bodd ein bod yn gallu cynorthwyo Phil yn y broses brynu a dod i gasgliad llwyddiannus i bawb dan sylw. Daw cryfder y busnes o du'r tîm o weithwyr ac ansawdd y cynhyrchion a gynhyrchir ganddynt. Dan reolaeth Phil, bydd y fformiwla fuddugol hon yn sicr yn parhau ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo ef a Scott yn y dyfodol."

Dywedodd Sheraz Akram: "Mae gan y busnes sylfeini cadarn a hanes profedig. Bydd y cynllun busnes a sefydlwyd gan Phil a'i dîm ar gyfer y busnes yn sicrhau buddsoddiad parhaus a chyfleoedd twf."

Ychwanegodd Michael Williams o JCP Solicitors: "Roedd yn bleser cynghori'r gwerthwr ar y gwerthiant hwn ac rydym yn dymuno'r llwyddiant gorau i'r prynwr gyda'r busnes wrth iddo fynd yn ei flaen."

Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr